Ganwyd 1 Mai 1847 yn y Byrdir, plwyf Llanynys, Dyffryn Clwyd. Yr oedd ei dad, Thomas Williams (Byrdir), yn gefnder i Syr Charles James Watkin Williams. Bu'n ddisgybl ysgol i J. D. Jones y cerddor; yn 1868 wele ef yn eisteddfod Rhuthyn yn mwynhau cwmni pobl gymysgryw fel ' Nefydd,' ' Talhaiarn,' a ' Llew Llwyfo.' Bu'n treio ei law ar amryw orchwylion cyn dod yn un o blismyn sir Ddinbych yn 1870, ac o hynny hyd 1879 (gydag un ysbaid o gadw ysgol) cadwai'r heddwch mewn lleoedd gwledig fel Pentrefoelas a Llannefydd, mynychu cwmni llêngarwyr, prydyddu tipyn, ac ymglywed â lleisiau traddodiad a llên gwerin. Ymddihatrodd o wisg plismon yn niwedd haf 1880; dechreuodd bregethu, ac yn 1881, heb addysg coleg o fath yn y byd, urddwyd ef yn weinidog ar Fedyddwyr Abergele lle y cyfarfu ag ' Emrys ap Iwan '; yn 1886 symudodd i Seilo, Tredegar; yn 1897 daeth yn weinidog eglwys Balliol Road, Bootle, ac yno y bu hyd ei farwolaeth, 24 Mawrth 1922.
Tyfodd yn un o brif bregethwyr ei enwad gydag arddull gartrefol, geirfa rywiog Dyffryn Clwyd, gan fwydo'r saint â hen ŷd y wlad. Gellir dilyn ei ddatblygiad yn amlwg o ran adnoddau ac arddull, o'r ysgrif ar fireineg a chrefydd yn Seren Gomer, 1883, i'r araith o gadair yr undeb yn 1905, ac yn diweddu gyda phrôs cain ei anerchiad o flaen y Gymdeithas Hanes yn 1911. Cyfansoddodd amryw emynau; yr enwocaf oedd ' Bydd canu yn y nefoedd,' cyn gynhared a 1867.
Yr oedd yn un o brif eisteddfodwyr ei gyfnod; mwynheid ei anerchiadau cryno cyrhaeddgar oddi ar y maen llog; cyhoeddwyd hwy'n gyfrol dan yr enw Damhegion yn 1922. Am dymor bu'n gystadleuydd brwd; enillodd y wobr am fugeilgerdd yn eisteddfod genedlaethol Llundain, 1887, am ramant yn eisteddfod Aberhonddu, 1889. Ymddangosodd ei Odlau yn 1879, pryddest ar Yr Aifft yn 1885, a Breuddwyd Sion y Bragwr yn 1890. Yn ei flynyddoedd olaf yr oedd yn llawn afiaith gyda'r ddrama; cyhoeddodd ddwy ddrama ysgrythurol ar Moses, 1903 a 1907, a'i waith mwyaf uchelgeisiol, Owain Glyndwr, yn 1915. Meddiannwyd ef yn bur llwyr gan ysbryd y diwygiad yn 1904-5, ac ymgais i gyfaddasu iaith pobl ieuainc ei ofal, rai ohonynt yn bur garpiog eu Cymraeg, at ofynion y mudiad hwnnw, oedd cyhoeddi'r Key and Guide to the Welsh Language, yn 1911.
Yn wyneb ei ddirffawr lafur llenyddol, a'i ymlyniad dygn wrth yr ŵyl genedlaethol, nid annaturiol oedd i awdurdodau'r Eisteddfod dderbyn cynnig' y teulu i roddi gwobr barhaol ynddi o dan ei enw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.