Ganwyd Hydref 1853 yng Nghwm Rhiwaith ger Llangynog, Sir Drefaldwyn, mab Robert a Margaret Roberts. Hanoedd o deulu cerddorol; ysgrifennodd ei daid werslyfr ar gerddoriaeth, a pherthynai ei dad i seindorf bres. Bu'r teulu'n byw yng Nghorwen ac wedi hynny yn Wrecsam, ac ymroddodd yntau i ddysgu cerddoriaeth. Cafodd wersi gan David Jenkins a ' Pencerdd Gwynedd ' (J. H. Roberts), a dysgodd ganu'r ffidil a'r harmonium. Cyfansoddodd lawer, ac enillodd yn eisteddfod Amlwch 1878 ar gyfansoddi canig ' Y Daran.' Bu ei ganig ' Cwsg, fy Maban,' yn ddarn prawf eisteddfodau cenedlaethol Corwen a Chaernarfon, ac yn boblogaidd yn America ac Awstralia. Wedi byw am beth amser yn Lerpwl a Manceinion, ymunodd â chwmni Hughes a'i Fab, Wrecsam. Ef a awgrymodd gychwyn Y Cerddor yn 1889 o dan olygiaeth D. Jenkins ac Emlyn Evans, ac ef a ofalai am y darnau cerddorol a roddid gyda'r cylchgrawn. Bu'n ysgrifennydd eisteddfodau Lerpwl, 1884, a Wrecsam, 1888. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i'r Cerddor a throsi yn Gymraeg ddarnau cerddorol y meistri. Efe a drefnodd ac a olygodd Ail Atodiod i Lyfr Tonau Cynulleidfaol ' Ieuan Gwyllt,' a cheir tonau o'i waith yn y gwahanol gasgliadau. Yn 1918 derbyniodd swydd o dan y Bwrdd Amaethyddiaeth. Bu farw 26 Mai 1923, a chladdwyd ef ym mynwent tref Wrecsam.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.