Ganwyd 13 Ionawr 1830, yn fab i'r Parch. Hugh Jones, Llannerch-y-medd. Addysgwyd ef mewn ysgol yn Llannerch-y-medd, a than William Roberts (1809 - 1887 yng Nghaergybi. Bu'n brentis yn Llanfechell tan John Elias, mab John Elias, ac wedi hynny dechreuodd gadw ysgol yn agos i Fangor. Yna aeth i goleg y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala, lle y cynghorwyd ef i ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth. Bu'n weinidog yng Ngharreg-lefn (1862-4), yn Amlwch (1864-71), ac yn olaf yn Netherfield Road, Lerpwl (1871-1911) (symudwyd y capel yn ddiweddarach i Douglas Road). Bu farw 26 Mai 1911.
Ef oedd llywydd Sasiwn Methodistiaid Calfinaidd gogledd Cymru yn 1877, a llywydd y Gymanfa Gyffredinol yn 1886, er nad oedd ganddo, mewn gwirionedd, fawr o ddiddordeb mewn gweinyddiaeth. Pregethwr, yn anad dim, oedd Hugh Jones, a chyfrifid ef yn gyffredinol yn feistr ar areithyddiaeth y pulpud yn yr hen draddodiad. Honnai T. C. Williams mai ef oedd y pregethwr olaf yn y traddodiad hwnnw. Y mae ei fywgraffiad da (1869) o William Roberts, Amlwch (1784 - 1864 yn haeddu sylw. Cafodd radd D.D., ' honoris causa ', gan Brifysgol Princeton, New Jersey yn 1890.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.