JONES, WILLIAM ARTHUR (W. BRADWEN; 1892 - 1970), cerddor

Enw: William Arthur Jones
Dyddiad geni: 1892
Dyddiad marw: 1970
Rhiant: Elizabeth Jones (née Jones)
Rhiant: J.R. Gwyndaf Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Huw Williams

Ganwyd yng Nghaernarfon, 5 Ebrill 1892, yn fab i J. R. Gwyndaf Jones, darllenydd proflenni i'r Genedl, ac Elizabeth Jones ei wraig. Ar ochr ei dad yr oedd o linach Richard Jones, ' Gwyndaf Eryri ', a'i fam yn ferch i John Jones, ' Eos Bradwen '. Oherwydd cysylltiadau teuluol y fam fe'i hadweinid fel ' William Bradwen ' pan oedd yn blentyn ysgol, a mynnodd yntau lynu wrth yr enw hwnnw hyd derfyn ei oes. Magwyd ef ar aelwyd gerddorol; cafodd wersi'n gynnar yn ei fywyd ar ganu piano gan ei fam, ac yn ddiweddarach bu'n astudio canu organ gyda John Williams, Caernarfon, a chyda Roland Rogers, organydd eglwys gadeiriol Bangor. Ar òl ysbeidiau byr yn organydd a phianydd i'r Anrhydeddus F. G. Wynn yng Nglynllifon, Llandwrog, ac o 1910 i 1915 organydd a meistr còr capel y Rug, Corwen, bu'n gwasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mhalesteina a'r Aifft, a'i godi'n is-gapten yn 1918. Yn 1919 fe'i penodwyd (allan o gant o ymgeiswyr) yn organydd a chòr-feistr eglwys S. Seiriol, Caergybi, swydd y bu ynddi hyd fis Tachwedd 1951. Rhwng 1952 a therfyn ei oes, ef oedd organydd sefydlog eglwys Hyfrydle (MC), Caergybi. Enillodd amryw o ddiplomâu mewn cerddoriaeth, gan gynnwys A.R.C.M. (1920), L.T.C.L. (1921), L.R.A.M. (1922), A.R.C.O. (1925), F.R.C.O. (1927) a F.T.C.L. (1928), a chan ei fod yn bianydd medrus bu'n gyfeilydd swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn yr eisteddfodau sirol a thaleithiol dros gyfnod maith. Ond serch ei fedrusrwydd diamheuol fel pianydd ac fel organydd, fel athro ac fel cyfansoddwr y rhagorodd ac y cofir amdano. Bu'n dysgu cerddoriaeth yn breifat yng Nghaergybi am dros hanner canrif, a daeth amryw o'i ddisgyblion i amlygrwydd fel pianyddion a datganwyr.

Fel cyfansoddwr, yn yr eisteddfod y bwriodd ei brentisiaeth, ac enillodd tua 25 o'r prif wobrau am gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol Gwobrwywyd ei unawd ' Paradwys y bardd ' ym mhrifwyl Lerpwl (1929), a'i gân ' Mab yr ystorm ' ym mhrifwyl Aberafan (1932). Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam (1933) cyflawnodd gamp nodedig pan enillodd saith o'r prif wobrau yn yr adran gyfansoddi. Bu ganddo law amlwg yn y gwaith o newid ansawdd y gân Gymreig yn ail chwarter yr 20fed ganrif, a thrwy gyfrwng ei arbrofion ef a nifer fechan o'i gyfoeswyr y sylweddolwyd y gellid ychwanegu at fynegiant y geiriau trwy wneud y cyfeiliant yn rhan bwysig a hanfodol o'r gân. Er mai fel cyfansoddwr caneuon y cofir amdano'n bennaf, ysgrifennodd hefyd ranganeuon, anthemau, deuawdau, gwaith ar gyfer piano a cherddorfa linynnol, amryw o weithiau ar gyfer piano, a darnau i'r organ. (Ceir rhestr gyflawn o'i weithiau yn Cerddoriaeth Cymru, cyf. 5, rhif 3, haf 1976). Prynwyd ei lawysgrifau gan Ll.G.C. yn 1973.

Bu farw mewn ysbyty yng Nghaergybi, 3 Rhagfyr 1970, a'i gladdu ym mynwent eglwys S. Seiriol, Caergybi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.