Mewn cerdd ddychan arno fe gawn ei ach am dair cenhedlaeth, sef Trahaearn, fab Goronwy, fab Rotbert fab Bledri (Llyfr Coch Hergest, 1343). Y mae awgrymiadau yn yr un gerdd a bair inni dybio iddo yntau, fel Cynddelw, gael ei alw'n ' Brydydd Mawr ' oblegid ei faintioli corff (e.e. ' Kawr a syrr, Karw byrr y barch ' a ' Mab Gronwy oed mwy no mi '). Yn ôl y Cambrian Biography (Owen), fe dybir mai'r un ydoedd â Chasnodyn, a maentumiai ' Iolo Morganwg ' mai gŵr o Langyfelach oedd Trahaearn ac iddo lenwi 'Cadair Morganwg ' tua 1300. Ond yn y farwnad iddo (Llyfr Coch Hergest, 1229/30, a The Myvyrian Archaiology of Wales , 277) a briodolir yn y The Myvyrian Archaiology of Wales i Wilym Ddu o Arfon fe'i cysylltir â 'gwlad Feiriawn.' Fe'i gosodir hefyd yn y farwnad hon yn llinach y penceirddiaid. Ond yr oedd Trahaearn, fel Casnodyn ei gyfoeswr, yn perthyn i gyfnod pryd na chedwid y ffin rhwng pencerdd a goganwr yn bendant. Y mae Trahaearn yn canu i Hywel o Landdingad yn Ystrad Tywi, ac i Dduw, mewn dull penceirddaidd, ac i ' Gadwgawn a'i ddaw' yn null enllibus a chras y goganwr. Pardduwyd Trahaearn hefyd mewn gogangerdd ddienw, gan Ddeheuwr y mae'n debyg, ac o'r gerdd hon casglwn mai Gogleddwr ydoedd, yn canu yn y De. Fe'i gelwir yn alltud, yn groesan, yn 'ddibencerdd,' yn ddarymredwas (crwydrwr); ac fe'i hanogir i aros yn ei wlad ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.