GWYNN, EIRWEN MEIRIONA (1916 - 2007), gwyddonydd, addysgwr ac awdur

Enw: Eirwen Meiriona Gwynn
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 2007
Priod: Harri Gwynn Jones
Plentyn: Iolo ap Gwynn
Rhiant: Annie Williams (née Williams)
Rhiant: William (St.) John Williams
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gwyddonydd, addysgwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Deri Tomos

Ganwyd Eirwen Meiriona St. John Williams yn 99 Shiel Road, Newsham Park, Lerpwl, ar 1 Rhagfyr 1916 (y stori deuluol yw y cofnodwyd 12 Rhagfyr gan ei thad, a oedd am osgoi dirwy am gofrestru'r enedigaeth yn hwyr). Hi oedd yr hynaf o ddau o blant i William (St.) John Williams (1886-1957) a'i wraig Annie (g. Williams, 1885-1969). Bu hanes trist i'w brawd, Gwilym Gareth (Gari) (1924-1990), a ddioddefodd o epilepsi difrifol am y rhan fwyaf o'i oes. Deintydd llwyddiannus (yn enedigol o Flaenau Ffestiniog) oedd ei thad wedi'i hyfforddi gan ei ddau frawd Jack a David a hyfforddiant mewn swydd yn Amiens, Ffrainc (daeth y "St." yn sgil y cyfnod hwnnw). Cymraeg oedd iaith y cartref cyfforddus yn Lerpwl a magwyd Eirwen i werthfawrogi'r iaith.

Mynychodd ysgol y Cyngor, Birchfield Road (1923-1927), lle magodd hoffter o berfformio ar lwyfan ynghyd â sylfaen academaidd gref. Yn 1926 cymerodd Jack, ewythr Eirwen a phartner ei thad, swydd Swyddog Deintyddol Rhanbarthol dros Gymru yng Nghaerdydd a phenderfynodd William a'r teulu ei throi am Gymru. Llangefni a ddewiswyd fel safle i'r practis, ond treuliwyd gaeaf 1927 yng nghynefin Annie ger Bwlchtocyn, Llŷn. (Bu 'Gorwel' yn dŷ haf i'r teulu am flynyddoedd wedyn, a bu perthynas y brodorion â'r ymwelwyr haf Seisnig yn gryn ddylanwad ar wleidyddiaeth Eirwen.) Ar ôl cyfnod yn Ysgol Sir Pwllheli, symudodd i Ysgol Sir Llangefni yn 1928, wrth i'r teulu fudo i'r tŷ a'r practis newydd yn Llys Derwydd, Ffordd Glanhwfa, Llangefni. Bu'n llwyddiannus mewn ystod eang o bynciau yn yr ysgol - sylfaen ei aml ddiddordebau deallusol gweddill ei bywyd - ond i gyfeiriad ffiseg, mathemateg a chemeg y'i denwyd, a hynny yn sgil dylanwad athrawon ysbrydoledig a chefnogaeth ei thad. Amgylchiadau'r ysgol a'i thad a fu hefyd yn gyfrifol am gychwyn ei hymlyniad oes wrth Blaid Genedlaethol Cymru - yn Llys Derwydd y cyfarfyddai pwyllgor Ynys Môn Y Blaid ddiwedd y 1920au a dechrau'r 1930au a'i thad safodd feichiau dros Lewis Valentine yn dilyn llosgi Penyberth yn 1936. Ymunodd â'r blaid newydd hon yn 1930.

Yn 1934 enillodd Eirwen ysgoloriaeth i astudio ffiseg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Honna yn ei hunangofiant mai rhagfarn yr arholwr allanol yn erbyn merched mewn ffiseg a pheirianneg oedd sail ei methiant i ennill gradd dosbarth cyntaf yn 1937. Dylanwadodd yr un rhagfarn ar ei gyrfa am flynyddoedd a bu'n sail ei hargyhoeddiad ffeministaidd digyfaddawd gydol oes. Ar ôl graddio, arhosodd Eirwen ym Mangor i ymchwilio i ymddygiad Pelydrau-X, ac yn 1942 hi oedd y ferch gyntaf i dderbyn PhD mewn ffiseg yn y coleg hwnnw. Roedd seiliau ei chymeriad - gwraig aml-ddawnus, benderfynol, egnïol, egwyddorol - yn eu lle. Roedd hefyd yn hardd, ac ym Mangor cyfarfu â'i chymar oes, Harri Gwynn Jones (1913-1985). Yn ei ysgrif goffa i Eirwen, disgrifia Meic Stephens Harri fel un o'r Bohemiaid mwyaf talentog a debonair ei genhedlaeth. Bu'n berthynas ddiddorol a ffrwythlon ar sawl ystyr. Fe'u priodwyd ar Ddydd Calan 1942, gan ddod â chyfnod byr Eirwen yn bennaeth adran ffiseg Ysgol Ramadeg y Rhyl (1941-1942) i ben wrth iddi dreulio gweddill yr Ail Ryfel Byd yn Warwick a Llundain lle bu'n gweithio fel cyfrifydd cynorthwyol yn Adran Exchequer and Audit y Llywodraeth. Yn Llundain yn 1944 y ganwyd iddynt fab, Iolo. Bu hyn nid yn unig yn rheswm i Harri ymddiswyddo o'i swydd uchel yn y Ministry of Supply yn 1950, ond hefyd arwain at newid enw'r teulu. Yn ôl ei hunangofiant, yr unig ffordd o roi'r enw Iolo ap Gwynn ar y plentyn oedd i'w rieni hepgor y 'Jones' o'u henwau hwythau yn swyddogol. Ymgartrefodd y teulu o 1943 i 1950 i ddechrau mewn fflat yn Clapham Northside ac yna yn 'Clyd', Clapham Park Road, Llundain. Yn ystod y cyfnod hwn ymddangosodd sgil effaith gwaith ymchwil Eirwen ar belydrau-X. Tynnwyd tyfiant oddi ar ei ofari, a bu'r profiad hwn yn sail ei hamheuaeth o ddefnyddio technoleg niwclear, a'i gwrthwynebiad i ynni niwclear yn arbennig, am weddill ei hoes. Methodd Eirwen a Harri â darbwyllo'r awdurdodau i gychwyn ysgol Gymraeg yn Llundain a chan fod yn driw i'w dyheadau ar gyfer Iolo a'u dyfodol hwythau penderfynwyd mudo yn ôl i Gymru yn 1950.

Nid mater syml o newid swydd oedd hyn, ond ymdaflu i'r bywyd amgen, hunan-gynhaliol, ddegawd a mwy cyn i weddill y byd ymgymryd â'r syniad. Heb lawer o brofiad ffermio ('plant y ddinas' oedd Eirwen a Harri ill dau), prynwyd fferm Tyddyn Cwcallt, Rhoslan, Eifionydd (1950-1962). Ceir peth o awyrgylch y blynyddoedd cynnar yng nghyfrol Harri, Y Fuwch a'i Chynffon (1954). Ond nid hawdd oedd y bywyd amgen ar ôl arfer â chyflog gwas sifil. Wrth i Harri droi at ddarlledu, darlithio ac ysgrifennu, trôdd Eirwen, hithau, at ddarlithio i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. Agorodd hyn drywydd newydd i'w bywyd, ac am yr hanner can mlynedd nesaf Eirwen Gwynn oedd un o ddehonglwyr pwysicaf gwyddoniaeth a thechnoleg - a'u goblygiadau - i'r gymuned Gymraeg. Llwyddodd mewn modd unigryw i gyfuno ei diddordebau gwyddonol a chelfyddydol eang â'i thrylwyredd rhesymegol a'i hargyhoeddiadau cymdeithasol gwlatgar. Ysgrifennodd ryw 1,500 o erthyglau ar wyddoniaeth a datblygiadau cymdeithasol yn Gymraeg mewn cylchgronau (gan gynnwys Y Gwyddonydd, Barn, Pais, Y Wawr, Cynefin, Dan Haul, Trysorfa'r Plant a'r Dysgedydd) yn ogystal ag yn Saesneg (y Listener, yr Observer a'r New Internationalist, er enghraifft). Ymysg y rhain, am dair blynedd ar ddeg lluniodd golofn wyddonol wythnosol i'r Cymro, ac am ddeng mlynedd golofn wythnosol ar faeth i'r Faner.

Gweithio ar ei liwt ei hun wnaeth Eirwen yn ystod y cyfnod hwn heblaw am gyfnod yn athro-drefnydd (Môn, Llŷn, Eifionydd ac Arfon) Cymdeithas Addysg y Gweithwyr o 1970-1979. Bychan oedd y tâl, ond manteisiodd ar fod yn annibynnol ar unrhyw sefydliad (neu o arbenigaeth academaidd gul) i gyrraedd cynulleidfa eang. Daeth yn enw cenedlaethol, gan ymestyn ei thriniaeth resymegol i gynnwys materion holistaidd a 'gwleidyddol' megis maeth a meddygaeth amgen, lle'r ferch mewn cymdeithas a bygythiad ynni niwclear. Bu'n batrwm ymddwyn i nifer o ferched led-led y wlad. Wrth fagu hyder i ysgrifennu, aeth ati i lunio cyfrolau. Ysgrifennodd ddau lyfr ffeithiol arloesol yn y Gymraeg (I'r Lleuad a thu hwnt (1964), ar fordwyo'r gofod; a Bwyta i Fyw (1987), cyngor ar fwyta'n iach. Bu'n gyfrifol am olygu Priodi. Cyfrol o gyngor a chyfarwyddyd (1966), cynghorion amserol i ferched ifanc Cymru'r 1960au. Enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y stori fer (1977) a bu'n agos iawn at ennill y Fedal Ryddiaith ar fwy nag un achlysur. Cyhoeddodd nifer o nofelau ac ysgrifau yn sgil y cystadlu: Dau lygad du (1979), Caethiwed (1980), Cwsg ni ddaw (1982) a Hon (1985)) ynghyd â Torri'n Rhydd (1990) a Dim ond un (1997) a hunangofiant (Ni'n Dau. Hanes Dau Gariad. (1999). Yn 1970 enillodd wobr y BBC mewn cystadleuaeth ysgrifennu drama (dewisodd destun gwyddonol) ac yn 1977 arddangoswyd llun o'i gwaith yn arddangosfa Celf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol - ei phrif ddiddordeb celfyddydol oedd paentio portreadau a thirluniau.

Erbyn y cyfnod hwn roedd y teulu wedi gadael Rhos-lan a symud yn gyntaf i Isgaer, Ffordd Garth Uchaf, Bangor (1962-1970) ac yna i Dyddyn Rhuddallt, Llanrug (1970-1987), cyn symud i Dal-y-bont, Ceredigion (1987-2007) ar ôl marwolaeth Harri yn 1985, i fod yn agosach at Iolo a'r teulu.

Etifeddodd Iolo lawer o werthoedd ei fam. Yn genedlaetholwr, bu'n uwchddarlithydd Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu hefyd yn arloeswr ym myd gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg (cyd-sylfaenydd Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol, cyn-olygydd Y Gwyddonydd a Delta ac, fel ei fam, enillydd Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008).

Bu Eirwen yn ymwneud yn egnïol ac ymarferol â materion Plaid Cymru a'r iaith Gymraeg am dros 75 o flynyddoedd. Yn 1999 ymddangosodd am y tro olaf, gyda'i chyfaill a chyd-ymgyrchydd oes y Dr Meredydd Evans, o flaen Ynadon Aberystwyth am wrthod talu ei thrwydded deledu mewn protest yn erbyn safon isel darlledu yn yr iaith Gymraeg. Hyrwyddodd ddiwylliant Cymru hefyd trwy fod yn aelod o Lys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Ymgynghorol Canolog dros Addysg (Cymru), Llys Prifysgol Cymru a Phwyllgor Sefydlog Urdd y Graddedigion.

Fel cydnabyddiaeth o'i chyfraniadau i'r genedl fe'i hanrhydeddwyd yn Aelod Derwydd Gorsedd y Beirdd (1985), gan Gymrodoriaeth Prifysgol Bangor (2002) a chan Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol (2006). Bu'n Llywydd y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol tan ei marwolaeth.

Bu Eirwen Gwynn farw ar 26 Ionawr 2007 o drawiad ar y galon, ac fe'i claddwyd, yn ôl ei dymuniad, yn yr un bedd â Harri ger Llanrug.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2019-09-12

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.