TYSILIO, sant Celtig o'r 7fed ganrif

Enw: Tysilio
Rhiant: Brochwel Ysgythrog
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant Celtig
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Emrys George Bowen

y dywedir ei fod yn fab i Brochfael, tywysog Powys. Nid oes fuchedd iddo wedi ei chadw yng Nghymru, eithr rhoddir ei ach yn ' Bonedd y Saint,' ac y mae cân iddo a wnaethpwyd yn ail hanner y 12fed ganrif gan Cynddelw. Cyfeirir ato hefyd ym muchedd S. Beuno a ysgrifennwyd gan ancr Llanddewi Brefi yn 1346. Ymddengys i'r traddodiad amdano gael ei fenthyca yn y 15fed ganrif gan fynachod S. Suliac yn Llydaw neu gan rai o ganoniaid S. Malo a oedd yn cymryd diddordeb yn S. Suliac er mwyn ysgrifennu 'llên' nawddsant yr eglwys honno, nawddsant yr oedd ei fuchedd ef wedi ei hen anghofio. Yn y modd hwn daeth S. Tysilio i gael ei gyfrif yr un â S. Suliac a chedwir traddodiad y sant Cymreig ym muchedd nawddsant S. Suliac. O'r fuchedd hon deallwn fod Tysilio yn dymuno pan yn fachgen ieuanc ymuno â'r bywyd crefyddol ac iddo fynd i Feifod yn Sir Drefaldwyn i gael ei addysgu gan yr abad Gwyddfarch. Yn ddiweddarach ymneilltuodd i lannau Menai a sefydlu eglwys Llantysilio yno. Wedi iddo ddychwelyd i Feifod bu raid iddo ddioddef llawer o helbulon ar law ei chwaer-yng-nghyfraith; o'r herwydd ffodd i Lydaw a sefydlu eglwys S. Suliac yno ar draeth afon Rance. Y mae'r dystiolaeth ddaearyddol i barch Tysilio yn adlewyrchiad o'r traddodiad hwn, gan mwyaf; efallai, serch hynny, fod y traddodiad yn gais i esbonio dosbarthiad yr hen eglwysi sydd yn dwyn ei enw. Y mae'n gwbl glir ei fod yn sant o Bowys ag iddo eglwysi eraill ar ei enw ar Fenai, yn ymyl arfordir deheuol Sir Aberteifi, a hefyd yn agos i'r ffin bresennol rhwng siroedd Penfro a Chaerfyrddin. Y mae lleoliad yr eglwysi pellennig hyn yn awgrymu'n weddol bendant i Tysilio ar ryw amgylchiad deithio ar hyd 'ffyrdd' morawl y gorllewin a hoffid mor fawr gan amryw seintiau Celtig eraill. Fel y gwelwyd, nid oes dystiolaeth o gwbl iddo ef ei hunan groesi i Lydaw eithr y mae'n gwbl sicr i'r traddodiad amdano groesi yno mewn oes ddiweddarach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.