JONES, JOHN ROBERT ('Alltud Glyn Maelor '; 1800 - 1881), llenor ac emynydd

Enw: John Robert Jones
Ffugenw: Alltud Glyn Maelor
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1881
Plentyn: J.R. Jones
Plentyn: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llanarmon yn Iâl yn 1800; yr oedd yn perthyn i ' Ehedydd Iâl ' (William Jones, 1815 - 1899). Prentisiwyd ef yn grydd, a bu'n grydd hyd ei flynyddoedd diwethaf. Priododd (cafodd chwe mab), ac aeth i fyw i'r Cefnmawr, lle yr ymunodd (1827) â'r Bedyddwyr. Symudodd i'r Brymbo yn 1834, a bu yno weddill ei oes. Cynullwyd eglwys i'r Bedyddwyr, yn ei dy, yn 1836 - ar gyfer yr achlysur hwnnw y lluniodd ei emyn adnabyddus ' Cofio 'rwyf yr awr ryfeddol.' Nid oedd yn dda ei fyd tua diwedd ei ddyddiau, ond cafodd waith ysgafn yng ngwaith haearn Brymbo. Bu farw 11 Mai 1881.

Sgrifennodd lawer i gyfnodolion ei enwad, a chyhoeddwyd dau lyfr o'i eiddo, Y Fodrwy Arian, 1877, a Y Rhosyn Diweddaf, 1889 (wedi ei farw). Canodd farwnadau i Christmas Evans a John Williams (1806 - 1856), llawer o garolau, a swm mawr o ganeuon ysgeifn ar destunau ysmala. Arferai argraffu emynau byrion ar gardiau, a'u gwerthu am geiniog neu ddwy yr un.

Mab iddo oedd William Jones, Abergwaun (1834 - 1895).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.