Ganwyd Harri Gwynn yn 63, Maryland Road, Wood Green, gogledd Llundain, ar 14 Chwefror 1913, yn fab i Hugh Jones (m. 1916), a weithiai fel sortiwr llythyrau ar y trên post rhwng Llundain a Chaergybi, a'i wraig Elizabeth (Beti) (g. Williams), y ddau yn enedigol o ardal Penrhyndeudraeth.
Yn sgil marw sydyn y tad o anhwylder ar y galon ym mis Rhagfyr 1916, symudodd y fam a'r mab i Garth Celyn, Penrhyndeudraeth yn 1917. Wedi cyfnod yn ysgol y pentref, enillodd Harri ysgoloriaeth i Ysgol Sir y Bermo yn 1924, lle y'i cyflwynwyd i gelfyddyd gain a gwaith y beirdd Sioraidd Saesneg gan ei brifathro, Edmund D. Jones, edmygydd o John Ruskin, a mynychu dosbarthiadau nos ar farddoniaeth gartref ym Mhenrhyndeudraeth gyda Robert Williams Parry.
Yn 1930, flwyddyn yn gynnar, safodd yr arholiad a sicrhaodd le iddo yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle y dilynodd y cwrs Anrhydedd Hanes. Er gwaethaf gorfod ailadrodd y flwyddyn gyntaf oherwydd salwch difrifol pneumonia a'i cadwodd yn yr ysbyty am ran helaeth o'i flwyddyn gyntaf yno, graddiodd yn 1934 a mynd yn llywydd y myfyrwyr y flwyddyn ganlynol.
Mewn darllediad radio hunangofiannol 40 mlynedd yn ddiweddarach, edrychodd yn ôl ar ganol y 1930au, adeg ethol Hitler yn arlywydd yr Almaen, dirwasgiad ym Mhrydain ac anturiaethau Mussolini yn Abyssinia, fel cyfnod 'euraid': 'dyma gyfnod y berw gwleidyddol, yr athronyddu cymdeithasol, y credu cryf fod modd cael trefn ar y byd ond cael y drefn wleidyddol gymwys'. Er digofaint i awdurdodau'r Coleg, trefnodd orymdeithiau heddychol a dod yn aelod gweithgar o Blaid Cymru.
Erbyn 1938, roedd Harri Gwynn, fel y'i galwai ei hun (er na ollyngodd y 'Jones' yn ffurfiol a chyfreithiol tan 1944), bellach wedi cwblhau MA ar y Crynwr o Ddolobran, John Kelsall, ac yn darlithio i Fudiad Addysg y Gweithwyr.
Yn 1936 cyfarfu Harri, 'one of the most talented and debonair Bohemians of his generation', yn ôl Meic Stephens, â'r fyfyrwraig o wyddonydd a ddôi'n wraig iddo. Ganwyd Eirwen Meiriona St John Williams (1916-2007) yn Lerpwl a'i magu yn Llangefni. Daethant i adnabod ei gilydd drwy weithgareddau Plaid Cymru, tra oedd Eirwen yn cwblhau PhD mewn Ffiseg. Dengys yr ohebiaeth faith rhyngddynt a gadwyd ymhlith ei bapurau fel y blodeuodd y berthynas yn fuan yn garwriaeth ddeallusol. Ond, mynnai tad Eirwen na fyddant yn cael priodi oni bai fod Harri yn derbyn cyflog parchus rheolaidd.
Un pwnc cyson oedd gwleidyddiaeth. Fel y dengys y cofnodion, rhestrir Eirwen ymhlith y ddau ddwsin a ddaeth ynghyd ar 11 Tachwedd 1936, yng nghyfarfod cyntaf y grŵp pwyso asgell chwith ei ogwydd, Mudiad Gwerin, y bu'r Aelod Seneddol Llafur (wedi hynny) Goronwy Roberts yn gadeirydd a Harri'n is-gadeirydd ac yn ysgrifennydd arno. Bwriad y mudiad, yn ôl llythyr a ymddangosodd dan enw'r ddau yn y Manchester Guardian yn Chwefror 1937, oedd creu 'a synthesis of progressive and nationalist attitudes' a safai am y pegwn â blaenoriaethau mwy ceidwadol Saunders Lewis, llywydd y Blaid Genedlaethol, ar y naill law a gwrth-Gymreigrwydd y Blaid Lafur ar y llall. Prin, fodd bynnag, y gellid bod wedi dewis adeg lai ffodus. Ym Medi 1936, roedd 'Cinders' Lewis, chwedl Goronwy Roberts, ar fin sefyll ei brawf yn sgil llosgi'r Ysgol Fomio, ac roedd y teyrngarwch personol iddo o fewn ei blaid a'r cydymdeimlad personol ag ef yn ehangach yn eu hanterth. Bwriodd Harri ymlaen, er hynny, i gyflwyno mesur gerbron Cynhadledd Flynyddol y Blaid yn Awst 1938 'bod agweddau ar bolisi y Blaid Genedlaethol yn wrth-gynyddol, yn wrth-werinol ac yn tynghedu Cymru i safon is o fyw nag a allasai fod iddi drwy ddulliau eraill'. Ni alwyd arno i siarad oherwydd gwrthwynebiad gan Saunders Lewis, a oedd newydd ei ryddhau o'r carchar.
Dan ddylanwd Eirwen hefyd y parhaodd Harri â'i ddiddordebau llenyddol. Yn Awst 1937, ysgrifennodd ati, 'Mi fuasai'n wych pe gallwn wneud fy mywoliaeth drwy ysgrifennu. Ni fuasai'n waith hawdd ond fe fuasai'n ffordd rydd.' Ceir sôn mewn mannau eraill am ddrafftio stori dditectif a drama ac am ei awydd i lunio 'nofel ddifrif gydag athroniaeth, arddull a phrydferthwch ynddi … yr wyf yn dechrau teimlo ei bod yn bosibl erbyn hyn.'
Amharodd y rhyfel ar bob uchelgais llenyddol a phersonol. Gwrthodwyd cais Harri Gwynn i ymuno â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin ar gyfrif ei iechyd (oherwydd y pneumonia, cafodd lawdriniaeth egr pan oedd yn fyfyriwr), a threuliodd 1940 ac 1941 yn athro hanes yn Ysgol Ganol y Fflint, ac Ysgol Friars, Bangor. Ddydd Calan 1942, ar drothwy ei alw i swydd gyda'r Weinyddiaeth Gyflenwi (gyda chyflog a oedd yn gymeradwy gan ei ddarpar dad-yng-nghyfraith), yn y swyddfa gofrestru ym Mangor, priododd ag Eirwen, a gofiodd am yr achlysur fel '[p]riodas go lwm … dim crandrwydd o gwbl … dim gwesteion, dim anrhegion na thynnu lluniau; a dim ond dau ddiwrnod o fis mêl'. Treuliodd y pâr eu blwyddyn gyntaf yn Warwick, cyn cael eu symud i Lundain yn 1943. Yno, lle y buont am weddill y degawd, y ganed eu mab, Iolo, ar 18 Mawrth 1944. Yr adeg honno y gollyngodd Harri ac Eirwen y 'Jones' o'u henwau er mwyn gallu cofrestru'r enw Iolo ap Gwynn. I ddechrau, fflat mewn tŷ yn Clapham Common Northside oedd ganddynt. Ymroesant i fywyd Cymraeg y ddinas, gan ymaelodi â'r capel Cymraeg yn ymyl eu cartref (a enwyd yn 'Clyd') yn Clapham Park Road a chychwyn cymdeithas Y Ford Gron a Chwmni Drama'r Ddraig Goch. Daeth Harri Gwynn yn olygydd ar fisolyn Cymry Llundain, Y Ddinas.
O'i weithgarwch gwleidyddol, ei berthynas ag Eirwen a'r bydoedd newydd a agorodd iddo o ran gyrfa, y tarddodd ei waith llenyddol aeddfed. Fel y tystia rhaniad triphlyg ar ei gyfrol gyntaf o gerddi, Barddoniaeth Harri Gwynn (1955), confensiynol o delynegol oedd pynciau 'Cerddi Bangor: 1930-40': hiraeth, natur a serch. Deunydd gwahanol ei dôn sydd yn 'Cerddi Llundain: 1940-50'. Mae'r mydryddu'n fwy afreolaidd (ac afreolus), y dôn yn fwy coeg a'r pynciau yn fwy cignoeth. I raddau, dadrithiad â'i hunan iau a diniweitiach sydd yn 'Cerddi Llundain' lawn gymaint â diflastod ar fywyd cyfoes. Daeth Harri'n Fodernydd yn null Eirian Davies, T. Glynne Davies a Rhydwen Williams.
Erbyn 1950, dan bwysau hiraeth, chwedl Eirwen, 'am ddianc oddi wrth y toeau diderfyn, am y wlad, am Gymru'n arbennig', cefnodd Harri Gwynn ar swydd gyfforddus a dalai agos i fil o bunnoedd y flwyddyn iddo a phrynu fferm 34 erw, Tyddyn Cwcallt, yn ardal Rhoslan, Eifionydd. Barn Bob Owen, Croesor, am hyn oedd eu bod 'yn wallgof'. Hwn oedd profiad cyntaf y naill a'r llall o amaethu go iawn, er bod cartref magwraeth Harri, Garth Celyn, yn dyddyn o ychydig erwau lle cadwyd buwch a ieir gyda gardd lysiau a ffrwythau sylweddol. O wythnos i wythnos rhwng 1952 ac 1959, cofnododd yr heriau, y troeon trwstan a'r llwyddiannau mewn colofn wythnosol i'r Cymro, 'Rhwng Godro a Gwely', a gasglwyd yn gyfrol yn 1994, ac yn yr ysgrifau doniol yn arddangos ei hiwmor unigryw Y Fuwch a'i Chynffon (1954). Enwau go-iawn yr anifeiliaid a ddefnyddiwyd yn y rhain - bedyddiai Harri bob anifail a pheiriant gydag enw addas (wedi iddo gael cyfle i ddod i adnabod eu cymeriadau yn iawn). Parhaodd i gyfrannu'n wythnosol i'r papur hyd 1969. I ategu incwm y fferm, trodd Harri hefyd at adolygu llyfrau, darlithio a darlledu ar y radio, yn cynnwys ymhen amser y rhaglenni nodwedd 'Llafar' a 'Byd Natur'. Fel y dengys trydedd ran Barddoniaeth Harri Gwynn, 'Cerddi Eifionydd', dynododd y newid byd newid cywair yn ei gerddi hefyd. Ffrwyth sylwgarwch ac ymgais i briodoli llais i fyd natur yw 'Cyfarch yr Hwch' a 'Ceffyl Gwedd', er enghraifft.
Daeth y digwyddiad mwyaf adnabyddus ym mywyd llenyddol Harri Gwynn yn Eisteddfod Genedlaethol 1952 gydag un o'r chwe chynnig aflwyddiannus a roddodd ar y Goron o 1948 ymlaen. Dan y ffugenw Efnisien, dehonglodd Harri destun y bryddest y flwyddyn honno, 'Y Creadur', ar ffurf ymson lle mae llofrudd yn cyfarch chwilen ar lawr cell y grog am fod wedi lladd ei gariad. Profodd y sôn am atyniad rhywiol y ferch ac ymgais y llofrudd i gyfiawnhau ei weithred yn ormod i un o'r beirniaid, y Parch David Jones, Blaenplwyf, a wrthododd ei choroni. Fe'i barnwyd yn halltach fyth gan W. J. Gruffydd, a ddaliodd nad oedd 'meddyliau llofrudd sydd yn debycach o fynd i Broadmoor nag i'r crocbren' yn berthnasol i'r testun a osodwyd. Ataliwyd y Goron a chafwyd yn y man fod Gruffydd dan yr argraff mai Bobi Jones oedd yr awdur a bod animus personol wedi ei gymell. Bu'r bryddest, er hynny, yn succès de scandale. Gwerthwyd copïau o'r bryddest hyd y Maes, gwahoddwyd Harri a Gruffydd i drafod y mater ar y radio ac ar y teledu (o Lundain), ymddangosodd llun Harri yn y Picture Post, a daeth cerdyn post o San Steffan oddi wrth ei gyfaill o Goleg Bangor, Goronwy Roberts (a oedd bellach yn aelod seneddol iddo yn Arfon): 'Llongyfarchiadau filoedd ar aflonyddu ychydig (neu lawer) ar ferddwr barddoniaeth Cymru.'
Rhoddodd Harri Gwynn y gorau i gystadlu yn 1954. 'Hwyrach mai ef', meddai Gwynn ap Gwilym am ei ymwneud â'r Eisteddfod, 'sy'n dangos orau o neb wendid ac annhegwch mawr y system gystadleuol Gymreig gyda'i phwyslais afiach ar "ennill".' Parhaodd i farddoni, er hynny, gan arloesi yn y soned radio a chyhoeddi Yng Nghoedwigoedd y Sêr yn 1975.
Yn 1953, fe'i perswadiwyd i dderbyn y swydd o Ysgrifennydd Cyffredinol (h.y. y trefnydd, pryd hynny) Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli yn 1955. Rhan o'r cytundeb, gan nad oedd y cyflog yn un mawr, oedd y byddai'r Eisteddfod yn talu cyfartaledd o unrhyw elw a ddeilliai iddo, fel bonws. Gan nad oedd yr eisteddfod wedi gwneud elw ers blynyddoedd lawer, cytunodd y swyddogion â'r amod. Serch hynny, fe wnaed elw, ond bu'n rhaid i Harri fygwth cyfraith arnynt cyn iddynt fodloni talu eu dyledion - ac ni wahoddwyd Harri i gael ei urddo i Orsedd y Beirdd, fel oedd yn arferiad i gyn-Ysgrifenyddion Cyffredinol. (Amlygwyd y stori hon gan Hywel Teifi Edwards flynyddoedd yn ddiweddarach.) Bu'n rhaid iddo aros am ddegawdau cyn cael ei urddo i'r Orsedd.
Daeth newid byd eto yn 1961, gyda lansio'r rhaglen newyddion Heddiw, dan ofalaeth Nan Davies, a phenodi Harri'n gynhyrchydd ac yn brif gyflwynydd. Golygai hyn deithio i stiwdio'r BBC ym Manceinion, sawl gwaith yr wythnos ar y dechrau. Ymgartrefodd y teulu ym Mangor yn 1962, yn Isgaer, Ffordd Garth Uchaf, lle y daeth yn gymydog i Dyfnallt Morgan ac eraill. Yn 1970, symudwyd eto - i Dyddyn Rhuddallt, Llanrug - lle y parhaodd Harri i weithio i'r BBC hyd 1979.
Disgrifiwyd blynyddoedd olaf Harri Gwynn gan Eirwen fel 'cafn dwfn' oherwydd afiechyd Parkinson a'i gwnaeth yn amhosibl iddo yrru na cherdded heb ffon, ac wedyn datblygu canser y prostad. Cafodd gysur, er hynny, yng nghwmni ymwelwyr niferus, gan gynnwys Iolo, ei wraig Ellen, a'u tri o blant. Bu farw 24 Ebrill 1985, a'i gladdu ger Llanrug.
Dyddiad cyhoeddi: 2019-09-26
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.