HOPKINS, GERARD MANLEY (1844 - 1889), bardd ac offeiriad

Enw: Gerard Manley Hopkins
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1889
Rhiant: Manley Hopkins
Rhiant: Catherine Hopkins (née Smith)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac offeiriad
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Crefydd; Addysg

Ganwyd Gerard Manley Hopkins ar 28 Gorffennaf 1844, yn 87 The Grove, Stratford, Essex, yr hynaf o wyth, neu o bosibl naw, o blant Manley Hopkins (1818-1897), sylfaenydd cwmni yswiriant morwrol, a'i wraig Catherine (g. Smith, 1821-1900). Roedd ei rieni'n Anglicaniaid Ucheleglwysig selog gyda chysylltiadau teuluol mewn cylchoedd deallusol a chelfyddydol. Yn 1852, symudodd y teulu i Hampstead ac anfonwyd Gerard i ysgol breswyl Highgate. Fe'i ystyriai ei hun yn hanner Cymro ar sail y cyfenw Hopkins sy'n gyffredin yn ne Cymru.

Yn 1863, aeth Hopkins i Brifysgol Rhydychen lle graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn y Clasuron. Yno y daeth i adnabod un o'i gyfeillion agosaf, Robert Bridges, a fyddai'n dod yn Fardd Llawryfog ac yn olygydd ei farddoniaeth. Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen trodd at ffordd o fyw asgetaidd a arweiniodd at droedigaeth i Gatholigiaeth Rufeinig, cam a achosodd ymddieithriad oddi wrth ei deulu. Ar ôl iddo raddio cafodd gymorth gan (y Cardinal) John Henry Newman, arweinydd troedigion Catholig Rhydychen, i gael swydd ddysgu. Yr adeg honno bu iddo gefnu ar farddoniaeth, gan fynd mor bell â llosgi ei gerddi, a phenderfynodd fynd i'r weinidogaeth fel Iesuwr. Pan oedd yn astudio ar gyfer yr offeiriadaeth yng ngholeg Stonyhurst yn Sir Gaerhirfryn daeth o dan ddylanwad y diwinydd ac athronydd Ffransisgaidd Duns Scotus, a sbardunwyd ef gan y syniad o haecceitas (yn llythrennol 'hynrwydd') i fathu'r term inscape.

Yn Awst 1874, daeth i Gymru i barhau ei hyfforddiant yng Ngholeg Beuno Sant yn Nhremeirchion ger Llanelwy, Sir Ddinbych. Credir mai'r tair blynedd a dreuliodd yno oedd cyfnod mwyaf dylanwadol a dedwyddaf ei fywyd. Yn y fan honno daeth o dan gyfaredd yr hyn a alwodd yn 'instress and charm of Wales', gan ymateb yn frwdfrydig i dirwedd Dyffryn Clwyd.

Mae lleoliad yn hanfodol i lawer o waith Hopkins. Safle lleol pwysig iddo oedd cysegrfa'r Santes Gwenfrewy yn Nhreffynnon, a dechreuodd ef lunio drama fydryddol am wyrth Beuno'n adfer bywyd Gwenfrewy. Cafodd ei ysbrydoli gan y Garreg Fawr ychydig i'r de o Goleg Beuno Sant - y dywedodd y bardd amdani yn ei ddyddiadur: 'The Rock is a great resort of hawks and owls' - i lunio'r gerdd a ystyriai yn 1879 fel y peth gorau a sgrifennodd erioed, 'The Windhover', cyflwynedig 'to Christ Our Lord'.

Mewn Dominiciad, sef pregeth ymarfer ar gyfer Iesuwyr dan hyfforddiant, a draddodwyd ar 11 Mawrth 1877, aeth Hopkins ati i gymharu daearyddiaeth Dyffryn Clwyd â Môr Galilea. Gan dynnu ei ysbrydoliaeth o Spiritual Exercises St Ignatius Loyola, a fynnai ailfyw ac ymuniaethau'n emosiynol â daearyddiaeth a digwyddiadau a ddisgrifir yn y Beibl, gwahoddodd Hopkins ei gyd-fyfyrwyr i ddychymygu geomorffoleg Môr Galilea yn nhermau tirwedd gyfarwydd iddynt. Mewn ymgais cymhleth i arosod nodweddion daearyddol, gosododd Bethsaida Julias, afon Iorddonen, Capernaum a Tiberias ar fap Cymru a lleolodd wyrth y torthau a'r pysgod yn ffreutur Coleg Beuno Sant, lle roedd ef a'i gyd-Iesuwyr yn cael eu pryd bwyd. Cafodd y gynulleidfa honno y bregeth yn anargyhoeddiadol, ac yn ddoniol hyd yn oed, fel y tystiodd Hopkins ei hun. Serch hynny, fe'i gwelir gan Damian Walford Davies yn gyffes ar ffurf cartograffeg, yn amlygiad o'i hunaniaeth Gymreig ac yn esiampl gyfoethog o lên Saesneg Cymru.

Dechreuodd Hopkins ddysgu Cymraeg, gan gael gwersi gyda merch Gatholig leol, Susannah Jones, er gwaethaf anghymeradwyaeth ei benaethiaid (oni fwriadai ddefnyddio'r iaith er mwyn troi pobl leol at y ffydd Gatholig). Meistrolodd yr iaith yn ddigon da i gyfansoddi cerddi ynddi, er bod eu harddull yn afrwydd ac annaturiol. Yn ei gerdd 'Cywydd' sy'n dathlu jiwbilî arian Esgob yr Amwythig, a luniwyd yn 1876 dan yr enw barddol 'Brân Maenefa' (mynydd uwchben Coleg Beuno Sant oedd Maenefa), lle mae'n gresynu bod tir a dŵr yn tystiolaethu i hen ffydd Gwynedd yn gryfach na phobl y fro, defnyddiodd fesur caeth y cywydd gyda'i odlau acennog a diacen am yn ail, ond dwy yn unig o'r deunaw llinell sy'n cynnwys cynganeddion cywir.

Gwelai Hopkins fod cyfatebiaethau cytseiniol ac odlau mewnol y gynghanedd yn cyd-fynd yn dda â'i arferion barddol, ac fe'u cymhwysodd at ei ddibenion ei hun yn ei farddoniaeth Saesneg, yn enwedig yn 'The Wreck of the Deutschland'. Defnyddir y technegau hyn yn llac gan mwyaf, megis 'Stanching, quenching ocean of a motionable mind', a dim ond yn achlysurol y maent yn ffurfio cynghanedd gyflawn (e.e. 'The down-dugged ground-hugged grey' sy'n gynghanedd sain). Bathodd Hopkins y term 'sprung rhythm' i ddisgrifio'r dechneg a ddefnyddiodd yn y gerdd, ac awgrymodd ei bod yn deillio o fodelau clasurol, Hen Saesneg a Chymraeg. Bu ei fydryddeg yn ddylanwad ar nifer o feirdd Saesneg y 1930au, gan gynnwys Dylan Thomas.

Lluniwyd 'The Wreck of the Deutschland' ar awgrym Rheithor Coleg Beuno Sant, y Tad John, i goffáu boddi lleianod Ffransisgaidd a oedd yn ffoi rhag erledigaeth yn yr Almaen yn Rhagfyr 1875, ac ynddi mynegodd Hopkins ei deimlad o euogrwydd am y cyferbyniad rhwng ei ddiogelwch corfforol ac ysbrydol yng Nghymru a pherygl a merthyrdod y lleianod. Wedi iddo gefnu ar farddoniaeth am saith mlynedd er mwyn ymroi'n llwyr i Dduw, dyma ddechrau ymchwydd o greadigrwydd a gynhyrchodd draean o farddoniaeth Hopkins.

Mae 'In the Valley of the Elwy' yn un o nifer o ymatebion telynegol i harddwch 'this world of Wales' a gyfansoddwyd yn 1877. Soniodd Hopkins yn annwyl iawn am Gymru mewn llythyron at ei gyfaill Robert Bridges, gan gyfeirio at 'my Welsh days... my salad days'. Nododd hefyd ei ddefnydd o gynghanedd mewn cerdd arall dan ddylanwad lleoliad, 'The Sea and the Skylark', a luniwyd yn ystod arhosiad er mwyn ei iechyd ar lan y môr yn y Rhyl.

Bu'n rhaid i Hopkins ymadael â Chymru ym Medi 1877 pan ordeiniwyd ef yn offeiriad. Dros y saith mlynedd nesaf daliodd amryw swyddi yn Lloegr a'r Alban, nes iddo yn y pen draw gymryd swydd Athro Groeg a Lladin yng Ngholeg y Brifysgol Dulyn yn 1884. Roedd Hopkins wedi teimlo'n gartrefol yn amgylchedd yr hyn a alwai'n 'wild Wales', ond fe'i cafodd ei hun allan o le yn Iwerddon. Daeth ei hyrddiad olaf o greadigrwydd yn ystod y cyfnod tywyll hwn tua diwedd ei fywyd pan gynhyrchodd y cerddi prudd ond mawr eu bri a adwaenir fel 'terrible sonnets'.

Bu Gerard Manley Hopkins farw o dwymyn teiffoid yn Nulyn ar 8 Mehefin 1889, ac fe'i claddwyd yn llain yr Iesuwyr ym mynwent Glasnevin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-11-08

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.