VICARI, ANDREW (1932 - 2016), arlunydd

Enw: Andrew Vicari
Dyddiad geni: 1932
Dyddiad marw: 2016
Rhiant: Italia Vaccari (née Bertani)
Rhiant: Vittorio Vaccari
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Ceri Thomas

Ganwyd Andrew Vicari ar 20 Ebrill 1932. Ei enw bedydd oedd Andrea Antonio Giovanni Vaccari ac roedd yn un o bump o blant i fewnfudwyr Eidalaidd o ddinas Parma, Vittorio ('Victor') Vaccari, gwerthwr baco a chacennau, a'i wraig Italia (g. Bertani). Nodir Port Talbot fel man ei eni yn aml, ond mewn gwirionedd fe'i ganwyd yng Nghastell-nedd lle roedd ei rieni yn cadw caffi Eidalaidd. Yn nes ymlaen byddai Andrew ac arlunwyr eraill o'r ardal fel Will Roberts (1907-2000) yn arddangos eu lluniau yn un o stafelloedd cefn y caffi.

Amlygodd ddawn arlunio yn ifanc, ac wedi iddo fynychu Ysgol Ramadeg Castell-nedd penderfynodd astudio yn Ysgol Gelf Abertawe. Un o'i gyd-fyfyrwyr yno oedd yr artist a darlithydd celf George Little (1927-2017). Yn 1950, cyfrannodd lun 'in pastel colours, figures in a sort of fairground' i arddangosfa myfyrwyr a drefnwyd gan Little a'i gyd-fyfyriwr Archie Williams (1922-1993) yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe. Roedd yn dal i ddefnyddio ei gyfenw gwreiddiol Vaccari yr adeg honno.

Dyn cydnerth, gwallt tywyll, byrbwyll oedd Andrew Vicari, â thuedd i or-ddweud a mwydro. Mynychodd Ysgol Gelf Slade yn Llundain, ac yn ôl y sôn bu mewn cyswllt agos yno â Francis Bacon, William Coldstream, Augustus John a Lucian Freud. Yn wir, pan gynhwyswyd ei waith mewn arddangosfa grp yn Oriel Redfern yn 1956, dywedodd y beirniad (a bywgraffydd Bacon wedyn) David Sylvester 'at his best … he somehow produces images of remarkable vibrant quality, rich in poetry. They are pictures of mad fiestas, recalling "The Burial of the Sardine" with their movement and their banners, and pictures of men and women lazing in rich green fields.' Disgrifiodd Vicari ei waith ei hun fel 'Romantic realism'. Roedd ynddo hefyd elfennau mynegiadol tebyg i arlunwyr fel y Sais John Bratby (1928-1992) a'u realaeth 'sinc y gegin', term a fathwyd gan Sylvester yn 1954.

Mae'n debyg bod Vicari wedi treulio amser yn yr Eidal cyn dychwelyd i Lundain i ddechrau ennill bywoliaeth fel arlunydd, a pheintiwr portreadau yn arbennig. Un o'i bortreadau oedd 'Aneurin Bevan' (c. 1958) a roddwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan y pianydd, arweinydd band ac impresario o Loegr Jack Hylton (1892-1965) yn 1961, y flwyddyn y bu i Hylton ariannu arddangosfa solo i'r arlunydd o Gymro ger Leicester Square. Yn 1960, peintiodd 'Swper Olaf' gyda chyn-gapten tîm rygbi Cymru Clem Thomas fel Iesu, a Stanley Baker, Richard Harris a Harry Secombe fel Thomas, Jwdas a Mathew.

Yn haf 1963, ymddangosodd mewn ffilm fer â'r teitl 'Andrew Vicari - The Artist at Work' a wnaed gan Gwmni Teledu Cymru a'r Gorllewin. Fe'i gwelir o flaen murlun mawr wedi ei beintio'n rhydd a chyflym iawn y rhoddodd iddo'r teitl 'Cyclorama in Wales' a oedd ar ei hanner, ond y peth mwyaf trawiadol, efallai, yw'r modd y dynwaredai lais ac ymarweddiad Richard Burton. Erbyn hynny roedd wedi newid ei gyfenw i Vicari. Ym mis Hydref yr un flwyddyn cafodd sioe solo yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd a ddaliodd lygad Brynmor Anthony, cadeirydd Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru, a phrynodd y gymdeithas 'Whitsun Procession at Aberdulais' o'r sioe. Arwydd arall o'i fri cynyddol yng Nghymru oedd y ffaith i gwmni BP roi ei lun 'BP Baglan Bay at Night' (c. 1963) i Amgueddfa Cymru.

Ond daeth ei gyfle mawr yng nghanol y 1970au pan gafodd ei benodi'n arlunydd swyddogol i lywodraeth Saudi Arabia ac aeth ati i lunio trigain o beintiadau olew mawr ar thema epig 'The Triumph of the Bedouin'. Yn y 1980au, darluniodd ddigwyddiadau ym mywyd y Brenin Faisal. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth yn aruthrol o gyfoethog a thorrodd chwe blynedd o'i oedran, gan honni o hynny ymlaen iddo gael ei eni yn 1938. Daeth yn berchen ar eiddo ym Mharis a phenty yn y Palais Héraclès ym Monte Carlo, bu'n rhentu fila yn Cannes a fuasai'n eiddo i Picasso ac roedd ganddo stiwdio mawr yn Nice. Peintiodd aelodau o deulu brenhinol Rainier a chynhyrchu cyfres o dros ddau gant o luniau yn dangos rhyddhau Kuwait yn Rhyfel Cyntaf y Gwlff. Dywedodd y beirniad celf Marcsaidd John Berger, 'Vicari is of sociological interest as an analysis of where career promotion can get you, but certainly not of artistic interest … I'm not sure that in any other period but the one we are in could a guy have achieved what he has, that money, doing what he does with all those clichés'.

Gellir gweld Vicari fel un o allforion mawr Cymru, ond aeth hefyd yn ysglyfaeth i'w lwyddiant ei hun. Ar y naill law, broliodd ei hun yn aml fel 'brenin arlunwyr ac arlunydd brenhinoedd', disgrifiad a briodolir i Pierre Galante, golygydd Paris Match a gr Olivia de Havilland. Ar y llaw arall fe'i condemniwyd gan feirniad celf y Guardian Adrian Searle: 'Vicari is not a bad painter, not even the worst painter I have ever encountered. He is just supremely mediocre.' Cafodd ei werthfawrogi yn y Dwyrain Canol a Monaco yn bennaf yn hytrach nag yng Nghymru a Lloegr, ac nid oedd yn adnabyddus yn ei wlad ei hun yn ei flynyddoedd olaf er iddo lwyddo i ddal sylw'r cyfryngau ambell dro. Er enghraifft, yn 2002, pan oedd ganddo arddangosfa undyn yn Oriel Albany yng Nghaerdydd, gwnaeth ddarlun brysiog i roi lwc dda i stafell newid y tîm rygbi cenedlaethol yn Stadiwm y Mileniwm y credid bod aflwydd arni.

Honnodd iddo fod yn briod am gyfnod byr, ond y ddelwedd gyhoeddus a greodd i'w hun oedd y plesergarwr cyfoethog ac arlunydd hen lanc. Yn nwy flynedd olaf ei fywyd, daeth yn ôl i'w fan cychwyn trwy ddychwelyd i'w gynefin yn ne Cymru ac i'w stad ariannol di-nod. Yn 2006, gwerthuswyd ei gyfoeth yn fwy na £90 miliwn, ond gwta wyth mlynedd yn ddiweddarach fe'i dyfarnwyd yn fethdalwr. Bu Andrew Vicari farw yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ar 3 Hydref 2016.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-12-06

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.