LEACH, ARTHUR LEONARD (1869 - 1957), hanesydd, daearegwr a hynafiaethydd

Enw: Arthur Leonard Leach
Dyddiad geni: 1869
Dyddiad marw: 1957
Priod: Sarah Leach (née Currie)
Rhiant: Sarah Leach
Rhiant: John Leach
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd, daearegwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: W. Gwyn Thomas

Ganwyd yn Ninbych-y-pysgod, Penfro, 12 Tachwedd 1869, yn fab hynaf John a Sarah Leach. Bu John Leach (1841 - 1916) yn argraffydd gyda'r Tenby Observer cyn sefydlu busnes argraffu a chyhoeddi iddo'i hun a chychwyn y Tenby and County News yn newyddiadur lleol llwyddiannus mewn cystadleuaeth â'r Tenby Observer. Ei fab ieuangaf, Ernest H. Leach, a'i dilynodd yn y fusnes. Cyfranogodd y ddau fab yn niddordebau hynafiaethol eu tad a symbylwyd, hwyrach, gan ei gyfathrach ag Edward Laws. Cyfyngwyd addysg ffurfiol Arthur Leach i'r ysgol genedlaethol leol, a Choleg y Drindod, Caerfyrddin lle'r ymgymhwysodd i fod yn athro ysgol yn 1890, ond yn y pynciau academaidd hynny y cyfrannodd yn sylweddol iddynt, yr oedd, o raid, i raddau helaeth yn hunan-addysgedig. Treuliodd ei yrfa dysgu (a chydnabyddai'n agored ei bod yn gas ganddo) yn gyfangwbl yn ne-ddwyrain Llundain, y rhan helaethaf yn yr ysgol elfennol yn Ancona Road, Plumstead. Ond yn ystod y gwyliau ceid ef yn aml yn ôl yn Ninbych-y-pysgod yn archwilio a chofnodi hynafiaethau'r ardal, a pharhaodd y patrwm hwn ar ôl ei briodas â Sarah Currie yn eglwys S. Margaret, Plumstead, ar 23 Rhagfyr 1897. Ganwyd hi yn ardal Lerpwl yn 1871 a symudasai i Plumstead.

Y flwyddyn ganlynol ymddangosodd ei lyfr cyntaf Leach's Guide to Tenby a gyhoeddwyd gan ei dad i gystadlu â Mason's Guide o wasg yr Observer; cafwyd amryw argraffiadau eraill yn ddiweddarach. O'r pryd hwn dechreuodd erthyglau byr ar hanes, hynafiaethau, a hanes natur lleol ymddangos yn y Tenby and County News - wythnosolyn ei dad - arfer a barhaodd dros ei fywyd, hyd yn oed wedi i'r papur gael ei lyncu gan ei gystadleuydd. Ymddangosodd nodiadau ganddo hefyd ym mhapur lleol Woolwich. Dechreuodd ei aelodaeth oes o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1899, ond o dan ddylanwad y Dr Arthur Vaughan ac E. E. L. Dixon cyfeiriwyd ei ddiddordeb yn hytrach tuag at ddaeareg, ac ymunodd â Chymdeithas y Daearegwyr yn 1905, ar ôl mynychu darlithiau ar y pwnc yn y Woolwich Polytechnic (lle bu'n gyfaill i ddaearegwr nodedig arall, R. H. Chandler). Yn Nhrafodion y gymdeithas am y flwyddyn honno ymddangosodd y cyntaf o lawer o adroddiadau ganddo ar ei hymweliadau â safleoedd yng ngogledd-orllewin Caint yn ogystal â de Penfro (ef oedd trefnydd ei chyfarfod yn Ninbych-y-pysgod yn 1909), a thros y deng mlynedd ar hugain dilynol fwy neu lai, ymddangosodd mwy na deugain o bapurau ac adroddiadau ganddo yn y Trafodion, yn ogystal ag eraill yr oedd ef yn gyd-gyfrannwr iddynt. Gwnaeth gyfraniad pwysig i waith y Gymdeithas, i ddechrau fel archwiliwr ac aelod o'i Chyngor, ond yn fwyaf arbennig fel Ysgrifennydd Cyffredinol yn ystod 1913-18. Cydnabuwyd ei wasanaethau parhaol drwy gyflwyno iddo Wobr Foulerton yn 1925 am waith amatur da. Bu'n is-lywydd dros flynyddoedd lawer ac yn y diwedd ei ethol yn llywydd am 1932-34 (daeareg a golygfeydd ei fro enedigol oedd pynciau ei ddwy ddarlith lywyddol) a gwnaed ef yn aelod anrhyd. yn 1943. Etholwyd ef yn Gymrawd o Gymdeithas Ddaearegol Llundain, cymdeithas uwch ei bri, yn 1910 a derbyniodd rodd o Wollaston Donation Fund y Gymdeithas yn 1926. Cydnabuwyd ei gyfraniad i ddealltwriaeth o ddaeareg de Sir Benfro ym mhrif astudiaeth Dixon o'r ardal honno - Memoirs of the Geological Survey of the South Wales Coalfield, Part XIII (1921).

Arweiniodd archwilio clogwyni fel daearegwr i'w ddarganfyddiadau (aelwydydd, tomenni, etc. ac offer callestr) yr adroddwyd amdanynt mewn cyfres o nodiadau yn Archæologia Cambrensis a chyfnodolion eraill, megis Nature o 1909 i 1933. Yr oedd ei ddarganfyddiadau o safleoedd gwaith callestr ar dir soddedig, a hefyd ei archwiliad o safle anheddol yn Ogof Nanna ar Ynys Bŷr, a gofnodwyd ganddo yn hynod fanwl, er ei oleddfu, i raddau, gan waith diweddarach, yn bwysig. Ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif tynnwyd ef i ddadleuon yn codi o dystiolaeth am ddyn cynnar mewn perthynas â nodweddion daearegol diweddar yr Oes Ia. Yr oedd ei olygiad ef yn nodweddiadol ffeithiol yn hytrach na dyfaliadol. Treuliai ei wyliau'n aml yn ymweld â safleoedd archaeolegol yng ngorllewin a chanol Ffrainc, ar y rhai y byddai wedyn yn traddodi darlithiau darluniedig gyda'i sleidiau llusern ei hun.

Gyda'i ymddeoliad o ddysgu yn 1929 yr oedd yn gallu cymryd at ymchwil ar hanes lleol gan ddefnyddio adnoddau'r Amgueddfa Brydeinig a llyfrgelloedd eraill yn Llundain. Ffrwyth hyn yw ei waith mwyaf sylweddol, The history of the Civil War (1642-1649) in Pembrokeshire and on its Borders (Llundain, 1937), cyhoeddiad y bu rhaid iddo ef ei hun roi cymhorthdal iddo. Er ei fod i fesur helaeth yn grynhoad dogfennol, dangosodd ddefnydd sicr o ffynonellau sy'n parhau'n derfynol (fe'i hadolygwyd gan Syr Frederick Rees yn Archæologia Cambrensis, 93 (1936), 267-71). Yr un pryd yr oedd yn casglu defnyddiau ar hanes Dinbych-y-pysgod nas paratowyd at ei gyhoeddi, ysywaith, er i ddetholion ohonynt ymddangos yn aml ar ffurf nodiadau ar wahanol bynciau hanesyddol mewn papurau lleol.

Yn 1940 dychwelodd i'w dref enedigol ac yn ddi-oed gwahoddwyd ef i fod yn guradur yr Amgueddfa a oedd yn sefydliad annibynnol yno, a gweithredodd yn ddiweddarach fel ei thrysorydd a'i hysgrifennydd am bymtheg mlynedd. Rhoes lawer o'i amser i'r gwaith hwn gan ennyn mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r Amgueddfa a defnydd ohoni. Cyn gynhared ag 1918 yr oedd wedi cyhoeddi gwaith bychan Some Prehistoric Remains in Tenby Museum (ailargr. 1931), ac yn awr dygodd fedrusrwydd newydd mewn arddangos y cyfryw ddefnyddiau. Yr oedd yn unigryw addas i ysgrifennu hanes un a esgeuluswyd ond a oedd yn hynafiaethydd pwysig i Sir Benfro, y Parch. Gilbert Smith (Archæologia Cambrensis, 98 (1945), 249-54). Symbylwyd ef gan gasgliad yr Amgueddfa o ddyluniadau i gyhoeddi ei Charles Norris (1779-1858) of Tenby and Waterwynch, topographic artist (1949) yn ymgorffori catalog o waith Norris. Wedi i'r Amgueddfa ddod dan aden Amgueddfa Genedlaethol Cymru daeth yntau'n aelod o'i Chyngor a gwasanaethu ar y Pwyllgor Gwyddonol. Yn 1948 cydnabu Prifysgol Cymru ei gampau academaidd drwy roddi iddo radd M.A. er anrhydedd

Yr oedd ei gyhoeddiadau toreithiog bob amser yn fanwl ac addysgiadol, yn adlewyrchu meddwl ymchwilgar ac effro. Ar waethaf osgo academaidd, llym braidd, ac amheugar, yr oedd ganddo'r ddawn i drosglwyddo sêl am wybodaeth i eraill, yn arbennig i blant, er nad oedd ganddo blant ei hun. Bu farw ei wraig ym mis Mawrth 1956 ac yntau ar 7 Hydref 1957. Fe'i claddwyd ym mynwent Dinbych-y-pysgod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.