THOMAS, CLARA (1841 - 1914), tirfeddiannwr a dyngarwr

Enw: Clara Thomas
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1914
Rhiant: Henry Thomas
Rhiant: Clara Thomas (née Thomas)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: tirfeddiannwr a dyngarwr
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Dyngarwch
Awdur: Huw Thomas Davies

Ganwyd Clara Thomas ar 22 Awst 1841 ym Mhlas Pencerrig, Llanelwedd, Sir Faesyfed, yr olaf o bedwar o blant Henry Thomas (1808-1863) o Lwyn Madoc, Llanfihangel Abergwesyn, tirfeddiannwr, cyfreithiwr a chadeirydd Llys y Sesiwn Cwarter, a'i wraig Clara (g. Thomas, 1814-1877) o Bencerrig. Roedd y teulu'n berchen ar diroedd eang yn siroedd Brycheiniog, Maesyfed, Ceredigion a Morgannwg, a gellir olrhain eu hachau i Elstan Glodrydd, sylfaenydd llwyth brenhinol Rhwng Gwy a Hafren.

Drwy ffawd a thrychineb teuluol etifeddodd Clara Thomas yr holl eiddo yng nghanolbarth Cymru a chymoedd y de. Bu farw dau frawd a chwaer cyn cael cyfle i etifeddu: Clara Gwynne Thomas (1836-1836), Evan Thomas Gwynne Thomas (1837-1838) ac Evan Llywelyn Thomas (1839-1864). Roedd Evan Llywelyn Thomas wedi dyweddïo yn 1863 ag Elizabeth Amy Dillwyn, ond fe fu farw o'r frech wen ym Mharis. Erbyn 1873 amcangyfrifwyd bod Clara Thomas yn berchen ar 14,333 o erwau o dir ym Mrycheiniog, Maesyfed a Morgannwg, yn codi rhent blynyddol o £5,279.

Dyma oedd dechrau bywyd o gyfrifoldebau mawr i Clara Thomas. Adnabuwyd hi fel tirfeddiannwr teg a ofalai am les ei thenantiaid. Adeiladwyd eglwysi niferus ganddi, yn aml er cof am ei theulu ond hefyd yn y cymoedd diwydiannol i ddarparu yn ysbrydol ar gyfer y boblogaeth. Darparwyd tir ac ariannwyd llyfrgelloedd, athrofeydd, sefydliadau'r gweithwyr, ysbytai, cartrefi gofal, cartrefi nyrsys, canolfannau ieuenctid ac ysgolion. Cynigiwyd cymorth i amrywiol fudiadau dyngarol ac yn arbennig i weddwon a theuluoedd yn dilyn trychinebau yn y maes glo. Yr oedd llawer o'i rhoddion ariannol yn ddienw ac adnabuwyd y cyfraniadau fel rhai gan Miss X. Cefnogwyd cronfeydd adeiladu Coleg Prifysgol De Cymru a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac roedd hi'n aelod o Lys Llywodraethwyr Prifysgol Cymru.

Roedd ei hunaniaeth Gymreig yn bwysig iddi, a medrai siarad a darllen Cymraeg. Cyfrannodd yn ariannol at eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Cefnogodd godi cofgolofn i nodi marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Gwynedd, ger Llanfair ym Muallt, ac roedd yn gefnogol hefyd i'r syniad o gerflun ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, i gofio am awduron yr Anthem Genedlaethol, Evan James a James James. Roedd hi yn danysgrifiwr ac yn aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Ystyriai Lwyn Madoc a Phencerrig yn gartrefi iddi. Bu'n aelod o Fwrdd Gofalwyr Llanfair ym Muallt a'r fenyw gyntaf i fod yn Gynghorydd Sir yn cynrychioli Llanfihangel Abergwesyn. Roedd ganddi gymdeithion yn gefn iddi yn Margaret Gertrude Lewis Lloyd (1830-1907) o Nantgwyllt, Cecilia Agnes Ann Turner (1851-1932) Dolyffin a Rosalind Margaret Phillimore (1881-1953). Teithiai'n flynyddol ar y Daith Fawr yn Ewrop ac yn ddiweddarach i'r Aifft. Yn athrawes fedrus, cynhaliodd ddosbarthiadau ysgol ac ysgolion Sul gyda Margaret Lloyd. Yn Anglican o ran ei ffydd, roedd yn gefnogol hefyd i achosion anghydffurfiol.

Bu farw Clara Thomas o ganser yr arennau ar 12 Mehefin 1914 yng Ngwesty'r Bailey, Ffordd Caerloyw, Llundain. Cludwyd ei chorff nôl i Gymru i'w gladdu yn Eglwys Oen Duw, Llanfihangel Abergwesyn. Gadawyd £133,640 yn ei hewyllys, yn darparu ar gyfer ei theulu estynedig, ei ffrindiau mynwesol a'i staff teyrngar.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-09-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.