JONES, Syr LEWIS (1884 - 1968), diwydiannwr a gwleidydd

Enw: Lewis Jones
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1968
Priod: Alice Maud Jones (née Willis)
Rhiant: Margaret Jones
Rhiant: Evan Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 13 Chwefror 1884, mab hynaf Evan a Margaret Jones, Tegfan, College Street, Brynaman, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd ei dad, a dreuliodd ei oes yn y diwydiant alcam (bu farw yn 1934), yn Annibynnwr selog ac yn un o aelodau cyntaf cyngor dinesig Rhydaman. Derbyniodd Lewis Jones ei addysg yn ysgol uwchradd Rhydaman a Phrifysgol Reading, lle treuliodd bum mlynedd. Bu'n gweithio fel ysgolfeistr yn Reading hyd 1910 pan ymddiswyddodd er mwyn ymroi'n gyfangwbl i waith gwleidyddol. Gwasanaethodd yn y Weinyddiaeth Arfau rhwng 1914 ac 1917, lle y daeth yn ysgrifennydd Adran y Blaenoriaethau. Fe'i penodwyd yn ysgrifennydd y South Wales Siemens Steel Association yn 1917, swydd yr arhosodd ynddi am 44 ml.tan 1961.

Yn Hydref 1931 etholwyd ef yn aelod seneddol (Rh. Cenedlaethol, un o ddilynwyr Syr John Simon yn y Senedd) dros etholaeth Gorllewin Abertawe pan orchfygodd H. W. Samuel (Ll.). Cynrychiolodd yr etholaeth hon hyd Gorffennaf 1945 pan, er mawr syndod, y gorchfygwyd yntau gan Percy Morris (Ll.). Safodd eto yn yr un etholaeth fel Rh. Cenedlaethol a Cheidwadwr yn etholiad Chwefror 1950 ond yn aflwyddiannus. Dewiswyd ef yn 1933 yn aelod o'r Cyd-bwyllgor ar Yswiriant Iechyd Cenedlaethol ac yn Ynad Heddwch ar gyfer bwrdeistref Abertawe yn 1934. Olynodd Clement Davies fel aelod o'r Comisiwn Seneddol ar Elusennau rhwng 1937 ac 1945. Yr oedd yn aelod o Gyngor Ymgynghorol Cyffredinol y B.B.C. o 1952. Cyhoeddodd nifer sylweddol o erthyglau a phapurau ar faterion economaidd a diwydiannol. Gwasanaethodd fel is-lywydd hŷn Cyngor a Llys Coleg y Brifysgol, Abertawe, a Phrifysgol Cymru, a chredai'n gryf mewn diogelu'r fframwaith ffederal unedig ar gyfer y Brifysgol. Urddwyd ef yn farchog yn 1944 oherwydd ei wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus, a derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1954. Yr oedd yn Gymro Cymraeg ac yn un o aelodau cyntaf Eglwys Annibynnol Gwynfryn, Rhydaman, pan sefydlwyd hi yn 1903. Daliodd aelodaeth Clwb Criced a Phêl-droed Abertawe am flynyddoedd maith.

Priododd yn 1911 Alice Maud, merch Frederick W. Willis, Bath, a bu iddynt ddau fab. Lladdwyd y mab ieuangaf pan oedd ar wasanaeth milwrol yn yr India yn 1947. Bu Syr Lewis Jones yn byw yn Highfield, Sgeti, Abertawe a bu farw 10 Rhagfyr 1968 yn 84 mlwydd oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.