WILLIAMS, BENJAMIN MORRIS (1832 - 1903), cerddor

Enw: Benjamin Morris Williams
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1903
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 28 Rhagfyr 1832 yn Penybraich ger chwarel Cae Braich y Cafn, Bethesda, Sir Gaernarfon. Dechreuodd weithio yn y chwarel yn 8 oed, cafodd flwyddyn o ysgol yn 12 oed, ac aeth yn ôl i'r chwarel i weithio. Yn 1853 dechreuodd ddysgu'r grefft o argraffu cerddoriaeth gyda Robert Jones, Bethesda, ac ef a gysododd yr oratorio ' Storm Tiberias ' (' Tanymarian '), a ' Requiem ' (' Tanymarian ') i'r Parch. John Jones, Talysarn. Symudodd i Ruthyn at Isaac Clarke yr argraffydd, a chysododd Gems of Welsh Melody ('Owain Alaw'). O Ruthyn aeth i Lundain at John Curwen a'i Fab i gysodi cerddoriaeth yn solffa. Gwasnaethodd hefyd yn swyddfeydd Gee, Dinbych; Isaac Jones, Treherbert; a'r Genedl Gymreig yng Nghaernarfon. Enillodd yn eisteddfod genedlaethol Ruthyn am ' Drefniant o Alawon Cymreig iSeindorf.' Golygodd a threfnodd y tonau yn Caniadau y Cysegr a'r Teulu (Gee, Dinbych) a cheir tonau a salm-dôn o'i waith ynddo; ceir hefyd ddwy dôn yn Llyfr y Psalmau (' Alawydd '). Bu ganddo gôr llewyrchus yn Rhuthyn ac yn Ninbych, a gwasnaethodd fel arweinydd cymanfaoedd canu. Bu farw yng Nghaernarfon a chladdwyd ef 24 Ionawr 1903.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.