Ganwyd 16 Medi 1746, mab Thomas Rees, Pen-hydd Fawr, Margam, Sir Forgannwg. Cafodd argyhoeddiad o dan weinidogaeth Evan Dafydd Evan, Ty'r-clai, a daeth o dan ddylanwad William Davies, curad Methodistaidd Castell Nedd. Ymunodd â'r gynulleidfa yng nghapel y Gyfylchi, a dechreuodd bregethu yn seiadau'r cylch. Priododd Catherine, merch John Lewis, Llanfihangel Ynys Afan, ac aeth i fyw i Aberafan am ysbaid. Symudodd oddi yno i'r Goetre, gerllaw hen gapel y Dyffryn, Tai-bach, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu farw 26 Rhagfyr 1807, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfihangel Ynys Afan - Cwmafan heddiw. Yr oedd 'Siencyn Pen-hydd' yn un o bregethwyr hynotaf ei oes a daeth yn enwog trwy'r wlad ar gyfrif ei stranciau rhyfedd yn y seiadau, aflerwch ei ymddangosiad, a gerwindeb ei ddull fel pregethwr. Anfarwolwyd ef pan luniodd Edward Matthews gofiant iddo; a bu'r cofiant hwnnw yn faes darllen i do ar ôl to o Gymry.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.