Ganwyd 1881 yn Fforest-fach, Abertawe, yn fab i Thomas Samuel, gweithiwr tun yng ngwaith Cwmbwrla. Gadawodd ysgol y Cocyd yn 11 oed i weithio yng nglofa Charles, Fforest-fach. Cafodd ddamwain ac anafu un goes yn 1906 a bu'n gloff ac effeithiwyd ar ei iechyd weddill ei oes. Y ddamwain hon a newidiodd gwrs ei fywyd, gan iddo fagu blas at ddarllen yn ystod y misoedd y bu'n orweiddiog. Wedi ailddechrau gweithio aeth i bwll Garngoch 3 lle yr oedd David Rhys Grenfell (aelod seneddol Gwyr yn ddiweddarach) yn gydymaith iddo. Cymerodd ddiddordeb mewn gweithgareddau sosialaidd a bu'n un o ysgrifenyddion Cymdeithas Lafur Abertawe. Mewn ysgol wyliau sosialaidd yn Caister-on-sea cyfarfu â Harriott Sawyer Polkinghorne, ysgolfeistres yn Llundain. Priododd hwy yn 1911 a bu hi'n symbylydd cryf iddo gyda'i astudiaethau yn y gyfraith a gwelodd ffrwyth ei hymdrechion pan alwyd ef i'r Bar yn y Deml Ganol yn 1915. Cafodd weld ei godi'n K.C. yn 1931, yn gofiadur Merthyr Tudful (1930-33) ac yn farnwr ar gylchdaith canolbarth Cymru i ddilyn Ivor Bowen yn 1933. Oherwydd y dyrchafiad olaf hwn bu rhaid iddynt symud i fyw i Landrindod. Yn y cyfamser daeth yn aelod seneddol Llafur cyntaf dros etholaeth gorllewin Abertawe gan drechu Syr Alfred Mond o 115 pleidlais yn Rhagfyr 1923, ond collodd y sedd i Walter Runciman yn Hydref 1924, ei chael eto ym mis Mai 1929, a'i cholli eto o fwy na chwe mil i Lewis Jones yn Hydref 1931. Tyfodd i fod yn un o fargyfreithwyr blaenaf ei gyfnod yng Nghymru. Bu'n amlwg gydag achosion iawndâl i weithwyr a bu'n gadeirydd tribiwnlys gwrthwynebwyr cydwybodol yn ne Cymru am rai blynyddoedd. Yr oedd yn alluog a dewr iawn, a chanddo'r ddawn i wneud cyfeillion ym mhob cylch.
Bu ei wraig farw yn Abertawe, 19 Awst 1939, a phriododd (2) yn Llandrindod 24 Ebrill 1941 ag Annie Gwladys, gweddw Syr Henry Gregg a merch David Morlais Samuel, Abertawe. Yr oedd hi'n aelod o Orsedd y Beirdd wrth yr enw 'Morlaisa'. Bu ef farw 5 Ebrill 1953.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.