SEFNYN, bardd yn canu ym Môn yn ail hanner y 14eg ganrif

Enw: Sefnyn
Plentyn: Gwilym ap Sefnyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Canodd awdl foliant i Dudur ap Goronwy o Drecastell a Phenmynydd (bu farw 1367), ac awdl farwnad i Iorwerth Gyriawg, bardd o Fôn a flodeuai o gwmpas 1360. Canai hefyd foliant gwragedd, megis rhyw Angharad 'gymar Dafydd '; yn gymysg annhrefnus y ceir ei waith yn y llawysgrifau. Y mae'n dra thebyg mai ef oedd tad y bardd Gwilym ap Sefnyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.