EVANS, DANIEL SIMON (1921-1998), ysgolhaig Cymraeg

Enw: Daniel Simon Evans
Dyddiad geni: 1921
Dyddiad marw: 1998
Priod: Frances Evans (née Evans)
Plentyn: Dafydd Huw Evans
Rhiant: Sarah Jane Evans (née Lewis)
Rhiant: David [John?] Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Cymraeg
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd D. Simon Evans ym Mroderi, Llanfynydd, sir Gaerfyrddin, 29 Mai 1921. Ef oedd plentyn hynaf David Evans (bu farw 1948) a'i wraig Sarah Jane (ganwyd Lewis), ac yr oedd ganddo chwaer a brawd, sef yr Athro D. Ellis Evans. Bu teulu David Evans yn amlwg ym mywyd y gymuned yn Llanfynydd ac yn arbennig yn y capel Methodistaidd, Capel Banc y Spite, ers cenedlaethau a bu'r fro honno'n agos at galon Simon Evans gydol ei fywyd. Rhwystrwyd ei dad, yr hynaf o 12 o blant, rhag mynychu coleg gan ei amgylchiadau teuluol a threuliodd ei fywyd yn Llanfynydd yn swyddog trethi ac yn ysgrifennydd cangen leol Undeb yr Amaethwyr. Yr oedd ef yn ŵr gwirioneddol alluog a diwylliedig, yn draethodwr mewn cystadlaethau eisteddfodol ac yn cyson gyrraedd y brig yn yr arholiadau ysgrythurol enwadol, yn bregethwr lleyg, yn fardd, ac ‘yn awchu am wybodaeth’ yn ôl tystiolaeth edmygus ei fab.

Wedi derbyn ei addysg gynnar yn ysgol gynradd Llanfynydd, lle y bu'r prifathro, E. J. Thomas, ‘yn gefn ac yn gaffaeliad mawr’ iddo fel y cofnododd ymhen blynyddoedd, aeth Simon Evans i ysgol ramadeg Llandeilo ac oddi yno yn 1939, yn Ysgolor Mary Towyn Jones, i astudio'r clasuron a'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. Ar y weinidogaeth yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yr oedd ei fryd. Pan oedd yn blentyn bach byddai'n ‘chwarae cynnal oedfa’ ar ei ben ei hun, ac wrth dyfu'n hŷn daeth bywyd capel ac ysgol Sul yn argyhoeddiad naturiol ynddo a derbyniwyd ef yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Graddiodd mewn Groeg a Lladin yn 1942 ac yna gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 1943 wedi datblygu'n ieithydd hanesyddol a gramadegydd galluog dan hyfforddiant ei athro, Henry Lewis.

Ei faes ymchwil cyntaf oedd astudiaeth o gystrawennau rhai testunau rhyddiaith Cymraeg Modern Cynnar, sef iaith cyfnod y trawsnewid o Gymraeg Canol i Gymraeg Modern, maes nad oedd wedi cael fawr o sylw cyn hynny. Derbyniodd radd MA yn 1948 a chyhoeddwyd nifer o erthyglau ganddo ar y pwnc hwn a materion gramadeg hanesyddol eraill yn Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Bu'n fyfyriwr yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth yn 1945 a graddio'n BD yn 1947 wedi magu hoffter neilltuol o Roeg a Hebraeg (bu'n ddarlithydd mygedol mewn Hebraeg yn Abertawe am gyfnod), a diddordeb yn hanes yr eglwys ac astudiaethau testunol beiblaidd yn fwy nag mewn athroniaeth a diwinyddiaeth fel y cyfryw. Bu Simon Evans yng Ngholeg Iesu Rhydychen yn 1947-48, yn un o efrydwyr cyntaf yr Athro Idris Foster a oedd wedi'i benodi i Gadair Gelteg Syr John Rhŷs y flwyddyn honno, a pharhau ei astudiaeth o gystrawennau'r frawddeg Gymraeg. Enillodd radd B.Litt (Rhydychen) yn 1952. Nid aeth ymlaen i gwblhau ei hyfforddiant gweinidogaethol er iddo fod yn bregethwr cynorthwyol am lawer blwyddyn, ond dychwelodd yn ddarlithydd cynorthwyol i Adran y Gymraeg yn Abertawe yn 1948 pan benodwyd Melville Richards i swydd prif ddarlithydd Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Lerpwl.

Bu Simon Evans yn Abertawe nes ei benodi yn Athro'r Gymraeg yn Ngholeg Prifysgol Dulyn i ddilyn J. Lloyd-Jones yn 1956. Yn 1962 dychwelodd i Gymru yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, gan symud i Brifysgol Lerpwl yn 1966 yn bennaeth yr Adran Astudiaethau Celtaidd yno, wedi ymadawiad Melville Richards i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1965. Yn 1974 penodwyd Simon Evans yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, swydd a statws newydd yn dilyn yr ailstrwythuro pan ddaeth y coleg yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Cymru. Yr oedd wedi ennill profiad helaeth mewn mwy nag un sefydliad academaidd a bu'n bennaeth nifer o adrannau gwahanol iawn i'w gilydd. Gweithiodd yn ddygn i ddatblygu'r adran Gymraeg yn Llanbedr Pont Steffan yn uned ysgolheigaidd gref ac ymdaflodd hefyd i fywyd gweinyddol y coleg, yn gefn i fwy nag un prifathro. Bu'n ddirprwy-brifathro o 1982 hyd 1988 ac enwyd un o neuaddau preswyl y myfyrwyr ar ei ôl. Bu'n ysgrifennydd adran iaith a llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru, dyfarnwyd Gwobr Goffa Vernam Hull iddo ddwywaith, a thraddododd Ddarlith Goffa G. J. Williams, ‘Llafar a llyfr yn yr hen gyfnod’, yn 1980 (cyhoeddwyd y ddarlith yn 1982). Yn Llanbedr hefyd, yn 1987, y daeth i gyswllt â Gwasg Edwin Mellen (Queenstown, Ontario, a Lewiston, Efrog Newydd) a sicrhaodd fod y wasg honno'n cyhoeddi Cyfres Astudiaethau Academaidd Cymreig. Ymddeolodd Simon Evans yn 1988 ond parhaodd yn Gyfarwyddwr y ganolfan ymchwil yr oedd wedi cynorthwyo i'w sefydlu.

Gramadeg a chystrawen rhyddiaith Gymraeg oedd prif ddiddordeb Simon Evans a chyhoeddodd nifer o erthyglau pwysig yn y prif gylchgronau Celtaidd nid yn unig ar y Gymraeg ond y Gernyweg yn ogystal. Yr oedd ei Gramadeg Cymraeg Canol (1951 a throeon wedyn, argraffiad newydd Saesneg, Grammar of Middle Welsh, 1970 ac ar ôl hynny) yn arloesol, yn gynnig cyntaf ar ddisgrifio'n drylwyr arferion Cymraeg Canol yn nhermau gramadeg heddiw. Mae'r ddwy gyfrol yn dal yn eu gwerth a heb eu disodli. Golygodd Fuchedd Dewi, yn Gymraeg yn 1959, a golygiad newydd diwygiedig a helaethach yn Saesneg o lawysgrif arall yn 1986. Yn sgil y diddordeb hwn ym mucheddau'r saint aeth ati i gasglu ynghyd ac ailgyhoeddi pamffledi G. H. Doble, Lives of the Welsh Saints (1971) gyda rhagymadrodd newydd. Magodd ddiddordeb nid yn unig yn y bucheddau (ceir nifer o astudiaethau ganddo) ond mewn llenyddiaeth grefyddol Gymraeg Canol yn fwy cyffredinol hefyd. Ymddangosodd Medieval Religious Literature yn y gyfres Writers of Wales yn 1986. Maes arall y cyfrannodd yn helaeth iddo oedd y chwedlau Cymraeg Canol, ‘Culhwch ac Olwen’ yn arbennig. Paratoes olygiad o'r chwedl gyda Rachel Bromwich yn 1988, sydd yn tynnu ar waith anorffen Idris Foster; y mae'r golygiad Saesneg yn 1992 yn arddangos mwy o elfennau myfyrdod gwreiddiol y ddau olygydd. Cyfrol arall sy'n dangos trylwyredd a manylder ymchwil Simon Evans yw ei olygiad Historia Gruffud vab Kenan (1977) sy'n rhoi testun golygedig o'r fuchedd hon ond yn manylu hefyd ar y cynnwys, ei hanesyddiaeth a'i gysylltiau llenyddol nes bod hwn yn gyfraniad i'r astudiaeth o hanes Cymru lawn gymaint ag i hanes llenyddiaeth. Cafwyd cyfieithiad Saesneg o'r testun gyda rhagymadrodd yn 1990, A medieval prince of Wales. Nodweddir holl waith Simon Evans gan fanylder trylwyr a digymrodedd, a pharhaodd i gyhoeddi erthyglau golau ac adolygiadau nid yn unig ar destunau Cymraeg Canol ond hefyd ar agweddau eraill ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg, megis y Gododdin a'r cynfeirdd, iaith a dylanwad y Beibl, emynwyr Cymraeg, Morgan Rhys yn arbennig (ymddangosodd ei gasgliad o Emynau Morgan Rhys o Wasg Gregynog yn 2001 ar ôl ei farw) ac ar hynt y Gernyweg a'r Wyddeleg; y mae rhestr o'i gyhoeddiadau hyd at 1988 yn Ysgrifau Beirniadol XVI (1990). Dyfarnwyd gradd D.Litt iddo gan Brifysgol Cymru yn 1979.

Gŵr rhadlon, llawn hiwmor (brathog ar adegau) a chwmnïwr diddan oedd Simon Evans ond yr oedd ganddo feddwl llym, tafod ffraeth (amwys) a dawn feirniadol graff ac yr oedd yn gallu cyflwyno dadl yn effeithlon, ac yn fynych yn llwyddiannus, mewn pwyllgor fel y disgrifiwyd gan y Prifathro Brian Morris mewn ysgrif gynnes a dadlennol. Ei lyfr olaf oedd O Fanc y Spite: atgofion am Gapel y Methodistiaid yn Llanfynydd, a'r Fro (1996), cyfrol 337 tudalen. Mae trylwyredd yr ymchwil yn dangos parch yr awdur at ei bwnc, sef hanes y cylch a'r capel, ond yn fwy arbennig mae'n arwydd o bwysigrwydd y diwylliant ymneilltuol a Chalfinaidd y cafodd ei fagu ynddo i'w werthoedd ef ei hun, fel yr oedd bob amser yn barod iawn i gydnabod.

Bu farw D. Simon Evans yng Nghaerfyrddin 4 Mawrth 1998. Bu farw ei wraig Frances (Evans, o Lanedi) o'i flaen. Bu iddynt un mab, Dafydd, sydd yntau'n ysgolhaig Cymraeg praff.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-07-08

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/