Ganwyd 10 Ebrill 1878 yn 41 Pontmorlais, Merthyr Tudful, Morgannwg, yn fab i George (barbwr gyda'i siop yn South Street, Dowlais), a Gwenllian (ganwyd Samuel) ei wraig. Fe'i magwyd yn Nowlais, ond symudodd i Ferthyr Tudful yn 1904. Yr oedd ei rieni'n gerddorol; buasai ei dad yn arwain y canu yn Hermon, Dowlais, am bron chwarter canrif, ac yr oedd ei fam o linach y cyfansoddwr caneuon R. S. Hughes ac yn gantores dda. Addysgwyd ef yn breifat a daeth yn drwm dan ddylanwad Harry Evans ac eraill. Aeth ar daith i T.U.A. gyda pharti o gantorion o Gymru yn 1898, ac ar ôl iddo ddychwelyd daethpwyd i'w ystyried fel prif gerddor ei fro enedigol, ac fel olynydd teilwng i Harry Evans, ei athro. Bu'n organydd capel Pontmorlais, Merthyr Tudful, 1903-17, ac yn athro canu rhan-amser yn ysgol ganolraddol Merthyr Tudful, 1904-20, gyda'i gartref yn ' Cartrefle ' ger yr ysgol-ty a fuasai'n gartref i Harry Evans.
Ar ôl ennill diploma F.R.C.O. bu galw mawr am ei wasanaeth fel unawdydd organ, a dywedir iddo agor tua chant o organau newydd yng Nghymru a Lloegr. Yn 1920 penodwyd ef yn gyfarwyddwr cerdd llawn-amser cyntaf yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, lle y bu'n gyfrifol am sefydlu llu o weithgareddau cerddorol, ac y bu'n cydweithio â Walford Davies, i ledaenu gwybodaeth gerddorol i gylch eang o dan nawdd cyngor cerdd y Brifysgol. Ymddeolodd yn 1943 a symud i fyw i Aberdâr, lle y treuliodd weddill ei oes yn cyfansoddi, beirniadu a darlledu.
Daeth i sylw fel cyfansoddwr ar ôl ennill y wobr gyntaf am yr unawd ' Ynys y Plant ' yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909, ac er nad oedd yn cael ei ystyried yn gyfansoddwr toreithiog, a'i fod yn tueddu i edrych ar gyfansoddi fel hobi yn unig, llwyddodd i ddylanwadu'n llesol ar gerddoriaeth ei genedl am dros hanner canrif. Heblaw ysgrifennu nifer fechan o ganeuon, cyfansoddodd hefyd ranganau, anthemau a gweithiau ar gyfer gwahanol offerynnau a chyfuniadau offerynnol, a cheir ganddo tua 40 o donau, siantiau ac anthemau mewn gwahanol gasgliadau tonau. Yr oedd yn effro i'r gwaith rhagorol a wnaethai John Lloyd Williams ym maes canu gwerin ym Mangor o'i flaen, ac ef oedd un o gerddorion cyntaf y genedl i weld digon o rinwedd yn yr alawon gwerin i'w trefnu ar gyfer llais neu offeryn. Y mae ei drefniadau o'r alawon hyn, dros gant ohonynt (gydag amryw ohonynt wedi cael eu llunio pan oedd y cyfansoddwr mewn gwth o oedran) yn firain ac yn artistig. Ymddiddorai hefyd yn alawon cenedlaethol y genedl, a chydolygodd â Sydney Northcote Caneuon cenedlaethol Cymru (1959). Priododd, 31 Awst 1916, Mary Llewellyn, merch ieuangaf D. Williams Jones, Aberdâr. Bu farw yn ei gartref yn Aberdâr ddydd Nadolig 1969.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.