JENKINS, DAVID (1912-2002), llyfrgellydd ac ysgolhaig

Enw: David Jenkins
Dyddiad geni: 1912
Dyddiad marw: 2002
Priod: Menna Rhys Jenkins (née Williams)
Plentyn: Nia Jenkins
Plentyn: Emyr Jenkins
Rhiant: Mary Jenkins (née James)
Rhiant: Evan Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrgellydd ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd David Jenkins ym Mlaenclydach, Cwm Rhondda, 29 Mai 1912 yn un o 5 o blant Evan Jenkins a'i wraig Mary (née James). Fel cynifer o drigolion eraill cymoedd glofaol Morgannwg a oedd wedi mudo o ardaloedd gwledig Cymru i'r ardaloedd diwydiannol ond heb golli cyswllt â'r hen fro, daethai Evan Jenkins i Flaenclydach o Aberaeron, Ceredigion, wedi treulio peth amser yn Llundain, a chael gwaith fel glöwr.

Derbyniodd David Jenkins ei addysg gynnar yng Nghwm Rhondda ond gan ei fod yn dioddef o anhwylderau ysgyfaint ymwelai'n gyson â'i fam-gu, Mary James, ei merch Elizabeth a'i mab iau Henry ym Mrogynin Fawr, Penrhyn-coch, Ceredigion, i warchod ei iechyd (dioddefodd bwl o niwmonia yn 1921). Yn gynnar yn haf 1924 daeth at ei deulu i ymgryfhau wedi salwch hir, ond bu farw ei ewythr Henry, 42 oed, yn annisgwyl ddechrau'r hydref a phenderfynwyd y byddai David yn ymgartrefu gyda'i fam-gu. Yr oedd y rhwyg yn anodd i'r David ieuanc a lleddfodd ei hiraeth wrth dreulio amser yng nghwmni rhai o hen drigolion y pentref yn gwrando ar eu hanesion a thraddodiadau'r fro nes iddo fwrw gwreiddiau o'r newydd yn y pentref a'r cylch a fuasai'n gynefin i'w deulu. Magodd ddiddordeb dwfn yn hanes y plwyf ond trwy ei fywyd hawliai Cwm Rhondda a Phenrhyn-coch deyrngarwch cyfartal ganddo. Cyflwynodd beth o hanes Blaenclydach ynghyd â'i atgofion personol yn 'Cyfaredd Cof a Chyfnod' yn Cwm Rhondda (gol. Hywel Teifi Edwards, 1995), 227-53, a hanes y Penrhyn yn 1992 a 1993.

Aeth i ysgol ramadeg Ardwyn yn Aberystwyth ac oddi yno yn 1932 i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth gan raddio mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 1935. Dechreuodd ymchwilio i hanes bywyd a gwaith Huw Morys (Eos Ceiriog, 1624-1709) yn Efrydydd Ymchwil Syr John Williams (1937-39) a chyhoeddodd erthygl werthfawr yn Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd (cyfrol 8, 1935-37, 140-5) ar enwau personau a lleoedd yng nghywyddau Dafydd ap Gwilym. Ei athro, T. Gwynn Jones, a awgrymodd y pwnc hwn iddo, fel un a adweinai dirwedd ac enwau lleoedd y cylch, a chafwyd ganddo astudiaeth sy'n lleoli'r bardd a rhai o'i helyntion yn gadarn yng nghwmwd Genau'r-glyn. Yr oedd yn gam pwysig yn y gwaith o ailddarganfod y bardd hanesyddol.

Cafodd David Jenkins swydd dros dro yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 1937 a swydd cynorthwyydd dros dro yn adran y llawysgrifau yn 1939. Gwysiwyd ef i'r fyddin ym mis Tachwedd 1940 a gwasanaethodd yn y lluoedd arfog trwy flynyddoedd yr Ail Ryfel Byd, gan gyrraedd rheng uwch-gapten. Yr oedd ym Mharis adeg rhyddhau'r ddinas ac yr oedd ymhlith y carfanau cyntaf i gyrraedd gwersylloedd crynhoi gwlad Pwyl a gogledd yr Almaen yn 1945. Dychwelodd i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1946, i swydd barhaol yn yr adran lyfrau printiedig lle y cafodd yrfa lewyrchus a'i benodi'n Geidwad (pennaeth) yr adran yn 1957. Penodwyd ef yn Llyfrgellydd yn 1969. Yn 1948 priododd â Menna Rhys, merch y Parch. Owen Evans Williams, gweinidog Horeb, Penrhyn-coch o 1919 hyd 1954. Yr oedd mab a merch o'r briodas.

Bu David Jenkins yn ysgrifennydd y Gymdeithas Lyfryddol Gymreig ac yn olygydd ei chylchgrawn o 1964 hyd 1979. Golygodd Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1969 hyd 1979, a Ceredigion o 1973 hyd 1984. Yr oedd ganddo gyswllt agos â'r Cyngor Llyfrau Cymreig, yn Ddirprwy Gadeirydd ac yna'n Gadeirydd 1974-80. Yr oedd hefyd yn weithgar yn y bywyd cyhoeddus, yn Ynad Heddwch (1959-82), Comisiynydd Cyffredinol y Dreth Incwm 1960-87, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Ysbytai Canolbarth Cymru 1969-70, aelod o Ymddiriedolaeth Pantyfedwen 1969-95, ac o Gyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru 1979-82, a Chyngor Ymgynghorol y Llyfrgell Brydeinig 1975-82, Pwyllgor Archifau'r BBC 1976-79, a Llys a Chyngor Coleg Prifysgol Cymru. Penodwyd ef yn CBE yn 1977 ac ymddeolodd o'i swydd fel Llyfrgellydd ddiwedd mis Rhagfyr 1979.

Yr oedd David Jenkins yn nhraddodiad y llyfrgellydd-ysgolhaig ac ni phallodd ei awydd i ymchwilio i fyd llyfrau, hanes llenyddiaeth Gymraeg a hanes lleol Ceredigion. Enillodd radd MA (Cymru) yn 1948 am ei waith ar Huw Morys, a dyfarnwyd D.Litt (er anrhydedd) iddo gan Brifysgol Cymru yn 1979. Yr oedd ganddo wybodaeth eang am wasg Gregynog a'i hargraffu cain ond ni chyhoeddwyd yr hanes yr oedd wedi'i ysgrifennu. Cyhoeddwyd nifer o astudiaethau ganddo o hanes argraffu yng Ngheredigion a llyfrau'r 18fed ganrif. Er na chyhoeddwyd ei draethawd MA yn ei grynswth, lluniodd erthyglau ar lawysgrifau Huw Morys ac ar y canu carolaidd. Ond prif weithiau llenyddol David Jenkins oedd ei gofiant safonol o T. Gwynn Jones (1973, 1994), llafur cariad a pietas ond llyfr sy'n arddangos ffrwyth blynyddoedd o ymchwil wreiddiol. Enilloddd y gyfrol Wobr Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwobr Ellis Jones Griffith Prifysgol Cymru. Ymddangosodd Bro a Bywyd T. Gwynn Jones darluniadol yn 1984. Dilynwyd cofiant T. Gwynn Jones gan waith sylweddol arall, sef Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts, casgliad a golygiad gyda rhagymadrodd helaeth o brif erthyglau llenyddol yr awdur (1978).

Ac yntau ar fin ymddeol, gwahoddwyd David Jenkins gan Gyngor y Llyfrgell Genedlaethol i lunio hanes swyddogol y Llyfrgell. Wrth dderbyn yr her, penderfynodd adrodd hanes y sefydliad o'r trafodaethau cyntaf a'r brwydro gwleidyddol hyd 1952, diwedd cyfnod yr ail Lyfrgellydd, Syr William Llewelyn Davies. Bwriodd David Jenkins ati ar unwaith gan dynnu ar archifau gweinyddol cynhwysfawr y Llyfrgell, ac yn ôl un adolygydd cynhyrchodd nid yn unig hanes sefydliadol eithriadol ei rychwant a'i ddyfnder, ond trwy osod y cyfan yng nghyd-destun meddyliol y cyfnod gwnaeth hefyd gyfraniad tra arwyddocaol i'n dealltwriaeth o hanes gwleidyddol a chymdeithasol y Gymru fodern. Llwyddodd i gwblhau'r gyfrol, A Refuge in Peace and War, ond yr oedd wedi marw cyn ei chyhoeddi yn 2002.

Ffrydiodd diddordeb David Jenkins mewn hanes lleol i ddau gyfeiriad. Cyhoeddodd ei waith ysgolheigaidd ar hanes ystad Gogerddan a theulu'r Prysiaid yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (cyfrol 8, 1953-4), ond ysgrifennodd hefyd nifer o erthyglau mwy poblogaidd eu naws, ynghyd â dau lyfr ar hanes pentref Penrhyn-coch a Horeb, capel y Bedyddwyr lle y maged ef a lle y bu'n aelod ffyddlon trwy ei fywyd. Y mae Bro Dafydd ap Gwilym (1992) ac O blas Gogerddan i Horeb, taith dwy ganrif (1993) yn ddifyr i'w darllen ond llawn mor drwyadl ac ysgolheigaidd eu hymchwil â dim a ysgrifennodd yr awdur. Y mae iddynt arwyddocâd lletach na'r lleol oherwydd yn y cyntaf ohonynt cafodd gyfle i ymhelaethu dipyn ar erthygl 1935-37 ar fro Dafydd ap Gwilym ac adrodd hanes gosod cofeb i'r bardd ym Mrogynin. Y mae papurau ymchwil David Jenkins yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu farw David Jenkins yn Aberystwyth 6 Mawrth 2002 yn 89 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Horeb, Penrhyn-coch 9 Mawrth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-01-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.