Ganwyd 10 Medi 1720 'ym Mrycheiniog ' meddai cofnod Morafaidd; byddai'n ddiddorol gwybod ym mhle'n union, oblegid y mae'n eglur fod Pugh yn gymydog ac yn gyfaill i Howel Harris yn gynnar iawn - yn gyfaill o ymddiried, oblegid bu'n gyfryngwr dros Harris yn ei garwriaeth ag Anne Williams. Ymddengys ei fod yn 1741 yn athro ar un o ysgolion Griffith Jones, yn Nhrefeca ei hunan; ond yn 1742 aeth i Lundain; ymaelododd yn Nhabernacl Whitefield ond hefyd mynychai'r seiat Gymraeg yn Lambeth. Yn 1744-5, pan oedd Cennick â gofal y Tabernacl arno, yr oedd Pugh yn gynghorwr teithiol Methodistaidd; ond yn fuan wedyn troes Cennick at y Morafiaid; methai Pugh yntau fwyfwy ddygymod â Herbert Jenkins, a diarddelwyd ef (Mawrth 1746). Troes at y Brodyr, ac ar ôl cenhadu ar braw gyda hwy am ysbaid, derbyniwyd ef yn aelod o gynulleidfa Fetter Lane ar 9 Mawrth 1748. Ar 12 Mai 1757 urddwyd ef yn ddiacon (gan yr esgob John Gambold), ond ni bu erioed yn offeiriad. Bu'n bugeilio cynulleidfa Llanllieni am ddau gyfnod, 1755-9 a 1763-8, ac yn 1768 rhoddwyd arno ofal Lacharn a Chaerfyrddin. Yno bu ei yrfa'n faith ac yn gythryblus. Yr oedd ef a'i briod (Elizabeth Keach) yn afrywiog ac anhyblyg, ac yn anodd ganddynt ddygynod â'r awdurdodau Morafaidd yn Hwlffordd. Wedi iddi hi farw (1793) methai yntau gyfyd, â'r gweinidogion ifainc a anfonwyd yno i'w gynorthwyo yn ei lesgedd cynyddol. Yn y diwedd darbwyllwyd ef i ymddeol i Hwlffordd, a bu farw yno (yn Portfield) 22 Tachwedd 1811. Yr oedd Pugh yn un o'r ychydig iawn o bregethwyr Cymraeg a fu gan y Brodyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Camgymeriad yn yr ysgrif arno yn y Traethodydd oedd gwahaniaethu rhwng Elizabeth Lugg ac Elizabeth Keach - yr un oeddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.