Ganwyd Ceridwen Lloyd ar 24 Medi 1900 yn Griffithstown, Pont-y-pŵl, yr hynaf o blant Herbert Davies Lloyd, gweithiwr ffowndri a anwyd yng Nglynebwy, a'i wraig Ceridwen, a anwyd ym Mlaenafon. Cafodd ei haddysg yn Ysgol y Merched, Pont-y-pŵl, ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle'r enillodd radd Mus. Bac. yn 1921, yr ail fenyw yn unig i gael y radd honno ym Mhrifysgol Cymru (y gyntaf oedd y gyfansoddwraig Morfydd Llwyn Owen). Bu hefyd yn astudio am gyfnod yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain cyn cael ei phenodi yn 24 oed yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Cerddorol y Coleg Normal ym Mangor, swydd y bu ynddi tan 1930; erbyn 1932 yr oedd yn ddarlithydd mewn coleg hyfforddi athrawon arall ym Mangor, sef Coleg y Santes Fair.
Ar 9 Gorffennaf 1929 priododd â'r Parchedig Gwilym Davies (1887-1980), offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru a chanon yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar y pryd, a hanai o ardal Llandysul, a chawsant un mab. Cefnogodd ei gŵr yng ngwaith yr eglwys, yn arbennig ei agweddau cerddorol, a bu darllediadau'r BBC yn rhan bwysig o'i bywyd. Urddwyd y ddau ohonynt yn aelodau o'r Orsedd.
Yn ystod 1932, ar gais y golygydd, J. Lloyd Williams, cyfrannodd gyfres o ddeuddeg erthygl i gylchgrawn dwyieithog Y Cerddor ar bwnc 'Music Teaching in Schools'. Cafwyd ymateb ffafriol i'r rhain, ac yn 1933 fe'i cyhoeddwyd ar ffurf llyfr, The Teaching of Music in Schools: a consideration of matter and method from kindergarten to senior classes. Ysgrifennwyd Rhagair iddo gan Syr Walford Davies, Cyfarwyddwr Cyngor Cerdd Cenedlaethol Cymru, ac fe'i cyflwynwyd i'w hathro yng Nghaerdydd, David Evans, 'for all he has taught me'.
Rhwng 1959 a'i hymddeoliad yn 1966 bu'n Bennaeth yr Adran Gerdd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Ymddeolodd hi a'i gŵr i Landudno lle'r oedd yn un o sylfaenwyr Clwb Cerdd Llandudno (Cymdeithas Gerddorol Llandudno yn ddiweddarach), a byddai'n gohebu'n gyson ar faterion cerddorol i'r North Wales Weekly News a'r Liverpool Daily Post.
Beirniadai'n gyson mewn eisteddfodau, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ar hyd ei gyrfa byddai'n rhannu ei chariad at gerddoriaeth gyda selogion o bob oed, gan gynnwys aelodau dosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ac aelodau cyrsiau preswyl.
Bu Ceridwen Lloyd Davies farw ar 30 Hydref 1983 a chynhaliwyd ei hangladd yn Eglwys y Drindod, Llandudno ar 4 Tachwedd. Fe'i claddwyd gyda'i gŵr yn eglwys St Cross, Llanllechid.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-09-26
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.