Ganwyd 19 Medi 1784 yn Aberach, plwyf Llaneilian, Môn. Ni chafodd pan oedd yn blentyn ddim ysgol. Nid oedd onid 10 oed pan ddechreuodd weithio yng ngwaith mwyn Mynydd Parys. Ymhen ysbaid aeth i wasanaeth un David Roberts, Amlwch, a thrachefn fe'i hanfonwyd, yn llanc cryf a chyfrifol, gan ei feistr i hwsmona tir a berthynai iddo ef, y meistr, ger Llannerch-y-medd. Gyda'r deffroad ysbrydol a brofodd tan ddylanwad Peter Williams a Robert Roberts, Clynnog, yn bennaf, daeth arno syched am wybodaeth, ac aeth am dri mis i ysgol a gynhelid ym Mhorth Amlwch gan y Parch. John Evans. Gwedi hynny, cerddodd gwrs hunanddiwylliant mewn modd rhyfeddol, a chafodd gyfarwyddwr da yn sicr yn ei gyfaill John Elias. Dewiswyd ef yn flaenor yn Amlwch pan oedd yn 21 oed, a phan oedd yn 23 dechreuodd bregethu. Dechreuodd fasnachu ar ei gyfrifoldeb ei hun yn 1817, ac yn yr un flwyddyn fe'i ordeiniwyd fel cyflawn weinidog. Ni adodd i na masnach na dim arall fyned rhyngddo a'r gwaith o efengylu a gweinidogaethu. Nodwedd bennaf ei bregethu, meddir, oedd difrifwch. Hynodrwydd arall ynddo oedd ei fod yn dechrau llefaru yn hynod o drwsgl a chlogyrnaidd ei ddull, ond, fel yr âi rhagddo, byddai angerdd difrifol ei ysbryd yn gloywi ei feddyliau a'i ddawn, nes arwain i wir huodledd. Gŵr grymus oedd, ac ni wyddai ei wrandawyr am neb i'w gymharu ag ef oddieithr John Elias. Bu farw 19 Gorffennaf 1864 yn 80 mlwydd oed. Yr oedd ei ddylanwad ym Môn yn ddirfawr, a gallai ffrwyno hyd yn oed John Elias.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.