JONES, JOHN TYWI (1870 - 1948), gweinidog (B) a newyddiadurwr

Enw: John Tywi Jones
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1948
Priod: Elizabeth Mary Jones (née Owen)
Priod: Ellen Jones (née Davies)
Rhiant: Rachel Jones
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B) a newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: David Jenkins

Ganwyd 7 Ionawr 1870 yn Henllys Lodge ger Llanymddyfri, Caerfyrddin, yn fab i Thomas a Rachel Jones. Mynychodd yr ysgol Frytanaidd yn Llanymddyfri nes i'r teulu symud yn gyntaf i Ferthyr Tudful ac wedi hynny i Aberdâr a oedd yn ganolfan pwysig i'r wasg yng Nghymru. (Ar ddechrau'r 20g. yr oedd yno ddeunaw gwasg ar waith ar yr un pryd). Bu'n gweithio tan ddaear am gyfnod ac yng ngwaith haearn Cyfarthfa. Dechreuodd bregethu yng Nghalfaria (B) Aberdâr, lle bu'r Parch. Thomas Price, Ph.D. yn weinidog tan ei farw yn 1888 ac yn olygydd Y Gwron, newyddiadur radical na fu byw yn hir. Trwy gryn ymdrech enillodd Tywi Jones addysg yn y Trecynon Seminary, sef ysgol baratoi Rees Jenkin Jones, ac aeth yn ei flaen i goleg y Bedyddwyr ym Mangor lle yr oedd yn gyfoed â Gwili ac ag E. Cefni Jones. Ordeiniwyd ef yn Llanfair a Phentraeth, Môn, yn 1897 a bu yno hyd 1906 pan dderbyniodd alwad i Peniel, y Glais. Gweinidogaethodd yno'n ddiwyd a llafurus hyd ddechrau 1935.

Er pan oedd yn ieuanc cyfrannodd o bryd i'w gilydd i Tarian y Gweithiwr, a gyhoeddid yn Aberdâr, ac a oedd ar ryw gyfrif yn olynydd i'r Gwron; maes o law cyfrannodd ato'n gyson dan enw ' Llewelyn '. Sosialydd cristnogol oedd, carwr Cymru a'r Gymraeg, cenedlaetholwr, eisteddfodwr ac aelod o Orsedd y Beirdd. Fel T. E. Nicholas (A) ei gyd- weinidog yn y Glais, safodd yn gadarn dros iawnderau gweithwyr ac nid ofnodd amhoblogrwydd na gwrthwynebiad. Am yr iaith, dywedodd ' Nid oes dim yng nglyn â chenedl sydd yn bwysicach na'i hiaith. Y mae cyfoeth bywyd a delfrydau cenedl yn drysoredig yn ei hiaith a'i llenyddiaeth. Tlawd yn wir yw y genedl nad oes ganddi iaith sydd yn werth ei chadw na llenyddiaeth sydd yn werth ei meithrin. ' Ac eto, ' Y mae ein hiaith ni heddiw yn fyw … Y mae hefyd yn ddigon byw i fyw os ewyllysia Cymru. Dibrisier hi, a byddwn wedi torri'r cymundeb â goreu bywyd y genedl yn y gorffenol.'

Gyda'r seisnigeiddio a oedd ar gerdded cynhwyswyd yn Tarian y Gweithiwr ambell adroddiad yn Saesneg, a hyn a barodd i J. Tywi Jones ffurfio cwmni (The Tarian Publishing Co. Ltd.) i gadw'r papur ar ei draed yn newyddiadur cwbl Gymraeg, ac ef a'i golygodd o 1914 hyd ddarfod o'r papur yn 1934. Yn ogystal â hynny ysgrifennodd nifer o ddramâu gan gynnwys rhai yn ymwneud â'r iaith ac â Chymreictod (megys Dic Sion Dafydd, 1913), ynghyd â storïau i blant ac oedolion, a gweithiau diwinyddol (e.e. Y Bedydd Ysgrythurol, 1900). Gwelir ysgrifau niferus o'i eiddo yn Seren Gomer ac emynau o'i waith yn Llawlyfr Moliant.

Priododd ddwy waith: (1) ag Ellen merch Herbert Davies, teiliwr, Aberdâr, a fu farw yn 1915; (2) ag Elizabeth Mary Owen ('Moelona') yn 1917. Bu iddo ddwy ferch o'r briodas gyntaf. Yn 1935 ymddeolodd a symudodd Moelona ac yntau i Geinewydd. Yn Who's Who in Wales yn 1937 cyhoeddodd mai cefnogydd Plaid Genedlaethol Cymru oedd o ran gwleidyddiaeth, ac mai garddio a dringo mynyddoedd (yng Ngheinewydd) oedd ei ddiddordebau yn ei amser hamdden. Bu farw 18 Gorffennaf 1948 a chladdwyd ef ym mynwent Ainon, Birchgrove, Llansamlet.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.