Ganwyd Elena Puw Morgan ar 19 Ebrill 1900 yng Nghorwen, Sir Feirionnydd, yn ferch i'r Parch. Lewis Davies (1859-1934), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a'i wraig Kate (g. Ellis, 1868-1942). Fel plentyn roedd hi'n llyfrbryf o'r iawn ryw, yn darllen yn eang yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys awduron clasurol megis Shakespeare, Shelley, a Tennyson. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Merched y Bala, ond oherwydd afiechyd nid aeth ymlaen i'r brifysgol, ffaith a achosodd loes iddi drwy gydol ei bywyd ac a oedd efallai'n un o'r rhesymau am ei diffyg hyder yn ei gallu llenyddol ei hun.
Yn 1931 priododd John Morgan, teiliwr a dilledydd lleol, a oedd hefyd yn ymddiddori mewn llenyddiaeth a gwleidyddiaeth. Ganwyd iddynt un ferch, Catrin, yn 1933. Roedd eu haelwyd, Annedd Wen, yng Nghorwen, yn ganolfan i weithgareddau llenyddol yr ardal. Roedd ganddynt lawer o ffrindiau llengar, gan gynnwys y nofelydd Seisnig John Cowper Powys, a oedd wedi ymgartrefu gerllaw, a'r awduron o Gymry Iorwerth C. Peate, Moelona, E. Tegla Davies, a Kate Roberts.
Ysgrifennodd Morgan ei ffuglen ar gyfer cylchgronau Cymraeg a chystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol. Dim ond yn ystod cyfnod o ddeng mlynedd (c.1930-1940) yn ei bywyd y medrai ganolbwyntio ar ei gwaith creadigol ei hun; wedi hynny, yn anffodus, roedd dyletswyddau gofal yn y teulu yn ei rhwystro rhag ysgrifennu.
Angel y Llongau Hedd, a ddaeth o'r wasg yn 1931, oedd ei llyfr cyhoeddedig cyntaf. Stori foesol ar gyfer plant yw hon, sy'n sôn am fywyd a gorchestion y cenhadwr, John Williams; cafodd ei chyfansoddi ar gais y Gymdeithas Genhadol Brydeinig. Enillodd dwy stori arall ar gyfer plant ganddi wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sef Tan y Castell yn 1930 a Bwthyn Bach Llwyd y Wig yn 1936. Cyhoeddodd hefyd un ar bymtheg o straeon byrion i blant mewn cylchgronau megis Cymru'r Plant, Y Cymro, a'r Faner.
Tair nofel i oedolion a gyhoeddodd Morgan, pob un ohonynt yn fuddugol mewn cystadlaethau eisteddfodol. Y cyntaf oedd Nansi Lovell a gyhoeddwyd yn 1933; hwn oedd y gwaith cyntaf i arddangos gwir faint ei dawn lenyddol. Ymddangosodd Y Wisg Sidan yn 1939 ac Y Graith yn 1943, yr olaf wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1938.
Nofel ar ffurf llythyr hunangofiannol yw Nansi Lovell; yr adroddwr yw'r prif gymeriad, Nansi, hen sipsi Cymreig, sy'n dweud stori ei bywyd i'w hwyres, etifeddes y plas lleol. Mae'r nofel yn dangos cydymdeimlad dwys â dieithriaid a menywod gorthrymedig, a hefyd yn cynnig portread positif a gwybodus o ddiwylliant Romani.
Nofel hanesyddol yw Y Wisg Sidan wedi ei lleoli yng nghefn gwlad Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mali Meredur yw'r prif gymeriad a hi sy'n etifeddu'r wisg sidan goch, hardd oddi wrth ei mam. Hwn yw'r unig gysur sydd ganddi mewn bywyd o dlodi eithafol. Mae'r nofel yn gymhleth o ran strwythur ac arddull; safbwynt Mali a fabwysiedir gan fwyaf yn y testun, ac mae darnau maith mewn arddull rydd anuniongyrchol, sy'n dod â'r darllenydd yn agos at fywyd mewnol y cymeriad. Yn y diwedd mae Mali'n llosgi'r wisg sidan, delwedd a allai awgrymu diwedd y 'felltith' sydd wedi achosi poen iddi ar hyd ei hoes.
Mae ei nofel olaf, Y Graith, yn cwmpasu cyfnod o'r 1890au i'r 1930au, sy'n rhoi cyfle i'r awdur ddangos y newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol a ddigwyddodd yng Nghymru yn ystod y degawdau hynny. Dori Llwyd yw'r prif gymeriad ac ar ddechrau'r nofel mae hi'n ferch un ar ddeg oed yn gwneud yn dda yn yr ysgol. Er mai Saesneg yw iaith addysg, iaith estron i Dori a'i chyd-ddisgyblion, mae deallusrwydd Dori yn ei chadw ar frig y dosbarth. Gwahanol iawn yw ei bywyd gartref, lle mae ei mam greulon yn ei chosbi'n rheolaidd. Mae hi'n curo Dori gyda gwregys lledr ac oherwydd hyn mae gan Dori graith uwchben ei llygad lle bu bron i fwcl y gwregys ei dallu unwaith. Mae Dori wedi ei chreithio yn gorfforol ac yn seicolegol gan y fagwraeth annaturiol hon. Wedi iddi brifio, mae'n cael ei hanfon i Lerpwl i fod yn forwyn i deulu cefnog, lle mae'n dal i gael ei cham-drin, hyd yn oed gan ei chyd-weithwyr sydd yn ei gwawdio am ei bod yn Gymraes ddiniwed. Yn ail hanner y nofel, cawn hanes Dori fel oedolyn, yn priodi a chael plant, ac yn raddol yn magu'r hunan-hyder yr oedd ei mam wedi ei dinistrio. Erbyn y diwedd, mae'r dyfodol yn argoeli'n dda i Dori ac i'w phlant: mae un o'i meibion yn ymgyrchu dros y Blaid Genedlaethol newydd ac mae ei merch yn anelu at fynd i'r brifysgol, fel ei brodyr.
Nofelydd medrus a soffistigedig yw Elena Puw Morgan ond, efallai oherwydd prinder cymharol ei gweithiau cyhoeddedig, mae hi wedi ei hesgeuluso a'i thanbrisio. Mae ei ffuglen yn nodedig am ei ffocws pwerus ar fywydau merched yn byw mewn tlodi enbyd ac o dan amodau difreintiedig. Fel y dywed ei hwyresau, Angharad a Mererid Puw Davies, roedd ei gwaith yn trafod themâu cymhleth a heriol, gan gynnwys cam-drin corfforol, emosiynol, a rhywiol, ac ar y pryd roedd ei nofelau yn feiddgar ac yn arloesol.
Bu farw Elena Puw Morgan yng Nghroesoswallt ar 17 Awst 1973.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-03-29
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.