Ganwyd May John yn 4 Stryd Canning, Tonpentre, Cwm Rhondda ar 26 Ionawr 1874, y chweched o saith o blant Morgan John (1841-1909), rheolwr siop sgidiau, a'i wraig Mary (g. James, 1840-1930). Roedd y teulu'n aelodau selog o Gapel Jerusalem y Methodistiaid Calfinaidd, lle roedd Morgan John yn flaenor. Roeddent hefyd yn deulu cerddorol, a dechreuodd May ganu'n ifanc iawn gyda'r Gobeithlu yn Jerusalem.
Dechreuodd May John ganu'n gystadleuol yn ddeuddeg oed, a gwnaeth ei marc yn syth mewn eisteddfodau lleol yng Nghwm Rhondda. Cafodd wersi i gychwyn gan yr arweinydd côr Taliesin Hopkins (1859-1906) o'r Cymer, ac wedyn gan Clara Novello Davies yng Nghaerdydd. Yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd yn 1893, enillodd gystadleuaeth y deuawd soprano gan ganu 'Quis est homo?' o 'Stabat Mater' Rossini gydag Elsie Drinkwater, un arall o ddisgyblion Clara Novello. Yn sgil y llwyddiant hwn cafodd May John wahoddiad i gymryd rhan yn Eisteddfod Ffair y Byd yn Chicago yr un flwyddyn, lle'r enillodd y gystadleuaeth soprano. Bu'n teithio'r Unol Daleithiau wedyn gydag chôr arobryn Clara Novello, a chafodd wahoddiadau i gymryd swyddi canu o fri yn Efrog Newydd a San Francisco, ond fe'u gwrthododd er mwyn aros yng Nghymru.
Yn Chwefror 1894 roedd May John yn un o bedwar o gantorion o Gôr Brenhinol Cymru a ganodd gerbron y Frenhines Victoria yn Osborne House. Aeth ymlaen i astudio yn yr Academi Gerddoriaeth Frenhinol yn Llundain yn 1894 ac enillodd ddwy fedal pan gwblhaodd ei chwrs yn 1896. Canodd yn y Cyngerdd Cenedlaethol Cymreig yn Neuadd y Frenhines yn Llundain yn 1896, ac mewn nifer o oratorios ac eisteddfodau yn ystod y blynyddoedd dilynol.
Pan ddechreuodd y Diwygiad yn 1904, cymerodd May John seibiant o'i gyrfa broffesiynol er mwyn canu mewn cyfarfodydd yng Nghymru a Lloegr. Canodd yn Nhonpentre, lle gweithiodd gydag Evan Roberts am y tro cyntaf, ac wedyn ym Mhontypridd. Erbyn mis Rhagfyr, roedd yn gweithio yng Nghaerdydd gydag Annie M. Rees o Gorseinon, yr ifancaf o gantorion y Diwygiad ac aelod o grŵp gwreiddiol Evan Roberts, a bu'r ddwy'n arwain cyfarfodydd diwygiadol eu hunain. Roedd May yn adnabyddus yn y cyfnod hwn am ei 'llais soprano diwylliedig', a byddai hefyd yn pregethu'n angerddol a grymus gan annog merched i 'ddod ymlaen gan fod llawer o waith iddynt na allai'r dynion mo'i wneud.'
Yn Ionawr 1905 roedd May John yn gweithio yng ngogledd Cymru gyda'r gweinidog Methodistaidd ifanc W. Llewelyn Lloyd. Bu ym Mryste wedyn gyda John Cynddylan Jones, gan gydarwain cyfarfodydd yng nghapel Wesleaidd Broadmead. Gweithiodd yno hefyd gyda Thomas 'Awstin' Davies, gohebydd blaenllaw y Diwygiad.
Erbyn Mai 1905, roedd May John yn aelod o garfan fawr o ddiwygwyr yn teithio o Gymru i Lundain. Aeth i ogledd Cymru eto ym Mehefin 1905, lle cymerodd ran yn un o gyfarfodydd awyr agored mwyaf y Diwygiad pan ddaeth cynulleidfa o 6,000 i glywed Evan Roberts yn pregethu o lwyfan pren mewn cae ger Rhosneigr. Roedd May yn dal i weithio dros y Diwygiad mor hwyr â mis Tachwedd 1905.
Ar ôl i'r Diwygiad ddod i ben, ailgydiodd May yn ei gyrfa fel cantores am gyfnod yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Mawr, gan weithio yn ei bro gynefin yn bennaf. Pan fu farw ei thad yn 1909, symudodd May a'i chwaer Celia i 2 Stryd Faenor yn y Porth i ofalu am eu mam. Bu May John farw yno ar 18 Hydref 1962, yn 88 oed. Mae'r ffaith na chafwyd ysgrif goffa iddi yn y Rhondda Leader yn arwydd bod y gantores wych hon yn anghofiedig erbyn hynny. Fe'i claddwyd ym medd y teulu ym mynwent Llethrddu, Trealaw.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-09-27
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.