POWELL, DAVID ('Dewi Nantbrân '; bu farw 1781). Brawd o Urdd S. Ffransis

Enw: David Powell
Ffugenw: Dewi Nantbrân
Dyddiad marw: 1781
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Brawd o Urdd S. Ffransis
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

a aned fel y tybir, yn y Fenni. Bu yng nghwfaint y Brodyr Llwydion yn Douai. Ar ei ddychweliad i Gymru (1740), ymsefydlodd yn eu cwfaint yn y Berthhir yn sir Fynwy (nid ymddengys fod iddo unrhyw gyswllt â hen deulu Powell, Perth-hir, a enwir ar t. 934). Brodyr o'r cwfaint hwn a wasnaethai gapel Pabyddol y Fenni, a gweithredodd ' y Brawd Gregori ' (dyna oedd enw Powell 'mewn crefydd') fel periglor (praeses) Pabyddion y Fenni ar wahanol adegau rhwng 1740 a 1767. Ar 21 Gorffennaf 1778 fe'i ceir yn arwyddo (yn y Fenni) ddatganiad o deyrngarwch i'r brenin (Bradney, Monmouthshire, I, ii, 194). Yn y Fenni y bu farw, 12 Hydref 1781. Cyhoeddodd yn 1764 gatecism Cymraeg, Catechism Byrr o'r Athrawiaeth Ghristnogol; er Addysc ysprydol, i Blant; a'r Werinos Anwybodus trwy Gymru oll. O Gasgliad Dewi Nantbrân Off. O.S.F. Diamau hefyd mai ef, dan y llythrennau 'D.P.', a gynhyrchodd ddau lyfr arall. Y cyntaf (1764 eto) oedd Sail yr Athrawiaeth Catholic. Yr ail, yn 1776, oedd Allwydd y Nef. O gasgliad D.P. Off., cyfaddasiad o Allwydd Paradwys, 1670, ' John Hughes ' (gweler t. 359 uchod). Dengys Fisher (isod) fod Cymraeg David Powell yn llawer glanach na Chymraeg Allwydd Paradwys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.