JARMAN, ELDRA MARY (1917 - 2000), telynores ac awdur

Enw: Eldra Mary Jarman
Dyddiad geni: 1917
Dyddiad marw: 2000
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: telynores ac awdur
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Ffion Mair Jones

Ganwyd Eldra Jarman ar 4 Medi 1917 yn Aberystwyth, yn ferch i Ernest France Roberts a'i wraig Edith (g. Howard). Roedd ei dau riant yn ddisgynyddion Roma, ei thad yn ŵyr i John Roberts (Alaw Elwy) a'i mam yn ferch i Eldorai Wood, a oedd yn hanner-Gwyddel hanner-Roma o ran disgynyddiaeth. Yn gyson â thuedd gynyddol ymhlith y Roma i integreiddio â'r gymdeithas ehangach, roedd teulu Eldra wedi ymsefydlu mewn annedd gyffredin yn y genhedlaeth flaenorol: pan oedd ei mam tua deng mlwydd oed, daeth eu bywyd crwydrol i ben, a thŷ ei thaid a'i nain yn Aberystwyth oedd cartref cyntaf Eldra. Pan oedd tua dwyflwydd oed, dechreuodd ei thad weithio fel cipar afon i Edward Douglas-Pennant, trydydd barwn Penrhyn, a symudodd y teulu i dŷ ar stad Penrhyn yn Nant Ffrancon. Yn ddiweddarach, portreadodd Eldra ei phlentyndod fel un pur wahanol i blentyndod rhai nad oeddynt o dras Roma: roedd y cartref mewn lleoliad diarffordd; ni châi gwmnïaeth plant eraill; ac roedd 'digon o ryddid yno i chwarae' yng nghwmni'i brawd (a oedd ddeng mlynedd yn hŷn na hi) a chŵn ei thad. Câi ei diddanu gan ei mam, a adroddai straeon am dylwyth teg a chewri iddi; dysgodd ei brawd iddi sut i saethu pistol; dangosodd ei thad iddi sut y byddai'r Roma yn dal pysgod, a gwelodd ef wrth ei waith ar y stad yn dal cwningod mewn rhwydi gyda chymorth ffured.

Pan oedd yn bedair oed, symudodd y teulu i lawr i dref Bethesda, ac yn chwe blwydd oed, dechreuodd Eldra fynychu Ysgol Eglwysig Glanogwen; bu hefyd yn aelod o ysgol Sul Fethodistaidd yn y dref. Dychrynwyd ei mam pan fu farw merch weithgar cymydog yn ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol a phenderfynwyd o'r herwydd yn erbyn caniatáu i Eldra (a oedd yn eiddil o gorff) ymgeisio am le yn ysgol y sir, cam a fyddai wedi arwain at lwybr cyffelyb drwy fyd addysg iddi hithau, mae'n siŵr. Gadawodd yr ysgol, felly, pan oedd tua thair ar ddeg oed. At ei hoffter o grwydro yn y wlad ar ei phen ei hun yng nghwmni cŵn ei thad, daeth canu'r delyn hefyd yn bwysig iddi yn y cyfnod hwn. Roedd ei thad yn delynor, yr unig un o bedwar plentyn ar ddeg ei rieni i ganu offeryn a fuasai'n rhan fawr o fywyd eu tad hwythau, Reuben Roberts (bu farw 1949). Cyflogwyd Ernest France Roberts am gyfnod fel telynor ym mand catrawd y 'South Wales Borderers', a cheir awgrym o'i allu gan gyfeiriad at anogaeth arweinydd y band iddo ddyfeisio'i gyfeiliannau ei hun ar gyfer alawon y grŵp pan nad oedd y rhai gwreiddiol yn arbennig o dda. Rhoddodd gymorth i Nansi Richards Jones ('Telynores Maldwyn') ddysgu canu'r delyn; ond ei ddisgybl pennaf oedd ei ferch. Dysgodd Eldra drwy wrando arno, ychydig fariau ar y tro, ac ailadrodd, heb ddefnyddio cerddoriaeth ysgrifenedig o gwbl. Yn ddiweddarach, teithiai i'r brifysgol ym Mangor i gael hyfforddiant pellach gan Alwena Roberts ('Telynores Iâl'; 1899-1981).

Drwy gyswllt ei thad â Nansi Richards, gwahoddwyd Eldra i gartref Nansi a'i gŵr Cecil Maurice Jones ar fferm Hafod y Porth, Beddgelert, pan oedd tua phymtheg oed. Disgrifiodd Eldra ei hun a Nansi fel 'dau enaid hoff cytûn': rhannent yr un byrbwylltra o ran natur a'r un cariad at ryddid ac at gefn gwlad, a theimlai Eldra wrth edrych yn ôl mai'r cyfnod yn lletya yn Hafod y Porth oedd un o rai hapusaf ei bywyd. Roedd gofod yma iddi ddatblygu fel telynores: ffurfiasai Nansi a'i chyfaill Edith Evans ('Telynores Eryri') Gôr Telyn Eryri yn 1930, ac roedd cyfle i Eldra ymuno â'r grŵp amlweddog hwn fel telynores, yn canu caneuon megis y 'Wrexham Hornpipe', a oedd eisoes yn gyfarwydd iddi drwy draddodiad ei theulu, mewn nosweithiau hirfaith i gynulleidfaoedd gwerthfawrogol.

Pan ddaeth yn rhyfel yn 1939, cynigiodd Eldra ei gwasanaeth i Fyddin Tir y Menywod. Cafodd fis o hyfforddiant yng Ngholeg Amaethyddol Llysfasi i ddysgu sut i fwydo ieir, trin defaid a charthu cytiau moch. Treuliodd naw mis wedi hynny yn gweithio yn Baron Hill, Ynys Môn, plas a ddygwyd i feddiant gorfodol y llywodraeth ar ddechrau'r rhyfel. Tua'r cyfnod hwn hefyd y daeth i adnabod ei gŵr, Alfred Owen Hughes Jarman (1911-1998), a oedd yn diwtor yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ar y pryd. Fe'u cyflwynwyd gan gyfaill ar gais Jarman, a oedd wedi ei swyno pan glywodd fod Eldra'n 'mynd o gwmpas y mynyddoedd yn droednoeth'. Esgorodd eu perthynas ar gyfnod o ddysgu Cymraeg iddi hi. Saesneg oedd ei mamiaith a iaith y teulu, a phrin iawn oedd ei medr yn y Gymraeg cyn i Jarman fynd ati i ddysgu'r iaith, ynghyd â pheth o hanes Cymru a barddoniaeth y Gymraeg iddi. Nid oedd ychwaith yn ystyried ei hun yn Gymraes (nac yn Saesnes): tylwyth ar wahân oedd y Roma iddi hi a'i theulu genedigol. Serch hynny, erbyn iddi briodi Jarman yn 1943, roedd Eldra wedi ymaelodi â Phlaid Cymru. Nid cymhelliant gwleidyddol a'i sbardunodd, meddai'n ddiweddarach, ond teimlad o bwysigrwydd 'rhyddid' fel egwyddor, boed iddi hi ei hun fel unigolyn, neu i wledydd bach a mawr ar draws y byd. Cyffyrddwyd â hi'n arbennig gan achos ym mis Tachwedd 1971 a arweiniodd at garcharu aelodau o Gymdeithas yr Iaith, a lluniodd gerdd, 'Yr Wyddgrug' (cyfeiriad at yr achos yn y Brawdlys yn y dref honno), yn mynegi ei gofid dros y rhai a ddygwyd dros y ffin i garchar. Gwerth nodi i Jarman hefyd dreulio cyfnod byr dan glo, ar ôl gwrthod gwŷs i wasanaethu fel milwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar sail safiad cenedlaetholgar dros niwtraledd Cymru.

Ganwyd Teleri, merch hynaf Eldra a'i gŵr, yn 1944, pan oeddent yn byw yn Llandegfan, Ynys Môn. Erbyn i'r ail ferch, Nia Eirwen, gael ei geni yn 1949, yr oedd y teulu wedi symud i Gaerdydd, yn dilyn penodiad Jarman yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Deheudir Cymru a Mynwy yn 1946. Roedd symud i'r brifddinas yn 'ysgytwad' i Eldra; teimlai fel petai 'mwgwd' dros ei hwyneb a methai ganfod ym mhrysurdeb y lle y 'pethau o bwys i mi'. Defnyddiodd ei hamser, fodd bynnag, i droi at ymchwilio i hanes y Roma yng Nghymru, gan dynnu ar waith John Sampson (1862-1931) a Dora Esther Yates (1879-1974), dau arloeswr ym maes ysgolheictod y Roma. Ychwanegodd at ddarganfyddiadau'r ddau hyn wybodaeth a gawsai drwy atgofion ei thad a'i mam ynghylch dwy gangen allweddol y Roma yng Nghymru, teulu Abraham Wood (1699?-1799) a theulu cydberthynol ei orwyr John Roberts. Y canlyniad oedd dwy gyfrol wirioneddol bersonol ond a chanddynt hefyd arwyddocâd eang ym maes astudiaethau o fywydau a dylanwad y Roma yng Nghymru. Ymddangosodd Y Sipsiwn Cymreig yn 1979, a fersiwn Saesneg wedi'i ddiwygio a gydag ychwanegiadau helaeth o dan y teitl The Welsh Gypsies: Children of Abram Wood yn 1991. Yn y ddau achos, priodolwyd y gwaith i Eldra ar y cyd â'i gŵr, ac Eldra - a honnai'n gyson nad oedd ganddi fawr allu at atgynhyrchu ffeithiau - yn addef yn gellweirus mai ei gŵr a osododd drefn arno.

At ei gwaith ysgolheigaidd, parhaodd Eldra i ganu'r delyn mewn arddull a adlewyrchai'r chwe chenhedlaeth o delynorion ei theulu a aethai o'i blaen. Prin oedd enwau penodol ar y tonau a ganai, a defnyddiai ddulliau byrfyfyr wrth gyfeilio. Yn achos ei gwaith gyda Dawnswyr Bryn-mawr, grŵp a sefydlwyd gan Jessie a Hector Williams yn 1952, er enghraifft, byddai'n canu tonau'n rhes nes taro ar yr alaw a gydweddai â dymuniadau'r dawnswyr, gan nad allent hwy, fwy na hithau, gyfeirio at dôn wrth ei henw. Canai delyn Erard Roegaidd a brynasai ei thad yn Lerpwl ond mewn amnaid i'r traddodiad clasurol, yn wahanol i'w thad ac eraill o'i rhagflaenwyr, gorffwysai'r offeryn ar ei hysgwydd dde ac nid ar y chwith fel y gwnâi telynorion y deires.

Mynegodd chwithdod nad oedd unrhyw ddiddordeb mewn canu'r delyn ymhlith naill ai ei merched neu'i hwyrion, ond yr oedd yn falch iddi drosglwyddo'r Gymraeg i'w phlant. Soniodd yn ddidwyll, serch hynny, na theimlai i hynny fod yn rhwydd iddi fel un nad oedd ond wedi dysgu'r iaith yn oedolyn, a bod siarad Cymraeg fel 'codi wal' rhyngddi a'r plant ar adegau. Un ffordd y magodd gysylltiad â phlant yn gyffredinol oedd drwy ei dwy gyfrol o straeon ar eu cyfer o draddodiad y Roma, Y gof a'r diafol (1989) a Storïau'r sipsiwn i blant (1991), y ddwy wedi'u darlunio gan Suzanne Carpenter. Yr oedd ei hatgofion o'i phlentyndod ei hun yn sail i'r ffilm Eldra a ddarlledwyd ar S4C yn 2001, yn fuan wedi'i marwolaeth y flwyddyn flaenorol. Ymhlith uchafbwyntiau'r ffilm yr oedd y sgôr gerddorol a luniwyd gan y telynor teires Robin Huw Bowen. Gan ei disgrifio fel 'yr olaf o delynorion Sipsi go iawn Cymru', rhyddhaodd Bowen gryno-ddisg yn 2006 sy'n adlewyrchu'r profiad a gafodd o ddysgu tonau traddodiad cerddoriaeth y Roma i'r delyn yn uniongyrchol gan Eldra, neu o recordiadau ohoni, ac yn cynnwys alawon yn arddull y jig, y bibddawns, y walts a'r polca.

Bu farw Eldra Jarman yn Ysbyty Bwthyn Pontypridd, ar 24 Medi 2000. Buasai'n dioddef o gancr mêr yr esgyrn a chlefyd y galon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-07-21

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.