JONES, SHÂN EMLYN (1936 - 1997), cantores

Enw: Shân Emlyn Jones
Dyddiad geni: 1936
Dyddiad marw: 1997
Priod: Owen Edwards
Plentyn: Mari Emlyn
Plentyn: Elin Edwards
Rhiant: Joanna Jones (née Owen)
Rhiant: Emlyn Jones
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cantores
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganwyd Shân Emlyn yn Rhydychen ar 8 Chwefror 1936, yn ferch i Emlyn Jones a'i wraig Joanna (ganwyd Owen). Bu'r teulu'n byw yn Rhydychen, lle'r oedd ei thad yn glerc i Morris Motors ac yn aelod o fand y cwmni, nes dychwelyd i Gymru i fyw ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, i'r Felinheli yn gyntaf ac yna i Bwllheli.

Roedd ei mam yn athrawes gerdd a'i thad yn canu'r trombôn, ac o'i phlentyndod roedd Shân yn hoff iawn o ganu a pherfformio; cafodd gefnogaeth gan ei mam a'r gyfeilyddes ddawnus Maimie Noel Jones, a oedd yn gymdoges i'r teulu. Enillodd wobrau am ganu gwerin yn lleol ac yn Eisteddfodau Cenedlaethol Bae Colwyn (1947) a Phen-y-bont ar Ogwr (1948). Yn 1948 hefyd bu'n fuddugol yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen. Fe'i clywyd yn canu gan Ceridwen Lloyd Davies, darlithydd cerddoriaeth o Fangor, a gynigiodd roi gwersi iddi, ac yn Ysgol Uwchradd Pwllheli daeth dan ddylanwad yr athro cerdd John Newman. Byddai'n canu ar raglenni radio a theledu pan oedd yn ei harddegau, ac yn bymtheg oed teithiodd i Lundain i ganu ar y teledu. Ymddangosodd yn ei gwisg Gymreig ar dudalen flaen Y Cymro ar 26 Chwefror, 1954, yn rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi y papur.

Enillodd le yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, lle y cafodd hyfforddiant ar y delyn gan Gwendolen Mason. Cafodd dystysgrif LRAM a Gwobr Julie Leney am ganu'r delyn. Yn ystod ei chyfnod yn Llundain bu'n ysgrifennydd Cymdeithas Gymraeg Myfyrwyr Prifysgol Llundain a pherfformiodd gerbron y Dywysoges Alexandra. Yn 1955 cymerodd ran mewn pasiant am Ann Griffiths yn Neuadd Albert, yn rhan o gyngerdd Gŵyl Ddewi Cymry Llundain. Recordiodd alawon gwerin ar ddwy record i Gwmni Qualiton yn 1959, a chlywir ei llais hefyd ar record Sain, Caneuon y Siroedd (1983).

Wedi priodi yn 1958 rhoddodd heibio ei dymuniad i fod yn gantores broffesiynol, ond daeth yn adnabyddus fel cantores yng Nghymru yn enwedig am ei pherfformiadau o alawon gwerin. Bu'n weithgar iawn o blaid mudiadau Cymraeg yn ninas Caerdydd, ac roedd yn un o'r rhai a sefydlodd bapur bro Caerdydd, Y Dinesydd, yn 1973. Bu'n Is-Gadeirydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru o 1986 hyd 1988 ac yn Gadeirydd o 1989 i 1991, a chyfrannai'n gyson i gynadleddau'r Gymdeithas. Bu hefyd yn beirniadu'n aml yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mewn eisteddfodau a gwyliau eraill.

O 1979 ymlaen bu'n ysgrifennydd Cymdeithas Cymry Ariannin. Cefnogodd berthynas agosach rhwng y Wladfa a Chymru a hybu ymweliadau gan Wladfawyr i'r hen wlad. Ymwelodd Shân ei hun â Phatagonia sawl gwaith, gan recordio sgyrsiau gyda'r siaradwyr Cymraeg a chofnodi alawon gwerin Cymraeg y Wladfa: diogelwyd y tapiau hyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rhwng 1992 a'i marwolaeth bu'n gweithio yng Nghanolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru yng Nghaerdydd, ac yn ymchwilio a pharatoi rhaglenni teledu.

Ar 16 Ebrill 1958 priododd ag Owen Edwards (1933-2010), darlledwr a mab hynaf Syr Ifan ab Owen Edwards, yng nghapel Penmount, Pwllheli. Cawsant ddwy ferch, Elin a Mari. Diddymwyd y briodas yn 1994.

Dirywiodd ei hiechyd yn ei blynyddoedd olaf, a bu farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar 30 Rhagfyr 1997. Cynhaliwyd ei hangladd yng nghapel Penmount, Pwllheli, 6 Ionawr 1998, ac fe'i claddwyd ym mynwent Penrhos. Cyflwynwyd rhoddion er cof amdani i Gymdeithas Cymry Ariannin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2020-05-20

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.