COOMBE TENNANT, WINIFRED MARGARET ('Mam o Nedd '; 1874 - 1956); cennad i gynulliad cyntaf Cynghrair y Cenhedloedd, un o 'ferched y bleidlais, meistres gwisgoedd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a chyfethrydd (medium) enwog

Enw: Winifred Margaret Coombe Tennant
Ffugenw: Mam O Nedd
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1956
Priod: Charles Coombe Tennant
Plentyn: Daphne Tennant
Plentyn: Henry Tennant
Plentyn: Alexander Tennant
Plentyn: Christopher Tennant
Rhiant: Mary Pearce-Serocold (née Richardson)
Rhiant: George Edward Pearce-Serocold
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cennad i gynulliad cyntaf Cynghrair y Cenhedloedd, un o 'ferched y bleidlais, meistres gwisgoedd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a chyfethrydd (medium) enwog
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr; Eisteddfod; Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Graham Lloyd Rees

Ganwyd yn unig blentyn George Edward Pearce-Serocold a'i ail wraig Mary Richardson, o Dderwen Fawr, Abertawe. Yn 1895, priododd Charles Coombe Tennant, ac aethant i fyw i Cadoxton Lodge, Llangatwg, ger Castell-nedd. Daeth hi, felly, yn ferch-yng-nghyfraith i Gertrude Barbara Rich Collier, ac yn chwaer-yng-nghyfraith i Dorothy Coombe Tennant, a brawd H.M. Stanley, y fforiwr enwog.

Yn ystod Rhyfel Byd I yr oedd hi'n is-gadeirydd Pwyllgor Amaethyddol y Merched dros Sir Forgannwg a gwasanaethodd fel cadeirydd Pwyllgor Pensiynau Rhyfel dros Gastell-nedd a'r cylch. Apwyntiwyd hi'n Ynad Heddwch yn 1920 ac eisteddodd ar fainc Sir Forgannwg - y wraig gyntaf i wasanaethu yno. O 1920 hyd at 1931, yr oedd yn un o'r Ymwelwyr Swyddogol i garchar Abertawe, ac yn gyfrifol am gyflawni rhai gwelliannau sylweddol yn nhriniaeth y carcharorion, e.e. ymladdodd y wraig hynod hon i gael caniatâd i'r carcharorion gael raseli diogel yn Abertawe yn lle bod rhaid iddynt dyfu barf. Fel canlyniad, fe fabwysiadwyd y gwelliant trwy'r deyrnas ymhen blynyddoedd.

Ym myd gwleidyddiaeth, yr oedd hi'n Rhyddfrydwraig selog ac yn edmygu Lloyd George yn fawr iawn. Yn 1922 bu'n ymgeisydd am sedd fel A.S. dros Fforest y Ddena, ond methodd ei hennill. Y cysylltiad â ' L.G. ' a oedd yn gyfrifol am ei hapwyntio yn un o'r cynrychiolwyr i'r Cynghrair y Cenhedloedd newydd - y fenyw gyntaf o Brydain. Ond trodd Winifred Coombe Tennant yn genedlaetholwraig frwd ymhen amser, a daeth yn flaenllaw yng Ngorsedd y Beirdd. O dan yr enw ' Mam o Nedd ' hi oedd Meistres y Gwisgoedd, a gadawodd swm o arian i'r Orsedd yn ei hewyllys, a phapurau ynglŷn â'r Orsedd i'r Llyfrgell Genedlaethol. Bu'n gadeirydd Adran Gelf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1918, ac fe'i hetholwyd hi yr un flwyddyn i fod yn aelod o bwyllgor o ugain, i ymchwilio posibiliadau sefydlu llywodraeth ffederal i Gymru. Heblaw hyn oll, yr oedd Winifred Coombe Tennant yn fam i bedwar o blant, sef Christopher, Daphne, Alexander a Henry. Ond rhyw ddeunaw mis bu Daphne byw, a bu'r ergyd ysigol hon yn gyfrifol am droi Mrs. Coombe Tennant i gyfeiriad byd yr ysbrydion. Yr oedd yn hawdd iddi wneud hynny am fod chwaer-yng-nghyfraith arall, sef Eveleen, yn briod â F.W.H. Myers a sefydlodd, gyda Henry Sidgwick, y Gymdeithas Ymchwil Seicigol. Yr oedd Mrs. Coombe Tennant yn gyfethrydd hynod o dalentog, ond ni wyddai'r byd mo hynny, y tu allan i gylch bach o ffrindiau agos, nes ar ôl iddi farw. Ar hyd y blynyddoedd, bu'n gyfethrydd i Syr Oliver Lodge ac eraill megis Gerald Balfour, o dan y ffugenw ' Mrs. Willett '. Mae llawer ysgrif am ei chyfethryddiaeth yn y Jnl. of the Society for Psychical Research a chasgliad o ysgrifau postmortem yr honnwyd iddynt ddod oddi wrthi drwy law Geraldine Cummins (cyfethrydd arall) yn y gyfrol Swan on a black sea (gol. Signe Toksvig, 1970).

Yr oedd yn bersonoliaeth liwgar a chynnes, yn meddu ar argyhoeddiadau personol dwfn ac yn wrol ei safiad drostynt. Gwnaeth lu o gyfeillion yn ei gwlad fabwysiedig a mawr oedd ei diddordeb yn niwylliant Cymru, er na lwyddodd yn hollol i feistroli'r Gymraeg.

Bu farw 31 Awst 1956, yn ei chartref yn 18 Cottesmore Gardens, Kensington. Gorch-mynnodd nad oedd blodau na gwisgoedd galar i fod yn ei hangladd. Ar Fedi 7 cynhaliwyd gwasanaeth coffa amdani yn eglwys yr Holl Saint ger y Tŵr lle y cynrychiolwyd Undeb Bedyddwyr Cymru gan James Nicholas a'r Cymmrodorion gan Syr John C. Cecil-Williams.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.