Y mae'n anodd bod yn bendant ynglŷn â dechreuadau'r teulu hwn. Y mae'r achau yn gymysglyd ac yn gwrthddywedyd ei gilydd; y mae'r ach a rydd Theophilus Jones yn ei History of the County of Brecknock yn cymysgu teulu Crughywel â rhai o deulu'r Coety - gweler teulu Turberville, Coety, Morgannwg - ac â rhai canghennau Seisnig. Yr oedd Syr John Edward Lloyd yn ategu Theophilus Jones yn y ddamcaniaeth nad oes dystiolaeth i'r haeriad ddarfod i deulu Burghill ragflaenu'r teulu Turberville yng Nghrughywel.
Ymddengys ROBERT DE TURBERVILLE fel un o brif denantiaid Bernard de Newmarch yn 1121; efe, felly, y mae'n debygol, oedd y deiliad gwreiddiol. Yn ôl y Testa de Nevill, bu un HUGH TURBERVILLE yn dal Dulverton ar yr amod ei fod yn treulio peth amser yn gofalu am gastell Aberhonddu - math eithriadol o ddeiliadaeth ynglŷn ag arglwyddiaeth yn Nyfnaint. Ceir HUGH TURBERVILLE a RICHARD TURBERVILLE yn dystion mewn siarteri a roddwyd ym Mrycheiniog yn 1215 a 1220. Yr oedd HUGH TURBERVILLE arall yng Nghrughywel yn 1273; y pryd hwnnw yr oedd yn dal Crughywel, nid fel tenant yn dal yn uniongyrchol o dan y brenin ond fel arglwydd yn dal o dan law Reginald Fitzherbert, Blaenllynfi, tenant y brenin. Yr oedd yr Hugh Turberville hwn yn ddyn o gryn bwysigrwydd. Yr oedd yn un o'r swyddogion pencadlys trwy y rhai yr ymdrechai'r brenin Edward I drawsnewid y llu anhrefnus a godid yn y modd ffiwdalaidd i fod yn fyddin ddisgybledig. Yn 1272 yr oedd yn senesgal Gasconi. Galwyd ef yn ôl o Ffrainc er mwyn ei ddefnyddio mewn rhyw swydd neu ei gilydd yn y rhyfel â Chymru yn 1277. Yn 1282 yr oedd yn gwasnaethu gyda'r gwŷr meirch cyflog a chanddo wyth o wŷr yn dwyn gwaywffyn dano. Yn ddiweddarach fe'i ceir gyda llu o 8,000 o wŷr traed o oror Cymru a bellach wedi ei ddyrchafu i radd uchel ' banneret.' Y flwyddyn ddilynol daeth â llu o fil o wŷr a dyrchafwyd ef y tro hwn i fod yn ' deputy constable.' Yn 1284 yr oedd yn gwnstabl castell y Bere, Sir Feirionnydd; yn 1287, yn ystod gwrthryfel Rhys, yr oedd yng ngwarchae castell Dryslwyn, Sir Gaerfyrddin; yn 1288 bu'n ddirprwy-ustus am rai misoedd a dychwelyd wedyn i'r Bere lle y bu farw 1293. Ef oedd yr olaf o'r teulu yn y llinach uniongyrchol. Priododd SIBYL, ei ferch, Syr Grimbold Pauncefote, a theulu hwnnw a ddilynodd y teulu Turberville yng Nghrughywel. Bu un THOMAS DE TURBERVILLE yn gwasnaethu yn yr un rhyfel fel arweinydd gwŷr traed a marchog teulu-cartref y brenin, eithr nid oes sicrwydd ei fod yn perthyn i deulu Crughywel. Fel yn Sir Forgannwg, felly yn sir Frycheiniog, parhaodd y cyfenw Turberville hyd y 18fed ganrif mewn is-ganghennau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.