ROBERTS, ROBERT DAVID (1820 - 1893), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Robert David Roberts
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1893
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Tom Ellis Jones

Ganwyd 3 Tachwedd 1820 mewn ty gerllaw hen gapel Sardis, Dinorwig. Yr oedd ef a'r ' Hen Gloddiwr ' (John Jones, 1821 - 1879; gweler Spinther, iv, 327-9) yn gefndyr. Ni chafodd fawr addysg pan yn blentyn, nac ychwaith addysg athrofaol wedi dechrau ohono bregethu. Bedyddiwyd ef yn 12 oed a dechreuoddodd bregethu yn 1839. Aeth am gyfnod byr yn genhadwr dros gyfarfod misol Arfon i hen faes Christmas Evans yn Llŷn, ond dychwelodd i Sardis lle yr ordeiniwyd ef a'r ' Hen Gloddiwr ' i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1844. Cydweinidogaethai'r ddau i'r eglwysi cylchynol am rai blynyddoedd. Symudodd R. D. Roberts i Bontllyfni a Llanaelhaearn yn nechrau 1848, ond cyn diwedd y flwyddyn honno yr oedd wedi ymsefydlu yn Llanfachraeth a Llanddeusant, Môn. Symudodd drachefn i Tabernacl, Merthyr, yn 1854, ac i Soar, Llwynhendy, yn 1862, ac fel ' Roberts Llwynhendy ' yr aeth yn enwog. Bu yno am chwarter canrif cyn ymddeol yn 1887. Bu farw 15 Mai 1893. Etholwyd ef yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru y flwyddyn y bu farw. Ef yw awdur cofiant H. W. Jones, Caerfyrddin, ac ysgrifennodd ei atgofion i Greal 1889-92. Eithr fel un o bregethwyr huotlaf y genedl y cofir amdano. Yr oedd ei enw yn enw teuluaidd trwy'r wlad, ac ystyrid ef yn un o'r areithwyr gorau a gafodd y genedl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.