Mab Lewis ac Eleanor Thomas, Eglwys Nunydd, ger Margam, sir Forgannwg (bedyddiwyd ef 26 Awst 1734). Derbyniodd ei addysg gynnar dan y Dr. Durell yn ysgol y Bont-faen, Sir Forgannwg, ac yna ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 24 Hydref 1751. Graddiodd yn B.A. o Goleg Oriel yn 1755 ac yn M.A. yn 1758. Urddwyd ef yn ddiacon 13 Awst 1758 gan esgob Tyddewi, ac yn offeiriad 23 Medi 1759 gan esgob Rhydychen. Sefydlwyd ef 28 Ebrill 1760 ym mywoliaeth Aberafan gyda Baglan a Llansawyl (Briton Ferry) ar gyflwyniad yr arglwydd Vernon o Briton Ferry. Ar 30 Rhagfyr 1763, cyflwynwyd ef gan yr un noddwr i fywoliaeth Llangynwyd gyda Baiden, ac ar 7 Ionawr 1764 enwyd ef gan yr arglwydd Mansel i guradiaeth Llangeinwr. Ond am rai blynyddoedd wedi 1760, yn Rhydychen y treuliai y rhan fwyaf o'i amser fel cymrawd ac athro yng Ngholeg Pembroke. Cyflwynwyd ef 10 Ionawr 1777 i swydd canghellor eglwys gadeiriol Llandaf, ac ymddengys iddo ymddiswyddo o fywoliaeth Aberafan gyda Baglan a Llansawyl yn 1786, ac o Langynwyd gyda Llangeinwr yn 1789. Yr oedd hefyd yn rheithor Tortworth, swydd Gaerloyw. Bu farw 3 Medi 1799.
Wedi gadael Rhydychen, penodwyd ef yn gaplan i'r arglwydd Vernon, ac yr oedd hefyd yn un o gyfeillion mynwesol dug Beaufort. Yr oedd yn ysgolhaig Celtaidd gwych ac yn hyddysg hefyd yn ieithoedd y Dwyrain. Dywedir ei fod yn gyfeillgar ag Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') a'i fod yn gyfrifol i ryw raddau am ei annog i orffen y Dissertatio de Bardis.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.