Ganwyd 22 Gorffennaf 1882 yn y Carpenter's Arms, Efail Isaf, ger Pontypridd, Morgannwg. Yr oedd John Bryant yn ewythr iddo, ac ef a'i dysgodd i ganu'r delyn. Dechreuodd yn ieuanc gystadlu ac ennill gwobrwyon mewn eisteddfodau. Enillodd y wobr gyntaf yn yr eisteddfod genedlaethol 1891-1896. Ymwelodd ag ardaloedd y deheudir gyda ' Watcyn Wyn ' ac ' Eos Morlais '; darlithiai ' Watcyn Wyn ' ar ganeuon gwerin, a chenid gan ' Eos Morlais ' i gyfeiliant y delyn gan Tom Bryant.
Yn 1906 enillodd radd A.R.C.M.; yr un flwyddyn, ar achlysur agor doc newydd yng Nghaerdydd gan y brenin Edward VII, gwahoddwyd ef i ganu'r delyn i'w Fawrhydi. Ymwelodd â phrif drefi Prydain i gynnal cyngherddau gyda'r ' Golden Quartette '. Cyfansoddodd ddarnau i'r delyn, ac amrywion ar yr alawon ' Merch y Felin ' a ' Merch Megan '.
Bu farw 13 Ionawr 1946, a chladdwyd ef ym mynwent Tabernacl, Efail Isaf, ger Pontypridd.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.