KOTSCHNIG, ELINED PRYS (1895 - 1983), seicdreiddydd a heddychwraig

Enw: Elined Prys Kotschnig
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1983
Priod: Walter Maria Kotschnig
Rhiant: Elizabeth Prys (née Parry)
Rhiant: Owen Prys
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: seicdreiddydd a heddychwraig
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Ymgyrchu
Awdur: Ffion Mair Jones

Ganwyd Elined Prys ar 16 Chwefror 1895 yn Nhrefeca, Talgarth, Sir Frycheiniog, yr hynaf o ddwy ferch Owen Prys, Pennaeth Coleg y Methodistiaid Calfinaidd yno, a'i wraig Elizabeth (g. Parry). Symudodd y teulu i gartref newydd yn Lluest, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, pan adleolwyd y coleg yn 1906, ac aeth Elined ymlaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn Ionawr 1918, a rhai misoedd o'r Rhyfel Byd Cyntaf eto i ddod, bu'n ymgyrchu dros heddwch drwy lwyfannu cynhadledd yn Aberystwyth i drafod 'The Best Pathway to Peace'. Ei nod, fel yr eglurodd yn ddicllon yn y wasg pan rwystrwyd y digwyddiad rhag mynd yn ei flaen gan fygythiadau hwliganaidd, oedd cynnal trafodaeth eang ei chwmpas ar heddwch o safbwynt Cristnogaeth. Mae'r agwedd gytbwys a ddangosodd drwy egluro y byddai wedi estyn croeso yn y digwyddiad i bleidgarwyr y rhyfel yn ogystal â rhai a arddelai farn wahanol ynghylch rhyfel a heddwch (h.y. heddychwyr) yn arwydd o'i doethineb a'i haeddfedrwydd wrth fynd i'r afael â chwestiwn a oedd yn mynd i fod yn ganolog i'w bywyd hi a'i chyfoedion am ddegawdau i ddod.

Wedi graddio mewn athroniaeth o Goleg Aberystwyth yn 1918, bu Elined yn fyfyrwraig yng Ngholeg Newnham, Prifysgol Caergrawnt, lle cyfrannodd gyfieithiad Saesneg o gerdd hiraethlon T. Gwynn Jones, 'Atgof', at gylchgrawn y coleg, cyn treulio tair blynedd yn Bwcarést, Rwmania(o Ionawr 1920) yn gweithio i Sefydliad Cristnogol Menywod Ifanc y Byd er mwyn sefydlu adran ymhlith myfyrwyr yno. Canfu broblemau'n ymwneud â hiliaeth yn Rwmania, gan gynnwys gwrth-Semitiaeth, ond roedd y gefnogaeth i fyfyrwyr yn rhyfeddol o hael os nad yn ormodol felly, meddai. Nid syndod o'r herwydd gweld Elined yn troi ei sylw yn ystod y cyfnod hwn yn nwyrain Ewrop at amgylchiadau llai boddhaol myfyrwyr a darlithwyr prifysgolion Rwsia; ceisiodd ennyn diddordeb y cyhoedd gartref yng Nghymru yn eu trueni ar ran apêl Brydeinig, drwy hysbyseb yn y Welsh Gazette ym mis Medi 1922 yn gofyn am hen ddillad ar eu cyfer. Ym 1923, wedi dychwelyd o Rwmania, cyhoeddwyd adroddiad o brofiadau Elined yn Yr Efrydydd, cyhoeddiad Sefydliad Cristnogol y Myfyrwyr. Ymddengys bod ei llais dros achos heddwch yn rhyngwladol yn dilyn y profiad hwn wedi arwain at ei dewis yn un o'r pedair a gafodd y fraint o gludo deiseb menywod Cymru i'w cymheiriaid yn yr Unol Daleithiau, deiseb a drefnwyd gan Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd, er nad yw ei henw'n amlwg yn y cofnodion o'r cynadleddau a gynhaliwyd wrth i'r achos godi stêm yn ystod 1923. Ar 2 Chwefror 1924, a hithau'n naw ar hugain mlwydd oed, ymunodd Elined, fel un o'r ddirprwyaeth answyddogol, ag arweinydd yr achos, Mrs Peter Hughes Griffiths neu Annie Jane Hughes Griffiths (1873-1942) ar fwrdd yr RMS Cedric i hwylio o Lerpwl i Efrog Newydd. Cadwyd dyddiadur o symudiadau'r ddirprwyaeth (a oedd hefyd yn cynnwys Mary Ellis a Gladys Thomas) wrth iddynt gyflwyno'r ddeiseb i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge, yn y Ty Gwyn cyn teithio i'r arfordir gorllewinol ac yn ôl. Erbyn diwedd Mawrth 1924, roedd y deisebwyr yn ôl ym Mhrydain, ac Elined yn defnyddio'i llais i hyrwyddo achos Cynghrair y Cenhedloedd. Drwy'r Cynghrair yn unig y gellid herio'r perygl y codai rhyfel arall, â'i adnoddau ar gyfer lladd a dinistrio yn fwy brawychus nag erioed, dadleuodd, gan rannu llwyfan â Syr Harry Reichel, un o aelodau Pwyllgor Gweithredol Undeb Cymraeg Cynghrair y Cenhedloedd mewn cyfarfod i hybu'r achos yn Llandudno ym mis Tachwedd.

Coronwyd blwyddyn brysur i Elined pan briododd â Walter Maria Kotschnig (1901-1985, Awstriad o Judenburg yn enedigol, yng nghapel Cymraeg yr Eglwys Bresbyteraidd, Charing Cross Road, Llundain, ar 10 Rhagfyr 1924. Roedd Kotschnig newydd gyflawni traethawd doethurol mewn gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Kiel, Schleswig-Holstein, yr Almaen y flwyddyn honno a Kiel oedd cartref priodasol cyntaf y ddau. Ysgrifennodd Elined at ei chyfaill T. Gwynn Jones oddi yno ym Mehefin 1825; ddeufis yn ddiweddarach roedd hi a'i phriod wedi symud i 'Dre Calfin' (Genefa) yn dilyn penodiadau i'r ddau yno'n ysgrifenyddion gyda Gwasanaeth Rhyngwladol y Myfyrwyr, ac yn disgwyl eu plentyn cyntaf. Yn y blynyddoedd nesaf, datblygodd Walter Kotschnig ei yrfa gyda'r Gwasanaeth, gan draddodi darlithoedd ac areithiau ar faterion yn ymwneud â byd addysg, ei ymwybyddiaeth o fygythiad o du Sosialaeth Genedlaethol a'r adain dde eithafol yn cynyddu pan benodwyd Adolf Hitler yn Ganghellor ddiwedd Ionawr 1933. Ymatebodd Walter ac Elined i argyfyngau sector y prifysgolion drwy gyd-olygu cyfrol o dan adain Gwasanaeth Rhyngwladol y Myfyrwyr, The University in a Changing World (1932). Gan ddatblygu ar gynadleddau'r Gwasanaeth yng nghyfnod tywyll y blynyddoedd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, pan lywid y drafodaeth gan ystyriaethau ymarferol ynglyn â chyni a dioddefaint materol myfyrwyr, cyflwynai'r casgliad hwn gyfraniadau ynghylch system addysg uwch gwledydd Ewrop a'r Unol Daleithiau, gan roi cyfle i'r cyfranwyr (hyd yn oed yn achos yr Eidal Ffasgaidd) nodi rhagoriaethau eu systemau wrth geisio mynd at wraidd diben a chenhadaeth y prifysgolion mewn cyfnod newydd yn eu hanes.

Tra dyfnhaodd ymrwymiad ei gwr i achos myfyrwyr ôl-raddedig di-waith ac i ysgolheigion a ddiswyddwyd yn dilyn deddf y Reich Natsïaidd i 'adfer' y gwasanaeth sifil proffesiynol ym mis Ebrill 1933, newidiodd Elined gyfeiriad yn y blynyddoedd yn dilyn ei phriodas. Erbyn y 1930au cynnar, roedd yn gweithio ym maes seicdreiddiad gyda Tina Keller-Jenny (1887-1985), disgybl i Toni Wolff (1888-1953) a Carl Gustav Jung (1875-1961). Daethai Walter a hithau'n aelodau o Gyfarfod Misol Crynwyr Genefa yn 1927, a thorrodd Elined dir newydd drwy sefydlu grwp i astudio system Jung ar y cyd â chredoau'r Crynwyr, syniad y rhoddodd Jung ei hun sêl ei fendith arno yn ystod ymweliad y grwp â'i gartref ar lan llyn Zürich ym mis Mehefin 1935. Adroddodd Elined yn ddiweddarach i Jung 'gytuno â ni ynghylch y cydnawsedd a welem rhwng syniadau a phrofiadau'r Crynwyr â'i seicoleg ei hun', ac iddo ddweud y byddai yntau wedi troi'n Grynwr petai wedi cael dewis bod yn rhan o gymuned Gristnogol yn gynnar yn ei fywyd.

Daeth y diddordeb mewn cydblethu dadansoddiad Jung â chredorau'r Crynwyr yn fwyfwy creiddiol i waith Elined yn dilyn symudiad y teulu (Walter, eu tri phlentyn, a hithau) i'r Unol Daleithiau yn hydref 1936. (Fe'i gwnaed yn amhosibl iddynt oedi'n hwy yn Ewrop oherwydd beirniadaeth ddi-flewyn-ar-dafod Walter o lywodraeth Hitler.) Ymsefydlodd y teulu yn Northampton, Massachusetts, a dechreuodd Elined a'i gr ymddiddori mewn ymdrechion a oedd ar y gweill yn lleol i sefydlu Grwp Misol o Grynwyr yno. Penodwyd Elined yn glerc i'r Cyfarfod Misol newydd ym mis Hydref 1938, ac roedd hi a Walter ymysg y sylfaenwyr pan esblygodd hwn yn Gyfarfod cysylltiedig â Chyngor Cymrodoriaeth America ar 26 Chwefror 1939. A hithau'n gyfnod o ryfel drachefn, roedd gwaith dyngarol yn anochel yn rhan ganolog o weithgaredd y Cyfarfod Misol yn ei ddyddiau cynnar. Elwodd y grwp ar wybodaeth Walter o wleidyddiaeth a'i gefndir fel dinesydd Awstriaidd; a throes Elined ei sylw drachefn i ymfyddino o blaid Cynghrair y Cenhedloedd (roedd UDA yn parhau i ymwrthod ag aelodaeth o'r Cynghrair hwn a sefydlasid yng Nghynhadledd Heddwch Paris yn Ionawr 1920). Bu'n barod hefyd i gynorthwyo ymgyrch Mary Robbins Champney (bu f. 1950) ar ran Pwyllgor Gwasanaeth Crynwyr America i letya ffoaduriaid o'r Iseldiroedd oedd yn byw mewn tlodi yn Efrog Newydd. Yn gyfochrog â'r datblygiadau hyn, esgorodd diddordebau cyffredin Elined a Mary Champney fel Crynwyr a seicolegwyr ar gynllun i gynnal cynhadledd i drafod y cyswllt rhwng y ddau faes. Fe'i gwireddwyd yn y gyntaf o gyfres o Gynadleddau'r Crynwyr ynghylch Natur a Chyfreithiau'r Byd Ysbrydol a gynhaliwyd yn Haddonfield, New Jersey, dros benwythnos y Pasg, 1943, gydag Elined yn gadeirydd. Pan newidiwyd yr enw i Gynhadledd y Crynwyr ynghylch Crefydd a Seicoleg dair blynedd yn ddiweddarach, dynodwyd Inward Light, cylchgrawn yn tarddu'n ôl i haf 1937 a gyhoeddwyd drwy dechneg mimeograff yn wreiddiol, yn gyhoeddiad swyddogol y Gynhadledd. Yn 1950 rhoddwyd swydd golygydd Inward Light i Elined.

Penodwyd Walter Kotschnig yn arbenigwr mewn trefniadaeth ryngwladol gyda llywodraeth UDA yn 1944 a gadawodd y teulu Northampton gan symud i Chevy Chase, Maryland, ardal yng ngogledd-orllewin Washington D.C. Parhaodd Elined i ddatblygu ei diddordeb cyfochrog mewn seicdreiddio ac yng ngwaith y Crynwyr. Treuliodd gyfnod pellach yn Sefydliad Jung yn Zürich yn dilyn y rhyfel er mwyn cymhwyso fel seicdreiddydd; hi oedd yr arbenigwr Jungaidd cyntaf yn ardal Washington. Gan gydweithio â'r Parch. Robert E. Marston, gweinidog hyn Eglwys Gynulleidfaol Crist, Silver Spring, Maryland, yn 1967, cychwynnodd grwp lleol, Gweithgor C. G. Jung, er mwyn ffurfioli'r broses o rannu syniadau Jung ynghylch seicoleg a seiciatreg. Mae cofnod o weithgaredd a datblygiad Elined fel seicdreiddydd i'w weld yn ei chyhoeddiadau, yn enwedig ar ffurf cyfraniadau awdurol (a golygyddol) i Inward Light, ac mewn papurau a gohebiaeth o'i heiddo sydd ar glawr, gan gynnwys gohebiaeth â Jung o'i chyfnod yn y Swistir ac wedi iddi ymfudo i UDA. Elfen ganolog iddi oedd herio ymlyniad Crynwyr ei hoes i 'Ochr Olau' eu profiad drwy eu hymrwymiad i dawelwch ar draul archwiliad o'r 'Ochr Dywyll'. '[S]ilence must be more than non-communication, patience more than Micawber-like waiting for something to turn up', meddai yn 1969; 'Time will heal only if we cooperate'. I Elined, golygai 'cydweithredu' archwilio dyfnderoedd y seice; ymgyrraedd at well dealltwriaeth o ddau begwn argyfwng a llonyddwch, boed hynny o fewn yr unigolyn, mewn perthynas rhwng gwr a gwraig, neu (gellir awgrymu o gofio am ei hymroddiad i achos heddwch rhwng y ddau Ryfel Byd) yn rhyngddibyniaeth y cenhedloedd. I'r fenyw, cynigiai seicdreiddiaeth Jungaidd ymwybyddiaeth o hunaniaeth gyflawn, heb fod yn ddibynnol ar gymar o wryw. Yn 1968, mewn astudiaeth gyfoethog ei chyfeiriadaeth at draddodiadau'r hen Roeg yn ogystal â dysgeidiaeth y Beibl, trafododd y cysyniad o 'wyryfdod achlysurol' o safbwynt anthropolegol, mytholegol, a seicolegol, gan ei gyflwyno fel metaffor am gyflwr seicolegol cyflawn yr Hunan. Cyflwynwyd y deunydd hwn mewn anerchiad i Gynhadledd y Crynwyr ynghylch Crefydd a Seicoleg ar 1 Mehefin 1968; roedd Elined bellach dros ei deg a thrigain mlwydd oed, ac mae'r recordiad a wnaed o'i haraith yn dangos ei chynhesrwydd dengar fel siaradwr, â'r gwrandawyr yn mynegi'u gwerthfawrogiad drwy byliau niferus o chwerthin cynulleidfaol. Roedd hi erbyn hynny wedi hen ymsefydlu ymhlith y Crynwyr Jungaidd yn yr Unol Daleithiau fel 'coeden fawr', ei gwreiddiau'n ddwfn a'r rhwydwaith a feithriniwyd ganddi yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'w lleoliad daearyddol, fel y nododd ei hysgrifenyddes a'i chyn-ddisgybl Lucille Eddinger mewn ysgrif o werthfawrogiad a ymddangosodd mewn rhifyn arbennig o Inward Light yn 1984.

Bu farw Elined yng nghartref henoed y Crynwyr yn Pennswood Village, Newtown, Pensylfania, ar 30 Mehefin 1983. Fe'i goroeswyd gan ei gwr a dau o'i phlant, ei theulu agosaf ond eto rhai y nododd mewn llythyr at T. Gwynn Jones yn 1938 na allai rannu â hi gyfrinach ei gwlad enedigol, 'because custom & "yr hên iaith" debar them forever from entering in'. Er iddi fyw yn alltud o Gymru am dros drigain mlynedd, parhau wnaeth 'a permanent and deep "hiraeth", of which I hardly ever speak, because it hurts too much & is of no use anyway', meddai wrth Gwynn Jones mewn moment ymddiriedus. Ar yr un pryd, teimlai ei bod wedi ennill mwy nag a gollodd drwy ei halltudiaeth, ac na fynnai newid unpeth. Mae'r coffâd a dalwyd iddi gan Lucille Eddinger ac eraill megis Helen Griffith yn cofnodi'r rhan a chwaraeodd yn asiad cyffrous a buddiol credoau'r Crynwyr a seicdreiddiad Jung, ac yn dyst i'r parch a'r edmygedd uchel ohoni yn ei gwlad fabwysiedig.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 2024-06-08

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.