WILLIAMS, JOHN (1728 - 1806), emynydd

Enw: John Williams
Dyddiad geni: 1728
Dyddiad marw: 1806
Priod: Mary Williams (née Voss)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Dywedir mai o Flaen Pennal, Sir Aberteifi, yr hanoedd, a'i fod yn frawd i David Williams, Llyswyrny; eithr nid oes sail i'r dybiaeth. Cylchwr ydoedd, a bu'n cadw siop am flynyddoedd yn Sain Tathan, Bro Morgannwg. Ef, nid hwyrach, yw'r ‘John Williams, Carpenter’ a briodwyd â Mary Voss yn Sain Tathan, 24 Mehefin 1755; bu'n briod r thair o wragedd eraill yn eu tro. Yr oedd yn aelod yn Aberthyn, ond cefnodd ar y Methodistiaid pan ddiarddelwyd Peter Williams yn 1791. Ef oedd un o brif arweinwyr y fintai a sefydlodd achos yn y Britwn a neilltuo Thomas William yn weinidog. Yr oeddynt ill dau yn gyfeillion, a chymunent yn Llan-gan yng nghyfnod David Jones yno. Bu farw 26 Awst 1806, yn 78 mlwydd oed, a'i gladdu yn Sain Tathan. Canodd rai emynau melys, ynghyd â phrydyddiaeth arall. Ymddangosodd ei Halsing, neu Gân Newydd ar Ddydd Natolic yn 1781. Ceir ei emyn enwog, ‘Pwy welaf o Edom yn dod,’ mewn llyfryn o waith Jones, Llan-gan, 1784, a dywedir uwch ei ben mai Christopher Bassett a awgrymodd y testun iddo. Canodd nifer o farwnadau — un i'r Bassett uchod, a gyhoeddwyd yn llyfryn Jones, Llan-gan. Canodd gân chwerw ar achlysur diarddel Peter Williams, ac argraffodd hi, ynghyd â darnau eraill, yn Can Diddarfod: sef ‘Pennillion Addysgiadol, etc., 1793. Y mae nifer bychan o'i emynau mewn bri mawr hyd heddiw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/