Y mae'r hyn a wyddom ynghylch Frances Williams, merch o blwyf Chwitffordd, Sir Fflint, yn deillio o un digwyddiad canolog yn ei bywyd. Liw nos ar 1 Awst 1783, ymddengys iddi dorri i mewn i gartref cyn-gyflogwr iddi, yr arlunydd Moses Griffith, a lladrata oddi yno eitemau o'i eiddo ef, ei wraig Margaret, a morwyn iddynt, Elizabeth Cotterall. Arweiniodd y weithred at ganlyniadau pellgyrhaeddol iddi.
Nid oes sicrwydd ynghylch dyddiad geni Frances ac y mae'n bosibl mai hi oedd un o'r tair Frances Williams a fedyddiwyd ym mhlwyfi Helygain, Fflint neu Laneurgain, Sir Fflint, yn 1760 a 1762. Yn ferch ifanc, ddibriod, fe'i cyflogwyd gan Moses Griffith ym mwthyn Wibnant ger Treffynnon - y cartref a roddwyd ar rent iddo'n dilyn ei briodas â Margaret Jones ym mis Ionawr 1781 gan ei feistr Thomas Pennant, perchennog stad Downing. Erbyn mis Awst 1783, yr oedd Frances wedi gadael gwasanaeth Griffith a symud dros aber afon Dyfrdwy i fyw at ei brawd yn Lerpwl. Awgrymwyd sawl rheswm dros y symudiad - o'r angen i symud i'r ddinas i chwilio am waith ar y naill law, i'r ysfa i ddianc o grafangau Griffith (oedd ag enw am ymddygiad anweddus tuag at fenywod) ar y llall.
Damcaniaethu'n unig a ellir ynghylch y mater hwnnw; y mae tystiolaeth fwy manwl yn ymddangos wrth edrych ar yr oriau a'r dyddiau nesaf yn hanes Frances. Serch hynny, gan mai adroddiadau a gofnodwyd yn llaw Pennant, Ynad Heddwch â chyfrifoldeb dros adrodd achosion i'r brawdlysoedd ond un a fyddai â diddordeb personol mewn achub unrhyw gam yn erbyn Griffith - ei 'drysor' o artist - y mae cwestiynau ynghylch amhleidioldeb y dystiolaeth yn rhwym o godi. Cynnwys y dystiolaeth archwiliadau a wnaeth Pennant o chwe thyst, y llawnaf ohonynt o Margaret, gwraig Moses Griffith. Tystiodd hi iddi glywed sŵn yn y tŷ rhwng un a dau o'r gloch y bore (ar 2 Awst) ond na feddyliodd ddim o'r peth. Pan gododd yn y bore, fodd bynnag, a mynd i'r gegin, gwelodd fod dillad a adawsai yno y noson cynt wedi diflannu, yn grysanau benyw a ffedogau; crysau, hosanau a chadachau gwddf o eiddo'i gŵr; ynghyd â pheisiau, gŵn nos, clogyn glas, het ffelt a het sidan o'i heiddo'i hun. Yn rhestr hirfaith Margaret, sy'n tystio i ymyrraeth a cholledion pellach, hefyd, gwnaeth Pennant sawl ychwanegiad uwch ben y llinell wrth gofnodi, fel petai'r tyst yn cofio rhagor wrth fynd rhagddi i adrodd y camwri - yn wirfoddol neu wedi'i phrocio gan yr Ynad, ni allwn ddweud. Adroddodd Margaret iddi fynd i hysbysu bwtler Pennant, William Cooper, o'r digwyddiad cyn mynd i Downing i adrodd yr hanes gerbron Pennant ei hun. Pan ddaeth gair oddi wrth forwyn y bwtler, Elizabeth Jones, i ddweud ei bod wedi cael hyd i het y tybid ei bod yn eiddo i Frances Williams mewn cae cyfagos, Dole Bychton, anfonodd Pennant Cooper ar drywydd y droseddwraig honedig. Llwyddodd yntau i'w dal fel yr oedd yn glanio oddi ar gwch yn Parkgate, Swydd Gaer, a'i dwyn yn ôl i Downing. Tyngodd Margaret Griffith bod Frances yn gwisgo'r ŵn nos, y clogyn glas a chrysan o'i heiddo hi pan ymddangosodd ac, at hyn, daeth Cooper â bwndel mawr wedi'i lapio mewn ffedog siec a ganfu ym meddiant Frances. Yr oedd cynnwys y bwndel yn cyfateb i'r eitemau a nodasai Margaret oedd ar goll o'i chartref er noson y lladrad, heb sôn am nifer o eitemau pellach, yn eu plith ddefnydd a phais cotwm rhesog, capiau niferus, sebon, brws a phlât.
Saernïwyd achos i'w gyflwyno gerbron y brawdlys ar 2 Medi 1783 a llwyddo i sicrhau bod cyhuddiad dilys i'w ateb ('True Bill'). Cyhuddwyd Frances ynddo o dorri i mewn i Wibnant a dwyn eiddo gwerth £2 2s 1c oddi yno. O'r chwe thyst gwreiddiol, pedwar a ymddangosodd i dyngu yn erbyn Frances; dilëwyd enw Elizabeth Jones, morwyn y bwtler, oddi ar y rhestr, ac nid oedd enw Moses Griffith arno o gwbl. Er gwaethaf y gyffes yn llaw Pennant y rhoesai ei marc iddi (fel pob un o'r tystion benywaidd eraill, ni allai ysgrifennu ei henw), plediodd Frances yn ddieuog yn y llys. Fe'i dedfrydwyd serch hynny i'w chrogi gerfydd ei gwddf hyd nes y byddai farw. Safodd y gosb tan fis Awst 1784 o leiaf, ond cyn iddi gael ei gwireddu, fe'i lliniarwyd a'i throi'n ddedfryd o drawsgludiad am saith mlynedd. Ni ddigwyddodd hynny ychwaith ar frys a bu Frances yn garcharor yn hen garchar Fflint am bedair blynedd. Ceir tystiolaeth i Pennant, un a fu'n flaenllaw iawn er sicrhau ei dedfryd wreiddiol, ddangos diddordeb neilltuol yn ymadawiad Frances: hi, heb os, oedd y 'cargo gwerthfawr' o blith carcharorion Sir Fflint y cyfeiriodd cyfaill iddo, y barnwr Daines Barrington, ato mewn llythyr ar 25 Ionawr 1786. Yn y man, daeth yn amser cludo Frances mewn heyrn gan ddau warchodwr, Joseph Simon a Daniel Jones, i Portsmouth. Yno, byrddiodd y Prince of Wales, un o un llong ar ddeg y Llynges Gyntaf - chwech ohonynt yn cludo carcharorion, y gweddill yn cario'r gwladfawyr cyntaf o Ewrop ac Affrica i Awstralia. Y llyngesydd Arthur Phillip (1738-1814) oedd yng ngofal y llynges wrth iddi adael Portsmouth ar 13 Mai 1787, ar daith wyth mis, a ddaeth i ben yn Port Jackson (safle Sydney heddiw) yn hytrach na Botany Bay, sef y lleoliad a fwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer gwladfa a gwladfa gosb.
Yn ystod y daith neu'n fuan wedyn, cychwynnodd Frances berthynas â phreifat yng Nghwmni 32 y Morlu (Portsmouth) ar y Prince of Wales, Robert Ryan (g. 1758) o Newry, Armagh. Erbyn mis Mawrth 1790 yr oedd y ddau wedi cyrraedd Ynys Norfolk, Frances yn magu eu merch, Sarah Williams, a anwyd yn Sydney Cove a'i bedyddio ar 16 Gorffennaf 1789. Rhyddhawyd Robert o'r morlu ym mis Rhagfyr 1791 a daeth yn berchennog ar 60 acer o dir ar Ynys Norfolk. Bu peth symud yn ôl ac ymlaen rhwng Ynys Norfolk a Sydney yn y blynyddoedd dilynol, â Robert yn rhannu'i amser rhwng gwaith milwrol yn New South Wales a derbyn a gwerthu tir ar Ynys Norfolk a thraeth gogleddol Port Jackson. Bu Frances mewn perthynas â dau ŵr arall - John Cropper (c.1756-c.1822) a Noah Nathaniel Mortimer (1761-1846), carcharorion a drawsgludwyd i Awstralia. Rhwng 1791 ac 1796, ganwyd rhagor o blant iddi - Elizabeth, Jane a James, Jane yn ferch i Cropper, er mai Ryan oedd tad y plentyn dilynol, James. Rywdro yn 1801 bu farw Frances ar Ynys Norfolk, gan adael y plant yn nwylo gofalwyr maeth yno. Yn 1811, dychwelodd Ryan i Loegr, wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau milwrol.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-12-07
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.