Ganwyd yn 1883 yn ffermdy'r Nant, Bro Hiraethog, Sir Ddinbych, yn fab i Thomas Hooson a'i wraig Marged. Symudodd y teulu i Maelor, Saron, ac wedyn i'r Colomendy a'r Graig ger Dinbych. Addysgwyd John Hooson yn ysgol Prion ac wedyn yn yr ysgol sir, Dinbych. Aeth adre i weithio ar y fferm ond collodd ei iechyd. Aeth yn ôl i'r ysgol ac yn 1903 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Lladin (1906) a Ffrangeg (1907). Yn ddiweddarach enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru. Aeth ymlaen i astudio yn y Sorbonne ac ym Mhrifysgol Berlin a theithiodd lawer ar y cyfandir. Treuliodd ei holl yrfa broffesiynol yn dysgu Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg - yn Ysgol Taunton, Gwlad-yr-Haf am wyth mlynedd ac wedyn yn ysgol City of Westminster am dros ddeng mlynedd ar hugain.
Ond bywyd a diwylliant Cymru oedd ei brif ddiddordeb, yn enwedig bywyd cymdeithasol ac economaidd Bro Hiraethog a Dyffryn Clwyd. Yr oedd yn awdurdod ar enwau lleoedd yr ardaloedd hyn ac ar eu henwogion-fel teulu Myddleton, Galch Hill, Dinbych, teulu'r Salsbrïaid, Emrys ap Iwan, Thomas Jones, Thomas Gee o Ddinbych ac Owain Myfyr, yn ogystal â chysylltiadau llenorion Saesneg, fel Dr. Johnson, â Dyffryn Clwyd. Bu'n fynych yn darlithio yn Gymraeg ac yn Saesneg ar destunau o'r fath yng Nghanolfan y Cymry, Llundain, yng nghapeli Llundain ac mewn cymdeithasau yn Hiraethog ac yn Nyffryn Clwyd. Cyfrannodd erthyglau ar ei hoff bynciau i gylchgronau fel Y Ddinas, Y Drysorfa, Y Traethodydd, The London Welshman ac i bapurau lleol yng Nghymru. Bu'n amlwg ym mywyd crefyddol Cymry Llundain ac yr oedd yn flaenor yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Clapham Junction, am gyfnod maith. Priododd â Gwen Storey o'r Wynnstay, Dinbych, a bu iddynt un ferch. Bu farw 19 Gorffennaf 1969 yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.