Ganwyd 21 Mehefin 1877 ym Moylon, Rhydlewis, Ceredigion, yr ieuangaf o blant John Owen (a oedd yn cludo nwyddau fferm i'r Gweithiau â cheffyl a chart cyn cymryd tenantiaeth fferm y Moylon) a Mari, merch Abraham Jones (a oedd yntau yn garier). ' Moelona ' oedd yr ieuangaf o dri ar ddeg o blant; bu un ohonynt farw yn ieuanc tra oedd y rhieni yn y fynwent yn claddu dau arall. Brawd iddi, a'r hynaf o'r plant, oedd Owen Rhys Owen (1854 - 1908), gweinidog (A) y cysylltir ei enw â Glandŵr. Cyn iddi hi gyrraedd oedran ysgol bu raid i'r teulu adael Moylon, a chymryd fferm lai ac anghysbell Llwyneos, ac oddi yno yr aeth i'r ysgol elfennol yn Rhydlewis pan oedd John Newton Crowther yn brifathro yno, Sais uniaith a ddysgodd Gymraeg, a droes i farddoni yn y Gymraeg, ac a fu'n flaenllaw yng nghapel Hawen (A) lle yr oedd ' Moelona ' yn aelod. Yr oedd y pryd hynny draddodiad llenyddol ac eisteddfodol byw yn yr eglwysi lleol ac yn y fro, a bu ' Moelona ' drwy gydol ei hoes yn drwm dan ddylanwad ardal ei magwraeth. Cyfoed â hi yn yr ysgol oedd D. Caradoc Evans, a hi yn hytrach nag ef a benodwyd yn ddisgybl-athrawes pan gynigiodd y ddau ohonynt am yr un swydd. Gan i'w mam farw yn 1890, ni chafodd ei dymuniad o fynd i goleg a bu'n gofalu am ei thad a gweithredu fel disgybl-athrawes yn Rhydlewis gan ennill tystysgrif athrawes tra oedd yno. Apwyntiwyd hi'n athrawes yn Mhont-rhyd-y-fen, Pen-y-bont ar Ogwr, ac Acre-fair cyn mynd i Gaerdydd yn 1905.
Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Rhamant o Ben y Rhos, yn 1907 ar gyfer eisteddfod Llwyn-yr-hwrdd a chyhoeddwyd hi yr un flwyddyn gan Wasg Gomer. Fe'i hailgyhoeddwyd fel Rhamant y Rhos yn 1918. Erbyn hynny yr oedd ' Moelona ' wedi elwa ar gymdeithasau a chyfleodd diwylliadol dinas Caerdydd, gan gynnwys y gymdeithas Eingl-Ffrengig, ac wedi dod ar draws storïau Alphonse Daudet (sydd yn sôn am fywyd ei fro enedigol ef). Maes o law, cyhoeddwyd cyfieithiadau gan ' Moelona ' o waith Daudet mewn amryw gylchgronau megys Cymru (1916) - yr oedd Syr O.M. Edwards wedi ei hannog i ysgrifennu - Y Wawr (1917), ac yn y gyfrol Y Wers Olaf (1921). A thra oedd hi yng Nghaerdydd fe gyhoeddwyd amryw ysgrifau a llyfrau gan gynnwys Teulu bach Nantoer (1913) a Bugail y Bryn (1917).
Yn 1914 dechreuodd gyfrannu ' Colofn y Plant ' i'r wythnosolyn Y Darian dan olygyddiaeth J. Tywi Jones, Y Glais, ac yn 1917 priododd ' Moelona ' ac yntau. Wedi hynny, troes dros dro i ddarlithio cyn ailgydio mewn ysgrifennu nofelau ar gyfer plant, llyfrau Cymraeg ar gyfer ysgolion, nofelau i ferched, megys Breuddwydion Myfanwy (1928), a Beryl (1931) ynghyd ag ysgrifau a llyfrau eraill. Nodweddir y rhain gan gariad at yr iaith, brwdfrydedd dros addysg a chyfleoedd i fenywod, ac yn rhai o'r cyfrolau (yn arbennig Ffynnonloyw (1939) adlewyrchir nodweddion cymdeithasegol y gymdeithas y magwyd hi ynddi, a hynny yn dra effeithiol gan mai dweud stori oedd ei bwriad yn hytrach na darlunio cymdeithas.
Yn 1935 ymddeolodd J. Tywi Jones, a symudodd ' Moelona ' ac yntau i Geinewydd. Bu ef farw yn 1948 ond ni phallodd diddordeb 'Moelona' mewn capel ac eisteddfod tan ei marw yng Ngheinewydd, 5 Mehefin 1953. Ni bu iddi blant. Claddwyd hi yn Hawen, Rhydlewis.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.