Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

SALUSBURY, THOMAS (1561 - 1586), cynllwynwr

Enw: Thomas Salusbury
Dyddiad geni: 1561
Dyddiad marw: 1586
Priod: Margaret Salusbury (née Wynn)
Plentyn: Margaret Salusbury
Rhiant: Catrin ferch Tudur ap Robert Fychan
Rhiant: John Salusbury
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynllwynwr
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awduron: Emyr Gwynne Jones, Enid Pierce Roberts

Ganwyd ym 1561, mab hynaf ac aer Syr John Salusbury ieuengaf (gweler dan Salusbury (teulu)) a Chatrin, merch Tudur ap Robert Vychan o Ferain. Ceir blwyddyn ei eni mewn englyn gan William Cynwal, NLW MS 1553A . Ganwyd ei frawd (Syr) John yn 1566 (englyn gan Wiliam Cynwal yn NLW MS 6495D (yn wynebu t. 1); englynion yn enwi pump o'i blant yn yr un llawysgrif gan amryw feirdd.

Ymaelododd yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, 29 Ionawr 1579/80, pan yn 16 oed (nid yr un yw ef â'r Thomas Salusbury a enwir yn Foster, Reg. of Adm. to Gray's Inn dan y flwyddyn 1573; cf. hefyd D.N.B.). Wedi tymor yn Rhydychen, aeth i wasnaethu iarll Leicester, ei warcheidwad a'i noddwr, a thra yn Llundain ymddengys iddo droi'n Gatholig, a thua 1580 ymuno â nifer o wyr ieuainc nwyfus eraill o gylch y Llys a bleidiai achos Mari, frenhines y Sgotiaid.

Yn gynnar yn 1586 daeth Salusbury a chyfaill arall o Gymro, Edward Jones o Blas Cadwgan ger Wrecsam, dan ddylanwad Anthony Babington a gynllwyniai i ladd Elisabeth, rhyddhau Mari, a'i gosod ar yr orsedd. Daeth y cynllwyn i sylw'r awdurdodau; cipiwyd Babington ddiwedd Awst, ond llwyddodd Salusbury i ddianc i sir Gaerlleon, lle y daliwyd yntau ymhen ychydig ddyddiau. Dygwyd ef a'r cynllwynwyr eraill gerbron llys arbennig yn Westminster, 13 Medi, lle y cafwyd Salusbury yn euog o'r bwriad i gyhoeddi gwrthryfel yn sir Ddinbych pe llwyddasai cynllwyn Babington. Gwadai'n gryf, fodd bynnag, ei fod yn chwenychu lladd Elisabeth. Dienyddiwyd ef 21 Medi, er mawr loes a dychryn i'w deulu ac eraill o'i gydnabod yn sir Ddinbych.

Priododd Salusbury, pan yn 10 oed, Margaret, merch i drydydd gwr ei fam, Maurice Wynn o Wydir. Aeth stad Llewenni i'w frawd, Syr John Salusbury (bu farw 1612).

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.