WILLIAMS, RICHARD (fl. 1790?-1862?), baledwr, a chantwr pen ffair ('efallai mai tywysog y datgeiniaid,' meddai un a'i clybu), a adweinid fynychaf fel 'Dic Dywyll,' neu bryd arall fel 'Bardd Gwagedd'

Enw: Richard Williams
Ffugenw: Dic Dywyll, Bardd Gwagedd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: baledwr, a chantwr pen ffair
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Dyn o'r Gogledd oedd - priodolir ei eni i Amlwch, i Lannerch-y-medd, ac i Lŷn, gan wahanol atgofwyr - ond yn y Deheudir yr enillodd fwyaf o enw. Ni lwyddwyd i gael ei ddyddiadau pendant; tybiai un a'i clybu tua 1862 ei fod y pryd hynny rhwng 70 a 75 oed. Yr oedd yn eisteddfod Aberhonddu yn 1822. Gwyddys iddo ganu ar adeg terfysg Merthyr Tydfil yn 1831; bu'n byw yno am rai blynyddoedd, a rhannodd y wobr am unawd bas yn eisteddfod y 'Swan' yno yn 1834. Pwtyn byr oedd 'Dic'; fel yr awgryma'i lysenw, yr oedd yn ddall; edrydd 'Nathan Dyfed' (Jonathan Reynolds) fel y byddai'n canu 'â'i fys bach yng nghongl ei lygad.' Adroddir iddo ennill wythpunt ar un prynhawn ym Merthyr wrth werthu ei gerddi. Dywedir i'w 'Gân ar ddull y gyfraith newydd, sef y workhouse' (gweler hi yn B. B. Thomas , isod, 93-6) gynhyrfu cymaint ar werin Merthyr fel na feiddiodd y gwarcheidwaid godi tloty yn y dre am gryn ugain mlynedd; canodd hefyd yn adeg terfysgoedd 'Beca.' Erys 73 o'i gerddi mewn argraff, ac y mae cyfrol lawysgrif ohonynt yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (NLW MS 1143B ). Medrai lunio penillion cain iawn, e.e. 'Lliw gwyn, rhosyn yr haf.' Ond hoffach oedd ganddo ddychanu neu ganu'n ddigrif, ac nid yn anfynych byddai'n 'go isel a thomenllyd,' chwedl 'Glaslyn.' Bu farw yn Lerpwl (yno, canai yn y 'Cambria' a'r 'Portmadoc Arms'), ar adeg anhysbys - y mae darn o farwnad iddo yn B. B. Thomas , 19-20.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.