Fe wnaethoch chi chwilio am anna fison

Canlyniadau

FISON, ANNA 'Morfudd Eryri' (1839-1920), ieithydd, eisteddfodwraig, bardd ac addysgydd

Enw: Anna Fison
Ffugenw: Morfudd Eryri
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 1920
Priod: David Walter Thomas
Plentyn: Evan Lorimer Thomas
Rhiant: Charlotte Fison
Rhiant: Thomas Fison
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: ieithydd, eisteddfodwraig, bardd ac addysgydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd hi yn Barmingham, Suffolk, yr ieuengaf o 20 o blant Thomas Fison, a Charlotte, ei ail wraig, 14 Chwefror 1839. Addysgwyd hi yn Llundain a Cheltenham ac ar y Cyfandir; aeth i fyw at frawd iddi yn Rhydychen, ac enillodd feistrolaeth ar nifer o ieithoedd, gan gynnwys y clasuron. Dechreuodd hefyd ymddiddori yn y Gymraeg dan gyfarwyddyd y Dr. Charles Williams, prifathro Coleg Iesu.

Yn 1871 priododd David Walter Thomas , a magwyd eu plant (dau fab a thair merch) yn Gymry da. Un o'i meibion oedd yr offeiriad a'r ysgolhaig Evan Lorimer Thomas. Ymdaflodd i'r bywyd Cymreig; cynhaliai ddosbarthiadau nos ar gyfer chwarelwyr yr ardal, a rhoddi llawer ohonynt ar ben y ffordd. Cystadlai hefyd mewn eisteddfodau, ac yn eisteddfod genedlaethol Caerdydd, 1883, hyhi a enillodd yng nghystadleuaeth y bryddest gyda chân Saesneg i Landaf. Bu'n flaenllaw hefyd yn yr ymdrechion i ddiwygio'r eisteddfod genedlaethol yn y 70au a'r 80au. Yn 1884 ymgeisiodd am gadair yr ieithoedd modern yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, a bu bron â chael ei hethol.

Bu farw 21 Chwefror 1920 yn Nyffryn Ardudwy, a'i chladdu yng Nghaergybi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.