Ganwyd yn y Bodist Isaf, Glanaman, Caerfyrddin, 10 Awst 1875, yn fab i Jenkin ac Angharad Morgan. Addysgwyd ef yn ysgol Frytanaidd Bryn-lloi, Glanaman, ond dechreuodd weithio yng nglofa'r Mynydd, Cwmaman, pan oedd yn 12 oed. Bu wedyn yn gweithio ym melin gwaith alcan y Raven, Glanaman, tan ei ymddeoliad yn 1930. Priododd â Harriet, merch Thomas a Sarah Jones o Siop Bryn-lloi, Glanaman, 5 Hydref 1901. Yr oedd ei wraig (a fu farw mewn gwasanaeth crefyddol yng nghapel Bryn Seion, Glanaman, 25 Tachwedd 1956) yn chwaer i'r gweinidogion W. Glasnant Jones, Dafydd G. Jones, ac E. Aman Jones. Bu iddynt bedwar o blant.
Mewn oes ddifantais manteisiodd John Jenkyn Morgan ar bob cyfle i hogi meddwl a dawn. Yr oedd yn ŵr diwylliedig, a thrwy ei gyfeillgarwch agos â Richard Williams ('Gwydderig') datblygodd yn eisteddfodwr brwd, ac enillodd lawer o wobrau, yn bennaf am draethodau a llawlyfrau ar hanes lleol. Urddwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Llanelli yn 1895 ac fel ' Glanberach ' yr adnabyddid ef yng Ngorsedd. Bu'n gystadleuydd cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ni bu ei well am feirniadu'r beirniaid, yn enwedig os oedd y rheini'n rhai o wŷr y colegau. Cipiodd wobrau yn Eisteddfodau Rhydaman 1922, Abertawe 1926, Caergybi 1927, Dinbych 1939, Llanrwst 1951, a Phwllheli 1955. Diogelir rhai o'r cyfansoddiadau hyn yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Gwasanaethodd fel un o lywyddion y dydd yn Eisteddfod Genedlaethol 1948, Pen-y-bont ar Ogwr, ac ef oedd aelod hynaf yr Orsedd ar farwolaeth Howell Elvet Lewis ('Elfed') yn 1953. Darlledodd lawer ar y radio a chyfrannodd erthyglau ar hanes lleol i'r wasg gyfnodol Gymraeg. Casglodd lyfrgell helaeth o ddefnyddiau yn ymwneud â dyffryn Aman a'r cylch, a bu'n flaenllaw gyda phob mudiad diwylliannol yn yr ardal. Ef oedd ysgrifennydd Eisteddfodau'r Plant yn ystod gweinidogaeth Rhys J. Huws yng nghapel Bryn Seion, Glanaman - eglwys y bu ganddo ran flaenllaw yn ei sefydlu. Bu hefyd yn llyfrgellydd ac ysgrifennydd darllenfa'r glowyr yng Nghwmaman. Cyhoeddodd Cofiant John Foulkes Williams (1906), a Hanner Canrif o Hanes Bryn Seion, Glanaman, 1907-1957 (1957). Bu farw yn ei gartref ar Fryn-lloi, Glanaman, 18 Mai 1961, a chladdwyd ef ym mynwent yr Hen Fethel, Cwmaman.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.