Fe wnaethoch chi chwilio am hugh owen

Canlyniadau

WYNNE, ELLIS (1670/1-1734), clerigwr a llenor

Enw: Ellis Wynne
Dyddiad geni: 1670/1
Dyddiad marw: 1734
Priod: Lowry Wynne (née Lloyd)
Priod: Lowry Wynne
Plentyn: Edward Wynne
Plentyn: William Wynne
Plentyn: Edward Wynne
Rhiant: Edward Wynne
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd Mawrth 1670/1 yn y Lasynys, gerllaw Harlech (ac ym mhlwyf Llandanwg), yn fab i Edward Wynne, a oedd yn disgyn o deulu adnabyddus yn Sir Feirionnydd (Wynne, Glyn Cywarch); mam Ellis Wynne oedd etifeddes y Lasynys. Ni ddarganfuwyd, hyd yn hyn, ym mhle y cafodd Ellis Wynne ei addysg cynnar na pha fodd y treuliodd ei amser hyd nes yr aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, 1 Mawrth 1691/2. Arferid credu iddo adael Rhydychen heb radd, ond y mae tystiolaeth ddiweddar (A. I. Pryce, Diocese of Bangor during three centuries a N.L.W. Vivian MS. 31) yn awgrymu iddo raddio'n B.A. (a chymryd gradd M.A. wedi hynny). Gradd neu beidio y mae digon o dystiolaeth ei fod yn ŵr a gawsai addysg dda a'i fod o deulu diwylliedig. Dywedai traddodiad lleol iddo fod yn dilyn y gyfraith cyn i'w gâr Humphrey Humphreys, esgob Bangor (a Henffordd wedi hynny), awgrymu iddo gymryd urddau eglwysig. Cafodd ei ordeinio'n ddiacon ar 24 Rhagfyr ac yn offeiriad ar y dydd olaf o'r un mis yn y flwyddyn 1704.

Priododd Ellis Wynne (1) Medi, 1698, â Lowry Wynne, Moelyglo, cares a chymdoges iddo (bu hi farw ym mis Gorffennaf 1699 ar enedigaeth eu cyntaf-anedig, Edward, a fu yntau farw cyn cyrraedd ei ddwyflwydd oed); a (2) â Lowry Lloyd, Hafod Lwyfog, Beddgelert. Ganwyd naw o blant o'r ail briodas; sonnir isod am William, yr ail fab, ac Edward, y mab ieuengaf.

Ar y dydd cyntaf o Ionawr 1704/5 daeth Ellis Wynne yn rheithor plwyf cyfagos Llandanwg; yr oedd gofal capelwriaeth Llanbedr hefyd arno. Ym mis Tachwedd 1706 ysgrifennodd lythyr at yr arglwyddes Margaret Owen, gweddw Syr Robert Owen, Porkington (Brogyntyn yn awr), Swydd Amwythig (â chysylltiad ganddo hefyd â Glyn Cywarch), gan ddechrau fel hyn - ' My Parishioners of Llandanwg and my Self are extreamly desirous of a Chappell again at Harlech … ' (un o lythyrau Brogyntyn, yn y Llyfrgell Genedlaethol; gweler ef., ynghyd â llythyr arall gan Ellis Wynne yng nghasgliad Brogyntyn, yn Dauganmlwyddiant Ellis Wynne, Llawlyfr y Dathliad, 1934, ac yn Jnl. Merioneth Historical Soc., 1949). Yn 1711 rhoes heibio ofalu am Llandanwg (a Llanbedr) ac o fis Gorffennaf y flwyddyn honno hyd ei farwolaeth bu'n rheithor Llanfair-juxta-Harlech. (Gweler manylion am ei waith fel offeiriad a'i fywyd yn gyffredinol, a rhestr o rai o'i lyfrau a'i lawysgrifau, yn Dauganmlwyddiant Ellis Wynne).

Fe gofir am Ellis Wynne yn fwyaf dim fel awdur Gweledigaetheu y Bardd Cwsc , a argraffwyd am y tro cyntaf yn 1703, yn Llundain; o'r clasur pros nodedig hwn yr oedd o leiaf 32 o argraffiadau wedi ymddangos hyd at y flwyddyn 1932 ac o leiaf tri chyfieithiad Saesneg wedi eu paratoi - ceir manylion yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, iv, 199-208. Yr oedd yr awdur wedi cyhoeddi eisoes (Llundain, 1701) ei gyfieithiad (Rheol Buchedd Sanctaidd …)o Holy Living … Jeremy Taylor. Yn 1710 ymddangosodd ei argraffiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Yn y Llyfr Gweddi hwn yr argraffwyd ei emyn mwyaf adnabyddus, sydd yn dechrau ' Myfi yw'r Adgyfodiad Mawr '; cafwyd pedwar emyn arall ganddo, ynghyd â fersiwn o un o'r salmau a dwy garol plygain, mewn gyhoeddwyd wedi iddo farw, gan Edward Wynne, sef yn Prif Addysc y Cristion … 1755. Bu Ellis Wynne farw 13 Gorffennaf 1734 a chladdwyd ef o dan yr allor yn Llanfair-juxta-Harlech.

WILLIAM WYNN (1704 - 1761), clerigwr

Ail fab Ellis Wynne o'r ail wraig. Ganwyd 14 Gorffennaf (a'i fedyddio 15 Gorffennaf) 1704. Cafodd ef ei addysg yng Nghaer dan Dr. Henchman, yn Llanegryn, Sir Feirionnydd, dan John Edwards, 1717-22, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 10 Mawrth 1722/3 hyd Gorffennaf 1726 (B.A. ac M.A.). Ordeiniwyd ef yn ddiacon ym Mangor, 6 Awst 1726, ac yn offeiriad ar 14 Gorffennaf 1728. Bu'n gurad Llanaber i gychwyn (13 Awst 1726–Medi 1731), a bu'n gwasnaethu ym Mallwyd a sir Fôn cyn dychwelyd i Sir Feirionnydd yn 1733 yn guard i'w dad yn Llanfair-juxta-Harlech a'i ddilyn, 21 Medi 1734, yn rheithor y plwyf hwnnw. Ym mis Ebrill 1750 daeth yn rheithor Llanaber.

Priododd William Wynn (1) 28 Ionawr 1733/4, â Jane, ferch William Wynne, Maesyneuadd, gerllaw Harlech (bu hi farw 9 Rhagfyr 1734, ar enedigaeth plentyn); a (2) â Jane, ferch Hugh Lloyd, Trallwyn, Sir Gaernarfon. O'r ail briodas cafwyd unig ferch, Ellin (gweler manylion pellach yn Dauganmlwyddiant Ellis Wynne …). Bu William Wynne farw ym mis Gorffennaf 1761.

EDWARD WYNNE (1715 - 1767), offeiriad ac awdur

Mab ieuengaf Ellis Wynne, bedyddiwyd 25 Mawrth 1715. Cyfeiriwyd eisoes at ei gyfieithiad (Prif Addysc y Cristion …) a gyhoeddwyd yn 1755 pan oedd yn gurad Llanaber o dan ei frawd William; bu wedyn yn offeiriad Penmorfa, Sir Gaernarfon. Y mae cyfeiriadau ato yn ewyllys ei dad ac yn llyfrau nodiadau ei frawd William; ceir manylion llawn yn Dauganmlwyddiant ac mewn erthyglau yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, 1934.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.