ROBERTS, ROBERT GRIFFITH (1866 - 1930), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur

Enw: Robert Griffith Roberts
Dyddiad geni: 1866
Dyddiad marw: 1930
Rhiant: Catrin Roberts (née Evans)
Rhiant: Morris Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 13 Rhagfyr 1866, yn Nhyddyn Llidiart, Dyffryn Ardudwy, yn fab ieuaf Morris a Chatrin Roberts. Methodist Calfinaidd oedd ei dad, a thipyn o gymeriad, ond yr oedd ei fam (née Evans, aelod o deulu a hannai o Lanystumdwy, a disgynydd o deulu Lloyd, Cwmbychan, Ardudwy yn Fedyddwraig Sandemanaidd, a magodd ei dau fab i fod yn aelodau o'r enwad hwnnw, sef dilynwyr John Richard Jones. Bedyddiwyd Roberts c. 1880 ac etholwyd ef yn ddiacon ychydig cyn iddo gyrraedd 17 oed, ond yn fuan blinodd ar syniadau anhyblyg yr enwad bychan y perthynai iddo, ac ymunodd â'r enwad Bedyddiedig hŷn. Torrwyd ar draws ei addysg yn y Dyffryn ac yn Nhywyn, Sir Feirionnydd, ond yn 1886 aeth i goleg y Bedyddwyr yn Llangollen, ac oddi yno i goleg y Brifysgol ym Mangor, lle y daeth dan ddylanwad (Syr) Henry Jones, a chymryd diddordeb mawr mewn athroniaeth. Collodd ei iechyd yn ystod ei arholiad terfynol am radd B.A. (Llundain) yn 1892, a gorfu iddo ddychwelyd adref i geisio adferiad. Yn ddiweddarach treuliodd rai tymhorau yn Aberystwyth yn astudio athroniaeth. Ym Mehefin 1896 derbyniodd alwad i eglwys y Bedyddwyr yn Nolgellau. Symudodd ym Mehefin 1902 i'r eglwys bwysig yng Nghefn-mawr, sir Ddinbych, ac oddi yno, yn derfynol, ym Mehefin 1907 i eglwys Caernarfon. Yr oedd yn un o brif bregethwyr ei enwad, heb fod yn ddiwygiwr nac yn rhethregol ei ddull. Pregethai gydag argyhoeddiad ac yn rhesymegol, yn unol â theithi ei feddwl athronyddol. Credir mai yn ystod ei weinidogaeth yng Nghefn-mawr y cyrhaeddodd ei uchafbwynt fel pregethwr. Rhaid fod yr anhwylder difrifol yn ei wddf a ddioddefodd yn 1910-11, ac a'i gorfododd i roi'r gorau i bregethu am fisoedd, wedi ei lesteirio yn y blynyddoedd dilynol. Ar ôl gwaeledd hir yn 1928-9, bu farw 3 Ionawr 1930. Darllenasai mewn meysydd eithriadol o eang a modern, yn bennaf wrth gwrs, athroniaeth (yn enwedig seicoleg) a diwinyddiaeth. Torrwyd ar draws ei olygyddiaeth o Seren Gomer (1909-11) gan yr ymddiswyddiad anorfod a nodwyd eisoes, ond yn ddiweddarach cyfrannodd lawer i gylchgronau. Ail argraffwyd rhai o'i gynhyrchion (yn arbennig braslun o hanes rhyddid, a thraethawd ar ddylanwad athroniaeth ar ddiwinyddiaeth fodern), yn y gyfrol goffa a enwir isod. Enillodd ei erthyglau yn Y Geiriadur Beiblaidd (1924-6) lawer o glod, a chyhoeddwyd traethawd o'i waith ar John Philip Davies yn Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1927.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.