Ganwyd 20 Gorffennaf 1874, yn fab Thomas a Dinah Bowen, Treorci, Morgannwg, a brawd hŷn i Ben Bowen ac i Thomas (Orchwy) Bowen (tad yr archdderwydd Geraint Bowen a'r bardd Euros Bowen), ac i fam Syr Ben Bowen Thomas. Symudasai'r rhieni o'r ddwy ochr o sir Gaer i byllau glo'r Rhondda. Noddwyd Cymreictod y teulu gan fywyd capel Moriah (B), Pentre. Addysgwyd David yn ysgol fwrdd Treorci, ac yn ddeuddeg oed aeth i weithio ym mhwll Ty'n-y-bedw. Meithrinwyd ei alluoedd gan y gweinidog, yr eisteddfodau bach, a llwyddiant rhyfeddol ei frawd Ben. Bu ysgrifennu cofiant i hwnnw a chasglu'i farddoniaeth yn 1903 yn achlysur a aeddfedodd ei ddoniau ef ei hun. Troes i bregethu yn ystod diwygiad 1904-05. Bu yn ysgol baratoi Pontypridd ac aeth am y flwyddyn 1908-09 i Goleg y Brifysgol Caerdydd. Enillodd gadair eisteddfod y myfyrwyr yn Ionawr 1909. Cafodd alwad i fod yn weinidog Bethel, Capel Isaf ger Aberhonddu, ac ymroddodd i adfer y Gymraeg yno fel y bu William Morris ('Rhosynnog') wrthi yn Noddfa Treorci. Am y cyfnod hwn gweler ei lyfrynnau Oriau Hefin (1902), Emynau pen y mynydd (1905) a Cerddi Brycheiniog (1912).
Symudodd yn 1913 i gapel Horeb, Pum Heol ger Llanelli. Ef oedd golygydd Cymraeg y Llanelly Mercury rhwng 1915 ac 1942, a golygydd Seren yr Ysgol Sul o'r un swyddfa, 1916-50. Sefydlodd Urdd y Seren Fore yn 1929, a bu darparu llenyddiaeth i blant yn Gymraeg yn un o'i brif amcanion. Bu'n aelod o Orsedd y Beirdd o 1897 hyd ddiwedd ei oes. Llywyddodd Gymrodorion Llanelli a Chylch Awen a Chân y dref, ac yr oedd blaengarwch gyda phob mudiad Cymraeg yn brif nodwedd arno. Cyhoeddodd bum llyfr am ei frawd, Ben, wyth llyfryn o'i waith ei hun ynghŷd â'r holl ysgrifennu a wnaeth i'r Llanelly Mercury a Seren yr Ysgol Sul.
Priododd (1), yn 1901 â Hannah Jones, Treorci, a fu farw yn ieuanc gan adael un ferch, Myfanwy. Yn 1909 priododd (2) Elizabeth Bowen, Halfway, Llanelli, a fu farw yn 1937. Bu dwy ferch Rhiannon ac Enid, o'r briodas hon. Bu farw 22 Ebrill 1955, a chladdwyd ef ym mynwent newydd Horeb, Pum Heol, Llanelli.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.