Ganwyd Gwenan Jones ar 3 Tachwedd 1889 ar fferm Gelli Isaf, Waun, y Bala. Fe'i bedyddiwyd gan y Parch Michael D. Jones a'r enw a roddwyd arni oedd Gwen Ann, cyfuniad o enwau ei mam, Ann Catherine, a'i nain, Gwen Jones. (Yn y Coleg y dechreuodd arfer yr enw Gwenan.) Ei nain, gwraig weddw dlawd ond galluog ac amryddawn, oedd y ffigur canolog yn ei bywyd yn ifanc. Addysgwyd hi yn Ysgol Gynradd Maes y Waun ac Ysgol Ramadeg y Merched y Bala (gan ddod dan ddylanwad y brifathrawes, Elizabeth J. Owens), ac yn Adran y Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth dan arweiniad yr Athro Edward Anwyl. Graddiodd B.A. 1909 ac yna dilynoddd gwrs hyfforddi athrawon.
Bu'n athrawes Gymraeg a Saesneg yn Ysgol Ferched Pont-y-pŵl, 1910-1914, gan lunio traethawd ar gyfer gradd M.A. yn ei hamser hamdden, cymhariaeth rhwng dau destun o Frut y Brenhinedd Sieffre o Fynwy. Yn ystod y cyfnod hwn fe'i gwahoddwyd gan Ifor Williams i ymuno â'r Macwyaid a chyhoeddwyd ei chyfraniadau yn Y Brython dan y llysenw Macwyes y Llyn. Enillodd ysgoloraieth i astudio yng Ngholeg Bryn Mawr, Pennsylvania, a threuliodd ddwy flynedd yno fel myfyriwr ymchwil dan ofal Dr Carleton Brown yn astudio'r berthynas rhwng y ddrama yng Nghymru a Chernyw a'r ddrama yn Lloegr yn yr Oesoedd Canol. Cwblhodd ei gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Minnesota ac ym 1917 derbyniodd radd Doethor am y traethawd a gyhoeddwyd ym 1939 dan y teitl A Study of Three Medieval Welsh Religious Plays. Bu'n athrawes Saesneg am ddwy flynedd mewn coleg i ferched yn Columbia Missouri cyn dychwelyd i Gymru ym 1920. Cynigiwyd swydd iddi fel darlithydd yn yr Adran Addysg yn Aberystwyth a bu'n aelod o staff y coleg am 30 mlynedd. Bu'n ddylanwad mawr yn ei swydd, yn bugeilio cenedlaethau o fyfyrwyr ac yn ysgrifennu a darlithio yn gyhoeddus ar bynciau yn ymwneud ag addysg.
Yr oedd yn bwyllgorwraig ac yn gynadleddwraig o fri a gwasanaethodd lawer o fudiadau gwleidyddol, diwylliannol, crefyddol a chymdeithasol yng Nghymru. Ym 1942 fe'i penodwyd yn llywydd cyntaf Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru a bu'n llywydd anrhydeddus am nifer o flynyddoedd wedi hynny a rhan amlwg ganddi yng nghyhoeddi Ysgolion y Cymry (1942) a Pholisi Addysg i Gymru (1945). Bu'n aelod gweithgar o Undeb Cymru Fydd a'i ragflaenydd, Cyngor Diogelu Diwylliant Cymru, yn gadeirydd Pwyllgor Merched yr Undeb ac yn olygydd Llythyr Ceridwen, 1957-1968. Bu'n fawr ei chyfraniad i Urdd Gobaith Cymru am dros ddeng mlynedd ar hugain, yn gadeirydd Adran y Merched, yn Gadeirydd y Cyngor ac yna yn Is-lywydd. Yr oedd yn weithgar gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a bu'n Warden Urdd y Graddedigion, 1957-9. Gweithiodd dros Blaid Cymru gan sefyll fel ymgeisydd dros y Brifysgol yn Etholiad Cyffredinol 1945.
Ymunodd â'r mudiad heddwch Cristnogol Urdd y Deyrnas yn fuan ar ôl ei chychwyn ym 1922 a bu wrth y llyw am dros ddeng mlynedd ar hugain, yn gadeirydd ac ysgrifennydd, yn trefnu cynadleddau a gwersylloedd, yn annerch ac yn arwain cylchoedd trafod a defosiwn. Bu'n olygydd cylchgrawn chwarterol y mudiad, Yr Efrydydd, 1935-55, gan gyfrannu erthyglau ac adolygiadau lu yn ogystal ag ysgrifau a cherddi dan y llysenw Ann Rolant. Cyhoeddodd hefyd Yr Allor (cyfrol o weddiau) ac Yr Ysgol Sul a'r Plant.
Daeth dan ddylanwad y syniad o Efengyl Gymdeithasol pan yn aelod ifanc o Fudiad Cristionogol y Myfyrwyr a thrwy gydol ei bywyd ymdrechodd i roi ei ffydd ar waith mewn modd ymarferol. Yn athrawes ifanc wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf bu'n gwneud gwaith dyngarol ymlith plant a phobl ifanc Pont-y-pŵl. Flynyddoedd yn ddiweddarach, rhoddodd gartref i fam ifanc o Latfia a'i mab, ffoaduriaid o'u gwlad ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gan ofalu am addysg a gwaith i'r ddau ohonynt.
Bu Gwenan Jones farw ar 12 Ionawr 1971 yn Ysbyty Bron-glais, Aberystwyth, ac fe'i claddwyd ym mynwent Talybont ger y Bala. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddi yng Nghapel Seilo, Aberystwyth.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-11-03
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.