LLOYD, JOHN MORGAN (1880 - 1960), cerddor

Enw: John Morgan Lloyd
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1960
Rhiant: John Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Huw Williams

Ganwyd 19 Awst 1880 yn y Pentre, Rhondda, Morgannwg, o deulu cerddorol a chrefyddol. Hanoedd John Lloyd, ei dad (dilledydd wrth ei alwedigaeth a fu'n byw yng Nglan-y-don, y Barri, ac a fuasai farw yn 1910) o gyff ym Maldwyn, ac ef oedd un o brif sefydlwyr eglwys Gymraeg Penuel (MC), y Barri. Brodor o Drefforest oedd ei fam, wyres i Benjamin Williams, gweinidog Saron, Pontypridd, a hi oedd organydd cyntaf capel Saron, Trefforest.

Yn gynnar yn 1889 symudodd y teulu o'r Pentre i fyw yn y Barri, ac yno y treuliodd y cerddor weddill ei oes. Dangosodd duedd at gerddoriaeth yn gynnar iawn yn ei fywyd, a chanai'r organ yn Penuel, y Barri, pan oedd yn naw oed. Addysgwyd ef yn Ysgol Lewis, Pengam, a derbyn gwersi mewn cerddoriaeth gan J. E. Rees, y Barri. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio am ychydig yn siop ei dad, ond nid oedd ei galon yn y gwaith hwnnw. Cafodd ei ddewis yn gyfeilydd i'r Barry District Glee Society pan oedd yn blentyn ysgol, ac yn 1900 cyfeiliai i'r Royal Welsh Choir yn arddangosfa Paris. Cymerodd yr arholiadau cyntaf mewn cerddoriaeth yn Rhydychen a daeth i sylw David Evans, a phenderfynodd fynd ato i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd, lle y derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn Ionawr 1904.

Ar ôl cwblhau ei gwrs bu'n organydd yn eglwys Trinity (Presbyteraidd Saesneg), y Barri, am ddeng mlynedd, ac oddi yno symudodd i eglwys Cathedral Road, Caerdydd. Ymunodd â'r fyddin yn 1915, a'i ddyrchafu yn swyddog-gaplan, a chafodd brofiadau chwerw yn Vimy Ridge, Oppy Wood, a Cambrai. Penodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1920, ac yn Athro yno (fel olynydd i David Evans yn 1939, swydd y bu ynddi hyd nes iddo ymddeol yn 1945. Yr oedd wedi graddio mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yn 1921, ac ennill gradd D.Mus. yno yn 1929. Bu farw yn ei gartref yn y Barri, 30 Mehefin 1960, a'i gladdu ym mynwent Merthyr Dyfan.

Nid ysgrifennodd lawer o gerddoriaeth, ond ceir ganddo ychydig o ddarnau byr megis yr unawdau 'Dilys ' ac 'Alwen Hoff', y fadrigal 'Wele gawell baban glân', a'r rhan-gân (SSA) 'Llyn y Fan', sy'n enghreifftiau ardderchog o'i arddull. Perfformiwyd hefyd ei 'Arthur yn Cyfodi' yng ngwyl y Tri Chwm, 1936, a'i 'Te Deum' i gôr a cherddorfa, dan ei arweiniad, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938.

Rhagorodd fel athro, a bu amryw o gyfansoddwyr blaenllaw'r genedl, yn eu plith Grace Williams ac Alun Hoddinott , yn eistedd wrth ei draed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.