POWEL, MORGAN (fl. c. 1563), bardd, un o gwndidwyr Morgannwg, a chlerigwr o Lanhari

Enw: Morgan Powel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, un o gwndidwyr Morgannwg, a chlerigwr o Lanhari
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

yr oedd, y mae'n debyg, yn aelod o deulu Powel Tir Iarll (gweler Powel, Antoni). Ymddengys iddo fod yn glerigwr yn Nhrelales, ger Penybont-ar-Ogwr, tua 1563. Cadwyd enghreifftiau o'i waith, ac yn eu plith gywydd i Wiliam Prys o Lansawel (Briton Ferry), a chywydd i heddychu Siôn Mawddwy a Tomas ap Wiliam ap Hywel; bu hefyd ddau ymryson rhyngddo a Llywelyn Siôn a Tomas Llywelyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.